主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Salmau C芒n Newydd
Gwynn ap Gwilym yn sgwrsio am ei lyfr newydd
Bu Gwynn ap Gwilym yn trafod ei lyfr diweddaraf, Salmau C芒n Newydd gyda Dei Tomos ar ei raglen nos Sul ar 主播大秀 Radio Cymru.

Mae'r llyfr yn ffrwyth tair blynedd o waith ac yn cynnwys fersiynau mydryddol cyfoes o'r salmau.

Y nod yw cynorthwyo cynulleidfaoedd eglwysi a chapeli ledled Cymru i ganu'r salmau unwaith eto.

Mae'r llyfr yn nodir mesur pob emyn gydag awgrym o emyn-d么n addas i bob un ohonynt.

Yn ei sgwrs gyda Dei Tomos dywedodd Gwynn ap Gwilym fod y Salmau yn perthyn i gyfnod rhwng 920CC a 587CC gyda'r Salmau yn cael eu defnyddio yn y deml yn Jerwsalem.



"Yr oedden nhw'n defnyddio'r salmau yma i bob math o bwrpasau yn litwrgi'r deml," meddai.

Yn y Deml
"Roedd yna achlysuron sy'n cael eu henwi yn yr Hen Destament pan ddisgwylid i unigolion fynd i'r deml i gyflawni rhai defodau crefyddol. Nid yn unig unigolion, ond yr oedd achlysuron pan fyddai'r gymuned gyfan yn mynd i'r deml ac yr oedd yna achlysuron n penodol frenhinol hefyd pan fyddai'r gymuned yn coroni brenin newydd er enghraifft neu pan fyddai yna briodas yn y teulu brenhinol," meddai.

"Wrth gwrs mae yna rai salmau a gyfansoddwyd ar 么l difrodi'r deml fel Salm 137, Wrth afonydd Babilon, yno yr eisteddasom ac wyliasom pan feddyliasom am Seion - mae'n amlwg fod honno wedi ei sgrifennu yn ystod y gaethglud ym Mabilon."

Eglurodd i Lyfr y Salmau fel y gwyddom ni amdano gael ei roi wrth ei gilydd tua'r ail ganrif cyn Crist.

"Mae yna rai salmau diweddar a rhai salmau efallai yn perthyn i gyfnod cyn cyfnod Solomon ond mae'r rhan fwyaf o ddigon yn perthyn i'r canrifoedd yna rhwng 920 a 587 CC," meddai.

Nid Dafydd
Awgrymodd hefyd mai trwy gamgyfieithiad efallai y daethant i'w hadnabod fel Salmau wedi eu cyfansoddi gan Ddafydd.

"Mae yna dystiolaeth yn rhai o'r salmau sy'n awgrymu na allai Dafydd ddim fod wedi eu hysgrifennu am eu bod yn perthyn i gyfnod diweddarach.

"Er enghraifft, mae unrhyw Salm sy'n cyfeirio'n benodol at y deml yn Jerwsalem yn amlwg yn perthyn i gyfnod diweddarach na Dafydd oherwydd chodwyd y Deml yn Jerswlam ond gan Solomon, mab Dafydd.

Dywedodd i'r camsynied godi oherwydd bod teitlau rai o'r Salmau sy'n bosib eu cyfieithu fel unai gan Ddafydd neu i Ddafydd fel ag yw yn y Beibl Cymraeg Newydd.

"Ac mae'n debyg nad nodi awduriaeth y mae'r teitl hwn ond dynodi perchnogaeth. Dyma'r salmau oedd yn perthyn i Ddafydd neu i olynydd neu olynwyr Dafydd ar yr orsedd yn Jerwsalem," meddai.

"Salmau ydi'r rhain mae'n debyg sy'n dod o'r archifau brenhinol yn y brifddinas."

Pethau i'w canu
Dywedodd mai pethau i'w canu yw salmau yn eu hanfod a dyna'r arferiad yng Nghymru hyd yn oed mor gynnar a 1621 pan gyhoeddwyd Salmau C芒n Edmwnd Prys.

"A'r hyn oedd o'n ei wneud oedd parhau traddodiad oedd yn bod yn barod mewn ieithoedd eraill, fel yr Almaeneg," meddai.

"Ac yn sicr yr oedd yna salmau c芒n wedi eu cyhoeddi cyn dyddiau Edmwnd Prys," meddai.

Ychwanegodd fod tystiolaeth yn yr Hen destament ei hun mai cael eu canu oedden nhw ac mai alawon y cenid y salmau arnyn nhw yw teitlau fel, Ar ewig y wawr, Ar ddiliau ac Ar golomen y derw pell".

Yn y cyfnod mwy diweddar dywedodd mai llafarganu a fu'n fwyaf arferol yng ngwasanaethau'r eglwys yn union fel ag y maent yn y Beibl.

"A dyna lle mae'r broblem yn codi. Pan gafwyd cyfieithiad newydd yn 1988 doedd y salmau ddim wedi eu gosod mewn trefn ar gyfer eu canu a'r cwestiwn sy'n codi wedyn yw a ydi y mwyafrif o gynulleidfaoedd Cymru wedi colli y gallu neu yr awydd i lafarganu?" meddai gan ychwanegu mai'r duedd bellach yw dweud y salmau er mai pethau i'w canu ydyn nhw.

Ymdrech i atal y duedd hon yw ei lyfr lle mae wedi eu troi'r salmau eto yn ganeuon i'w canu a'u gosod ar donau cynulleidfaol.

"Eu troi nhw'n emynau gan geisio cadw mor agos ag sy'n bosibl at destun y Beibl Cymraeg Newydd a'u cyflwyno mewn ffordd a fydd yn ystwyth i'w canu a'r gobaith ydi y byddan nhw yn ganadwy ac yn ddealladwy ar yr un pryd.," meddai.

Mae ffefryn
Datgelodd wrth Dei Tomos fod ganddo ffefryn - Salm 136, y cafodd "gryn drafferth" 芒 hi gan egluro mai ei anhawster oedd bod ail fraich pob adnod yr un geiriau gydol y salm - ond, o glywed yr emyn O Joyous Easter Tide daeth gweledigaeth a'i galluogodd i droi'r salm yn gerdd.

.

Cysylltiadau Perthnasol
  • Adolygiad Gwilym H Jones o'r gyfrol

  • Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy