主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adnabod awdur adnabod awdur
Bet Jones - holi
Awdur nofel am blentyndod yn y Pumdegau
  • Enw:
  • Bet Jones

  • Beth yw eich gwaith?

  • Athrawes yn Ysgol y Graig, Llangefni.

  • Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?

  • Gweithio yn Butlin's ac mewn amryw o wahanol siopau ym Mhwllheli yn ystod gwyliau ysgol a choleg.

  • O ble'r ydych chi'n dod?

  • Cefais fy ngeni a'm magu ym mhentref Trefor yn yr hen Sir Gaernarfon.

  • Lle'r ydych chi'n byw yn awr?

  • Rwyf bellach yn byw ym mhentref Rhiwlas, ger Bangor.

  • Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?

  • Mae gennyf atgofion da o'm bywyd ysgol a choleg. Yn anffodus, doedd yr addysg ddim yn cael gymaint o sylw 芒'r cymdeithasu!

  • Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf - dwedwch ychydig amdano?

  • Ysgrifennu ar gyfer Cystadleuaeth y Fedal Ryddiaith pan sylwais mai 'Plentyndod' oedd y testun. Mae'n stori led-hunangofiannol am blentyndod mewn pentref chwarelyddol yn y 1950au.

  • Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?

  • Dim un.

  • Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?

  • Luned Bengoch gan Elizabeth Watkin Jones.

  • A fyddwch yn edrych arno'n awr?

  • Na, dim er pan oeddwn i'n blentyn.

  • Pwy yw eich hoff awdur?

  • Yn y Gymraeg, Angharad Tomos.
    Yn y Saesneg, Sebastian Foulkes.

  • A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?

  • Cysgod y Cryman gan i mi gredu am gyfnod yn fy arddegau fy mod yn gomiwnydd rhonc!

  • Pwy yw eich hoff fardd?

  • R Williams Parry.

  • Pa un yw eich hoff gerdd?

  • Eifionydd.

  • Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?

  • Nid cerrig ond cariad yw'r meini.

  • Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?

  • Hedd Wyn a The Apprentice.

  • Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?

  • Fy nghas gymeriad yw Monica (Saunders Lewis). Cymeriad anghynnes ac annymunol.
    Fy hoff gymeriad yw Kunta Kinte yn Roots gan Alex Hayley am ei fod yn gwbwl, gwbwl ddigyfaddawd.

  • Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?

  • Yn ddelfrydol, Daw dydd y bydd mawr y rhai bychain.

  • Pa un yw eich hoff air?

  • Gobaith.

  • Pa ddawn hoffech chi ei chael?

  • Canu'r piano.

  • Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?

  • Bodlon,
    Amyneddgar,
    Siaradus.

  • A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?

  • Fy mhwysau!

  • Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi鹿n ei edmygu fwyaf a pham?

  • Fy nhad am ei gadernid a'i egwyddorion.

  • Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?

  • Rwy'n dal i ddifaru i mi anobeithio a mynd i fy ngwely cyn diwedd y cyfri noson refferendwm 1997.

  • Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?

  • Y Brenin Edward I.
    Mi fuaswn yn hoffi dweud wrtho ein bod yma o hyd!

  • Pa un yw eich hoff daith a pham?

  • Fy nhaith adref o Langefni bob dydd ac Eryri yn ei gogoniant yn fy wynebu.

  • Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?

  • Cinio Dydd Sul gyda chig eidion a phwdin Swydd Efrog.

  • Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?

  • Arlunio.

  • Pa un yw eich hoff liw?

  • Glas.

  • Clawr Beti Bwt Pa liw yw eich byd?

  • Amryliw.

  • Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?

  • Cael ffordd well o ogledd i dde Cymru.

  • A oes gennych lyfr arall ar y gweill?

  • Ambell syniad ond dim byd pendant ar hyn o bryd.

  • Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith arall?

  • "Yn y dechreuad yr oedd y Gair..."
    Yn anffodus, mae wedi ei ddefnyddio o'r blaen!

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Adolygiad Meg Elis o Beti Bwt

  • Bet Jones yn siarad gyda Dei Tomos

  • Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    adolygiadau
    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy