主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adnabod awdur adnabod awdur
Aled Rhys Hughes
Holi Aled Rhys Hughes a dynnodd y lluniau ar gyfer M么r Goleuni - Tir Tywyll, llyfr i gydfynd a cherddi Waldo Williams
Enw:
Aled Rhys Hughes.

Beth yw eich gwaith?
Ffotograffydd a darlithydd

Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
O ddifri, dim ond bod yn ffotograffydd!

O ble'r ydych chi'n dod?
Rwy'n enedigol o Ynyshir yn y Rhondda Fach, ond wedi byw yng Nghwmllynfell ac yn Rhydaman.

Lle'r ydych chi'n byw yn awr?
Rhydaman

Clawr llyfr AledLle dechreuodd eich diddordeb mewn tynnu lluniau?
Dwn i ddim, ond mae'n bosib mai gan fy nhad y daeth y diddordeb i ddechrau.

Wnewch chi ddweud ychydig am y lluniau yn y llyfr am Waldo?
Gwnes y rhan fwyaf ohonynt yn Sir Benfro rhwng mis Mawrth a mis Mai eleni, ar 么l imi gael comisiwn gan Wasg Gomer. Lluniau wedi cael eu hysbrydoli gan fywyd Waldo, yn hytrach na dehongliadau uniongyrchol o'r lenyddiaeth, ydyn nhw. Mynd i chwilio am fannau cyfriniol, a cheisio gwneud lluniau fyddai'n cyfleu'r teimlad oedd yn y mannau hynny, wnes i.

Pa luniau diddrol eraill ydych chi wedi eu cyhoeddi neu eu harddangos?
Cyfres lluniau Wrth Chwilio am Gantre'r Gwaelod, lluniau a wnaed mewn ymateb i foddi - mae rhai ohonynt wedi eu tynnu yn Nhryweryn. Cyfres Y Dydd Byrraf, lluniau a wnaethpwyd o gamera ar y we, ar Ynys Sgitheneach (Skye) - gafodd eu dangos yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Ysgrifennodd Mererid Hopwood gerdd yn ymateb iddyn nhw!

Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Llyfrau lluniau o adar.

A fyddwch yn edrych arno'n awr?
Byddaf.

Pwy yw eich hoff awdur?
Roland Barthes

Pwy yw eich hoff dynnwr lluniau - a pham?
Peter Finnemore: y ffotograffydd mwyaf gwreiddiol i mi ddod ar ei draws erioed - ac mae'n Gymro Cymraeg!

A oes unrhyw lyfr neu lun wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
Llyfr Minor White, Mirrors, Messages, Manifestations.

Pwy yw eich hoff fardd?
R. S. Thomas.

Pa un yw eich hoff gerdd?
Mewn Dau Gae.

Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
O ba le'r ymroliai'r mor goleuni...'

Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Ffilm Bergman, Y Seithfed S锚l,
Ac ar y teledu, The League of Gentlemen.

Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Lemmy Caution, yn y nofel Alphaville, yw fy hoff gymeriad.

Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
Pawb i bisho drwy'i un ei hun!

Pa un yw eich hoff air?
Nwmenaidd.

Pa ddawn arall hoffech chi ei chael?
Bod yn ieithydd!

Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
llysieuwr
dwys
didwyll.

A oes llun yr ydych yn ysu am gael ei dynnu?
Y nesaf!

Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi'n ei edmygu fwyaf a pham?
Heb ateb

Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn tynnu lluniau yno?
Y Croeshoeliad.

Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a sut fyddech chi'n ei osod ar gyfer llun?
Alfred Wallis, yr artist o Gernyw, yn eistedd wrth ei ddesg yn peintio.

Pa un yw eich hoff olygfa a pham?
O Ben Tyrcan dros y Mynydd Du - gan fy mod yn gallu gweld yn bell oddi yno.

Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Nid pryd bwyd, ond pice ar y m芒'n fy mam-gu.

Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Cerdded, darllen.

Pa un yw eich hoff liw?
Porffor.

Pa liw yw eich byd?
Du a gwyn.

Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Gwahardd Americanisms!!

A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Mae gen i nifer o syniadau, ond dim byd penodol ar hyn o bryd.

Cysylltiadau Perthnasol



Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
adolygiadau
Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy