主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Monica
Dafad ddu llenyddiaeth
  • Sylwadau gan Glyn Jones ar Monica, Saunders Lewis.

    Un o ddefaid duon ein llenyddiaeth yw Monica, nofel gyntaf Saunders Lewis, a hynny am ei bod yn trafod thema wrthodedig.

    Yng ngeiriau'r awdur: ". . . pechod yw priodoledd arbennig dyn, y peth mwyaf dynol mewn bod, ac felly'n anhepgor i farddoniaeth a ll锚n."

    Nid thema newydd i'n ll锚n mo hon.
    Cawn ddarlun byw iawn o bechod Theomemphus yng ngherdd epig Williams Pantycelyn, a dyna pam y cyflwynodd Saunders Lewis ei nofel i goffadwriaeth y g诺r hwnnw.

    Ond yn wahanol i Theomemphus, nid yw Monica yn edifarhau nac yn troi at y Groes, a chredaf mai dyna pam y gwrthodwyd y nofel pan y'i cyhoeddwyd.

    O bechod i bechod
    Hercian o bechod i bechod yw hanes Monica Maciwan, heb wybod paham, a heb fedru gwneud dim am y peth.

    Mewn ymgais i ddod a fflach o liw i'w bywyd undonog dechreua gerdded strydoedd Caerdydd yn chwilio am fechgyn; yna daw ei chwaer 芒 bachgen adref, a theimla Monica'r nwydau'n fflamio oddi mewn iddi.

    Rhydd ei bryd ar ddwyn cariad ei chwaer, a dyna a wnaiff gan fyw mewn blys o gnawdolrwydd gydag ef nes beichiogi.

    Dyma'r trobwynt. Fel yr eglura i'w g诺r:
    "Tegan oeddit ti i mi. Cherais i mohonot ti'n onest erioed."

    Troi'n salwch
    Ac o ganlyniad dechreua gas谩u ei chorff afluniaidd, y babi a'i hanffurfia, a'r g诺r a'i beichiogodd.

    Try ei hunigrwydd yn salwch meddwl gwyrdro毛dig.
    Dechreua esgeuluso ei hun, i gosbi'i g诺r a'r baban yn ei chroth.
    Erys yn ei gwely am fisoedd ar y tro.
    Mae'r darlun yn ddigon i godi cyfog.

    "Cronasai briwsion a darnau bwyd yn dew dan ei chluniau a'i thraed . . . Yr oedd olion cyfog ar y blancedi ac ar yr huling wrth droed y gwely. Yr oedd ei choesau hi yn dywyll ac wedi chwyddo, a lleiniau chwyslyd dan ei g锚n ac ar ei gwddf a'i dwyfron. Gorweddai Monica yn drom a disymud yng nghanol y drewdod."

    Fodd bynnag, nid yw ei chynllun yn gweithio. Yn ei rwystredigaeth aiff Bob ei gwrdd 芒 phutain a deil afiechyd rhywiol.

    Dychmygwch gyhoeddi nofel fel hon yn y Tridegau!

    Darlunio cymdeithas
    Mae'r nofel yn dechrau yn syth drwy ddarlunio cymdeithas:
    '"Clyw'r wraig yna eto."
    "Honno sy'n chwerthin?"
    "O hyd ac o hyd. Mae'n crafu ar fy nerfau i. Bob hwyr bydd hi a'i g诺r yn sgwrsio gyda Mrs North, ac waeth beth a ddywedo'r g诺r, bydd hi'n ei glywed yn ddigri. . . Dos at y ffenest yn awr."

    Cymdeithas fusneslyd, feirniadol sydd yma. Cymdeithas nad yw'n gymdeithas.

    Pan ddaw Monica i'r llun yn llawn, ychydig baragraffau wedyn, gwelwn yr effaith a gaiff cymdeithas fel hon ar unigolyn:

    "Mae'n gas gen i'r babi yn awr cyn ei weld. Fyddaf i ddim byw, wyddoch chi."
    Chwarddodd Mrs Maciwan yn ddilywodraeth."

    Dyma enghraifft benigamp o ddawn ddramodyddol Saunders Lewis. Gall ennyn ein chwilfrydedd gyda chymeriad a sefyllfa sinistr fel hon.

    Gwraig nad yw'n ddeugain eto yn s么n am ei marwolaeth ac yn chwerthin.
    Rhaid darllen ymlaen.

    Crefft symbolaeth
    Mae defnydd crefftus o symbolaeth yma hefyd. Mae tai p芒r y maestrefi yn cynrychioli'r p芒r priodasol; yn gaeth i'w gilydd ond yn ynysig o bopeth arall.
    "Rhesi . . . o uffernau twt, pob un a'i gardd flodau o'i blaen."

    Mae cathod Monica yn cynrychioli ei hafiechyd. Sala'n byd aiff hi agosa'n byd y deuant nes eu bod erbyn diwedd y nofel yn cysgu gyda hi.

    Cymhara Monica grud ei phlentyn ag arch ac mae'n darganfod gwenwyn yn un o ddroriau ei g诺r, a hithau'n meddwl am farwolaeth.

    Gwendidau
    Ond nid yw'r nofel heb ei gwendidau, a hynny'n bennaf am mai dramodydd yw Saunders Lewis nid nofelydd.

    Mae gorysgrifennu a pharagraffau o ddisgrifio.

    A dyna ichi Alis a Lili. Esgus o gymeriadau ydynt. Yno ond i Monica gael dod atynt i adrodd ei hanes trasig.

    Credaf hefyd fod y traethydd hollbresennol yn traethu'n rhy holl bresennol weithiau:

    "Nid y claf yw unig anrhaith afiechyd. Rheibia weithiau gryfder yr ifanc, gan ei gipio ymaith oddi wrth hoywder bywyd a'i glymu wrth erchwyn gwely i weini mewn drycsawr a myllni ar ysglyfaeth angau."

    Pam na edy'r awdur i Monica adrodd ei stori yma?
    Profiad ail law a gawn.

    Nid yw'r diweddglo yn gwbl addawol ychwaith wrth i Monica fynd o amgylch y tai doctor i ffeindio doctor ei g诺r.

    Y mae un o'r doctoriaid hyn yn ffonio ei gyfaill, lle mae Bob yn gorwedd.

    A Monica wedyn yn llithro i'r llawr tu allan i'r union d欧 hwnnw, ychydig funudau cyn i'w g诺r adael. Gormod o gyd-ddigwyddiad.

    Yn ddim ond cant ac ugain o dudalennau, nofel fer yw Monica ac er yn nofel ych a fi, mae'n nofel graff gan awdur deallus.

    Astudia thema sy'n gwbl berthnasol i'n byd ni heddiw - gwacter ysbryd a'i hachosion, y modd mae'r rhain yn arwain at bechod, a hwnnw yn ei dro, at ddinistr.

  • Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 主播大秀 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008

    Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy