主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adnabod awdur adnabod awdur
Gareth F Williams
Awdur Adref Heb Elin
Enw:
Gareth F. Williams.

Beth yw eich gwaith?
Awdur amser-llawn.

Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Dysgu, o 1979-1985, Ysgol Rhiwabon. Gweithio yn siop Recordiau'r Cob, Porthmadog 1973-1975.

O ble'r ydych chi'n dod?
Porthmadog, Gwynedd.

Lle'r ydych chi'n byw yn awr?
Silstwn, Bro Morgannwg.

Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
Do, ar y cyfan, unwaith yr oeddwn yn cael dewis y pynciau oedd yn fy niddori.

Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf?
Sori, ond mae hwn yn gwestiwn erchyll!
Ysbrydoliaeth, decini, os nad yw hynny'n swnio'n fawreddog - y stori a'r cymeriadau'n deor yn araf.
Dywedwch ychydig amdano.
Merch 17 oed yw Elin, ac un diwrnod mae'n diflannu a does neb yn gwybod beth a ddigwyddodd iddi. Gwelwn yr effaith handwyol y mae hyn yn ei gael ar ei theulu - i gyd o safwbynt Ceri, ei chwaer 15 oed.

Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
O Ddawns i Ddawns; Pen Cyrliog a Sbectol Sgw芒r; Pengelli; Dirgelwch Loch Ness; Jara; Y Dychryn.

Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Treasure Island.

A fyddwch yn edrych arno'n awr?
O, byddaf - o leiaf un waith y flwyddyn.

Pwy yw eich hoff awdur?
PG Wodehouse.

A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
Y llyfr cyntaf i mi'i ddarllen erioed, Wil Wiwer.
Wedyn, Llyfr Mawr Y Plant, Un Nos Ola Leuad, Wuthering Heights, Madame Bovary a sawl Dickens.

Pwy yw eich hoff fardd?
TH Parry-Williams, Philip Larkin, Thomas Hardy.

Pa un yw eich hoff gerdd?
Bro, TH;
The Listeners Walter de la Mare;
Cwm Pennant Eifion Wyn.

Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
Fel adyn ar gyfeiliorn, neu fel g诺r ar ddyfroedd hunllef yn methu cyrraedd glan;
Rough winds do shake the darling buds of May and summer's lease hath all too short a date.

Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Ffilm: Once Upon A Time In The West
Teledu: Fawlty Towers.

Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Hoff: Heathcliff, Wuthering Heights.
Cas: Y genod Bennett rheiny yn Pride & Prejudice (a'r dynion).

Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
Ni wnawn, wrth ffoi am byth o'n ffwdan ff么l,
Ond llithro i'r llonyddwch mawr yn 么l.

Pa un yw eich hoff air?
Pendramwnwgl.

Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Hoffwn petawn yn gallu canu.

Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
Hen foi iawn! (sori - joc)
Ymmm...
Darllengar,
Chwilfrydig,
Hunanol.

A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Lle mae rhywun yn dechrau?
Hoffwn pe bawn yn fwy amyneddgar tuag fy nghyd-ddyn.

Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi鹿n ei edmygu fwyaf a pham?
T. Rowland Hughes - am fedru creu nofelau mor wych ag yntau'n ddyn s芒l.
Emmylou Harris - mae ei cherddoriaeth wedi cymryd lle amlwg yn fy mywyd ers dechrau'r 70-au.

Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Y Swper Olaf.
Codi C么r y Cewri (buasai'n neis cael gwybod pam).
Adeiladu'r Cob ym Mhorthmadog.

Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Branwell Bronte - faint ohono ti neu o dy waith di sydd yn nofelau dy chwiorydd?

Gareth F Williams Pa un yw eich hoff daith a pham?
O'r ffin rhwng Lloegr a'r Alban i fyny i Ucheldiroedd yr Alban, ond igam-ogamu'n 么l ac ymlaen o un arfordir i'r llall - harddwch gwyllt heibio i bob cornel, bron, a'r ffyrdd yn gymharol dawel.

Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Bacwn, wy a bara saim.

Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Mynd i'r sinema, cerdded glan y m么r, ffotograffiaeth.

Pa un yw eich hoff liw?
Glas.

Pa liw yw eich byd?
Amryliw - ond weithiau'n ddu, ddu.

Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Dim archfarchnadoedd y tu allan i ddinasoedd a bod yn rhaid i bob pentref gael un siop fwyd ac un siop lyfrau. Hefyd, caniat谩u ysmygu yn y bar mewn tafarndai (cadw'r bwydydd i'r lolfa).

A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Oes. Nofel i oedolion, Dyfi Jyncshiyn.

Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith arall?
"Diolch i'r Cynulliad am gymhorthdal o gan mil o bunnoedd".

Cysylltiadau Perthnasol
Adolygiad o Adref Heb Elin

Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
adolygiadau
Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy