主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adnabod awdur adnabod awdur
Llyfr Pen-blwydd
Astrolegydd ac awdur
  • Enw:
  • Eiry Palfrey

  • Beth yw eich gwaith?

  • Astrolegydd, Cynhyrchydd, Awdur.

  • Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?

  • Dysgu, actio, cyflwyno.

  • O ble'r ydych chi'n dod?

  • Fe'm ganed yn Llanfihangel y Creuddyn ger Aberystwyth. Cefias fy magu a'm haddysgu yn Llanfyllin, Sir Drefaldwyn.

  • Lle'r ydych chi'n byw yn awr?

  • Caerdydd.

  • Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?

  • Do ar y cyfan.

  • Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf? Dwedwch ychydig amdano.

  • Yn ogystal 芒 bod yn llyfr defnyddiol i nodi dyddiadau pen-blwydd pwysig a darganfod pa enwogion sy'n rhannu'r un pen-blwydd 芒 chi, mae'r Llyfr Pen-blwydd hefyd yn edrych ar nodweddion pob arwydd yn y Sidydd.

    Bu gen i ddiddordeb mewn astroleg ers blynyddoedd. Bu'r llyfr ar y gweill am gyfnod hir cyn gweld golau ddydd a minnau'n ychwanegu ato yn raddol dros y blynyddoedd.

  • Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?

  • Amryw o lyfrau i blant a dysgwyr.

  • Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?

  • Luned Bengoch - gan Elizabeth Watcyn Jones. Llyfr Mawr y Plant.

  • A fyddwch yn edrych arnynt yn awr?

  • Na fyddaf.

  • Pwy yw eich hoff awdur?

  • Marged Jones (fy mam).

  • A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?

  • O Ran Mererid Hopwood.

  • Pwy yw eich hoff fardd?

  • R Williams Parry.

  • Pa un yw eich hoff gerdd?

  • Cofio - Waldo Williams

  • Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?

  • Un funud fach cyn 'relo'r haul i'w orwel.

  • Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?

  • Con Passionate

  • Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?

  • Hoff: Beatrice (Much Ado About Nothing - Shakespeare)
    Cas: Cathy (Wuthering Heights)

  • Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?

  • Hir pob ymaros.

  • Pa un yw eich hoff air?

  • Serendipity.

  • Pa ddawn hoffech chi ei chael?

  • Y ddawn i ganu.

  • Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?

  • Bach,
    Bywiog,
    Diamynedd.

  • A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?

  • Siarad cyn meddwl gyntaf.

  • Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi鹿n ei edmygu fwyaf a pham?

  • Arglwyddes Llanofer - am fynnu rhoi sylw i'r Gymraeg a Chymreictod.

  • Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?

  • Yr ymfudo i Batagonia.

  • Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?

  • Michael D Jones - pam mynd mor bell?

  • Pa un yw eich hoff daith a pham?

  • Y daith adre - o unrhyw le.

  • . Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?

  • Stecen (fillet) a saws pupur.

  • Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?

  • Dawnsio gwerin.

  • Pa un yw eich hoff liw?

  • Coch.

  • Pa liw yw eich byd?

  • Pob lliw.

  • A oes gennych lyfr arall ar y gweill?

  • Oes - cyflwyno'r Mabinogi a chwedlau Cymru yn Wenglish.

  • Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith arall?

  • Un tro flynyddoedd maith yn 么l.

    Cysylltiadau Perthnasol
  • Llyfr Pen-blwydd

  • Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    adolygiadau
    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy