主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adnabod awdur adnabod awdur
Caryl Lewis - cyfweliad g诺yl lyfrau
Caryl Lewis yn cael ei holi gan Alun Jones - G诺yl Bedwen Lyfrau 2007
Pan fo hi wedi anghofio ei nofel ddiwethaf yn y t欧 - dyna pryd mae Caryl Lewis yn gwybod ei bod hi'n iawn iddi ddechrau sgrifennu'r nesaf!

Yn sicr o fod ein nofelydd cyfoes mwyaf poblogaidd yr oedd Caryl yn siarad yng Ng诺yl Bedwen Lyfrau 2007 yng Nghaernarfon am ei nofel ddiweddaraf, Y Gemydd, ac am ei ffordd o sgrifennu.

Yn cael ei holi gan Alun Jones, ei golygydd yng ngwasg Y Lolfa, datgelodd ei bod hi'n mynd 芒'i nofel ddiwethaf gyda hi i bobman unwaith y mae wedi ei chyhoeddi.

"Bob tro rydw i'n cyhoeddi nofel rydw i'n i chario hi yn fy mag - mae'n rhyw fath o safety blanket sy gyda phlentyn - neu dedi b锚r," meddai.

"A'r diwrnod rydw i'n anghofio'r llyfr yna gartref yw'r diwrnod rwy'n barod i ddechrau eto."

Fel cael plentyn
Ac aeth yn ei blaen i gymharu sgrifennu a chyhoeddi nofel i gael plentyn.

"Beth sy'n anodd efo nofel yw eich bod chi'n ei gweld yn eich pen ac yn gobeithio y bydd pobl yn ei gweld yr un fath ac yn aml does gennych chi ddim rheolaeth dros hynny," meddai wrth Alun Jones.

"Mae e fel cael plentyn - dydw i ddim wedi cael plentyn! - ond rwy'n teimlo eich bod yn ei ddysgu fe ac yn ffurfio'r plentyn yna ac wedyn rych chi'n i wthio fe mas i'r byd ac os yw'r plentyn yna wedi'i ffurfio'n iawn fe ddylai fedru ateb drosto'i hun heb i chi fod yn ateb drosto fe; a fel'na dwi'n gweld llyfre; a phan ydych chi'n agor y drws a gwthio'r plentyn na m芒s mae yna bobl allan yna yn barod amdano fe.

"Mae e wastad yn rhoi pryder imi ac mae'n rhaid ichi fod yn hapus a beth ydych chi wedi' wneud.

"Eich amcan chi wrth ddechrau nofel - os ydych chi'n teimlo ei bod wedi cyrraedd hynny mae'n rhaid ichi fod yn hapus a dyna ydw i'n anelu ato drwy'r amser," meddai.

Yn Saesneg
Daeth Caryl Lewis i fri anhygoel gyda'i nofel gyntaf, Martha Jac a Sianco a gyhoeddwyd yn 2006 a'i dewis yn Llyfr y Flwyddyn.

Clawr Martha Jac a Sianco Ond datgelodd mai Saesneg oedd ei chychwyn:
"Fe fues i'n sgrifennu straeon yn Saesneg am y math yma o gymeriadau ond y broblem yn Saesneg oedd fod straeon am y math yma o gymeriadau yn troi'n James Herriot yn sydyn iawn, iawn, iawn, ac fe wnes i rhoi nhw yn y dr么r ac anghofio amdanyn nhw," meddai.

Ychwanegodd mai ymgais ar ei rhan, wedi iddi ddychwelyd i fyw yng nghefn gwlad, i uno dwy Gymru - Cymru Canolfan y Mileniwm a Chymru cefn gwlad a barodd iddi ailafael ym mhethau.

"Wrth symud n么l i gefn gwlad ac wrth weld, pan ych chi'n ifanc - rydych chi'n twenty something ddwedwn ni ac wedi cael addysg a da chi fod yn rhan o'r Gymru fodern newydd Canolfan y Mileniwm 'ma: a sut oeddwn i'n uniaethu y Gymru oeddwn i fod yn rhan ohoni a'r Gymru oeddwn i'n i gweld bob dydd lle'r oedd y bobl yma oeddwn i'n dod ar eu traws nhw bob dydd - roeddwn i'n methu'n deg ag uniaethu'r ddau yna," meddai.

" Darlun y fuwch
Un o'r 'darluniau' mwyaf cofiadwy yn y nofel honno yw un o fuwch yn cnoi a difetha ei thethi wrth sugno'i hun.

"Mae o'n rhywbeth sydd yn digwydd ambell waith ond roeddwn i'n i weld fel symbol o rywun yn torri cylch naturiol pethau fel y gwnaeth y fam yn y nofel. Wrth eu cadw nhw yno mae fel pe byddai yn stagnatio y cyfan ac unwaith mae hynny'n digwydd mae yna oblygiadau ofnadw," meddai.

"Dwi'n cofio methu cysgu y noson honno yn meddwl am y ddelwedd yma o'r du a'r gwyn a'r gwaed - roedd rhywbeth mor erchyll ynddo yr oeddwn yn ei weld fel canolbwynt i angori stori," meddai.

Hoffi arlunio
A hithau'n un sy'n hoff o arlunio dywedodd bod 'darluniau' o'r fath yn bwysig yng ngwneuthuriad ei gwaith.

"Dwi'n cofio mynd am dro ar lan y m么r ac roedd s锚r m么r wedi'u golchi i'r lan i gyd ac roedd yna garped ohonyn nhw am filltiroedd. Roedd e mor drawiadol roeddwn i'n teimlo mod i'n cerdded ar y s锚r a'r byd ben i waered.

"Pethau bach fel'na ych chi'n gofio ac rydych chi'n gallu eu defnyddio rhyw dro eto," meddai.

Ond ychwanegodd nad yw'n eu cofnodi ar bapur i'w diogelu.

"Am y rheswm; os yw rhywbeth werth ei gofio fe gofiai. Os yw rhywbeth wedi gwneud argraff fawr arno chi fe wnaiff e godi rywdro eto - yn hytrach na'ch bod yn rhestru pethau i'w defnyddio nes ymlaen," meddai.

Gyda gwreiddiau - heb wreiddiau
Cymeriadau cefn gwlad a'u gwreiddiau'n ddyfnion y tir oedd rhai Martha Jac a Sianco ond mae Y Gemydd yn nofel go wahanol o ran antur ac adeiladwaith - yn nofel sy'n ildio ei chyfrinachau yn gyndyn yn 么l un adolygydd.

Dywedodd Caryl Lewis fod sawl rheswm iddi benderfynu troi i gyfeiriad trefol, gwahanol:

"Roedd yna sawl rheswm ond gan mod i'n sgwennu dipyn am gefn gwlad roeddwn i'n meddwl mae'n bosib ichi gael eich stereoteipio fel awdur gwledig," meddai.

Ac aeth i l芒n y m么r meddai "oherwydd dyna lle mae atgofion fy mhlentyndod i".

Clawr Y Gemydd "Yr oedd hwnna yn benderfyniad a wnes i yn ymwybodol ac roeddwn i hefyd yn meddwl, beth am ochr arall y geiniog beth am gymeriadau sydd heb wreiddiau falle a mynd i'r gwrthwyneb - a chwilio'r posibiliadau yna," meddai.

Dywedodd mai darllen The Ballad of Reading Jail gan Oscar Wilde oedd y man cychwyn ac yn arbennig y llinellau'r bardd mai dim ond trwy dor calon mae dod i adnabod Iesu Grist.
How else but through a broken heart
May Lord Christ enter in?

"A wnes i feddwl; Am ddelwedd ryfedd - fod rhywbeth yn gorfod torri cyn ichi ddod i adnabod Duw fel petai.

"Ac fe sticiodd hwnna gyda fi am fisoedd wedyn a dechrau meddwl am y math o gymeriad fyddai'n mynd ar y siwrnai yma a dyna lle dechreuodd Mair fel cymeriad."

Y mae lleoliad y nofel ar l芒n y m么r o arwyddoc芒d hefyd:
"Mae cymeriadau yn Y Gemydd yn delio efo detritus bywyd - pethau sy'n cael eu golchi lan ar y traeth. Mae yna olygfeydd lle maen nhw yn llythrennol ar y traeth, ar yr ymylon rhwng y m么r a'r tir - rhyw fath o no man's land ac roedd hwnna yn bendant yn rheswm am ei lleoli hi lle mae hi," meddai.

Ar ben hynny, dywedodd fod Mair yn y nofel yn ofni'r m么r am ei fod yn rhywbeth na all ei reoli," meddai.

Treulio cyfnod gyda cemydd
Tra'n ymchwilio ar gyfer y nofel dywedodd iddi dreuliodd cyfnod yn gweithio gyda gemydd go iawn ym marced Caerfyrddin.

"Mae'n fenyw hynod," meddai, "ac yn trwsio gemau hefyd."
A hynny'n atgoffa Caryl o'r adeg pan oedd hi yn ferch ifanc a'i Mam yn casglu hen gelfi i'w haddasu a'u hadfer.

"Dwi wastad yn cael problem gyda phethau hen! Roedd Mam wastad yn stwffio rhyw soffa. Fe fyddai hi'n pigo ni lan o'r ysgol mewn Fiat pea green efo soffa yn hongian allan o'r cefn ac roedd cywilydd rhyfedda gen i ond roedd hi wastad a rhyw brosict on the go," meddai.

Credai'r gemydd y bu yn ei chwmni hefyd mai gemau sy'n dewis pobl nid pobl yn dewis y gemau.

Ychwanegodd bod rhai gemau yn siwtio rhai pobl ac eraill ddim.
"Os ydych chi'n berson nwydus peidiwch a gwisgo rhuddem neu bydd yn eich gwneud yn fwy nwydus," meddai.

Weth s么n am emau soniodd hefyd am yr addewidion - "addewidion go fawr" - y mae pobl yn eu gwneud ar gefn gemau mewn modrwyau ac ati.

"Yn y farchnad roedd yna bobl oedd yn dod a phrynu modrwy ddywedd茂o ac roedd yna ddynion a menywod gweddw yn dod n么l a gwerthu'r gemau ar 么l i rywun farw. Ac roedd y gemau yna yn mynd ymlaen at rywun arall fel addewid arall ac roeddwn i'n meddwl fod hynna yn ddiddorol - ceisio gwau stori o'u hamgylch," meddai.

Pobl y farced
Am bobl y farchnad dywedodd:
"Maen nhw'n bobl ddiddorol. Oes, mae yna gymdeithas glos yna ond maen nhw'n cadw'u hunain at eu hunain hefyd.

"Beth oedd yn ddiddorol pan oeddwn i yno oedd mynd i wrando arnyn nhw yn siarad 芒'i gilydd. Yn amlwg mae ganddyn nhw rhyw g么l o beidio a chau'r farchnad ac mae hwnna yn eu clymu nhw ond eto maen nhw yn bobl eithaf swil, rhai ohonyn nhw.

"Maen nhw'n dewis gweithio ar eu pen eu hunain. Hunan gyflogedig ydyn nhw ond yn gorfod gweithio efo pobl eraill - ysgwydd yn ysgwydd 芒 phobl eraill,.

"Felly, mae rhyw ddeuoliaeth. Oes mae yna gymuned ond eto cymuned o unigolion yw hi ac roeddwn i'n meddwl fod hwnna yn rhywbeth diddorol," meddai.

Caryl Lewis O'i safbwynt hi fel nofelydd dywedodd mai'r hyn sy'n dda ac yn hwylus yngl欧n 芒 lle fel marchnad yw bod pobl wahanol o bob lliw a llun yn ymwneud 芒'i gilydd yn gwbl naturiol yno.

"Mae hwnna'n hwylus iawn os yn sgrifennu nofel oherwydd dydych chi ddim yn gorfod ffeindio ffordd o gael y cymeriadau yma at ei gilydd gan eu bod yn dod at ei gilydd yn naturiol."

Datgelodd hefyd i'r Gemydd fod yn nofel wahanol iawn i Martha Jac a Sianco i'w sgrifennu:
"Doedd dim cynllun gynno fi [ar gyfer MJaS] ac fe wnes i sgwennu honno o bennod i bennod ond fe ddes i n么l at hon yn ychwanegu pethau.

"Roeddwn i lan i bennod 25 ac n么l wedyn i bennod tri a mlaen wedyn i bennod 28, n么l wedyn i 25 yn ychwanegu pethau drwy'r amser," meddai.

A chan ei bod, meddai, yn sgrifennu llawer gyda phobl nad ydyn nhw'n hoffi darllen mewn golwg; "Weithiau mae'n braf sgwennu rhywbeth i blesio'ch hunan hefyd," meddai.

  • Yr oedd G诺yl Bedwen Lyfrau 2007 yn Galeri Caernarfon, Mai 5.

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • G诺yl Bedwen lyfrau


  • Holi Caryl Lewis

  • Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    adolygiadau
    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy