主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adnabod awdur adnabod awdur
Holi Iolo Williams
Naturiaethwr, adarwr, darlledwr ac awdur Llyfr Natur Iolo.
Enw:
Iolo Williams

Beth yw eich gwaith?
Cyflwynydd rhaglenni bywyd gwyllt ar y radio a'r teledu yn Gymraeg a Saesneg.

Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Swyddog Adar I'r RSPB am bron I 15 mlynedd.

O ble'r ydych chi'n dod?
O bentref Llanwddyn yng nghesail mynyddoedd y Berwyn.

Lle'r ydych chi'n byw yn awr?
Pentref bach o'r enw Llandysul ger y Drenewydd.

Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
Yn yr ysgol gynradd a'r brifysgol, do. Yn yr ysgol uwchradd, ar wahan i chwaraeon, na.

.Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf ac wnewch chi ddweud ychydig amdano?
Dwi'n cael fy holi'n aml am pa adar ac anifeiliaid sydd i'w gweld o amgylch Cymru o fis i fis; felly penderfynais roi'r cyngor yma i gyd i lawr mewn llyfr.
Mae'n lyfr i unrhywun sydd 芒 diddordeb ym myd natur, nid yn uniongyrchol I'r arbenigwr, a dwi'n gobeithio bydd yn ennyn mwy o bobol i godi o'u caderiau clyd a mynd allan i fwynhau cefn gwlad Cymru.

Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Hyd at hyn, dim ond un arall The Birds of Wales.

Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Llyfr swmpus o'r enw The A.A. Book of Birds. Doedd dim llyfr adar Cymraeg ar gael bryd hynny.

A fyddwch yn edrych arno'n awr?
Byddaf, o dro i dro, er ei fod mewn darnau m芒n erbyn heddiw!

Pwy yw eich hoff awdur?Rwy'n hoff iawn o ddarllen llyfrau y diweddar Ted Breeze Jones.
Roedd Ted yn athro , ffotograffydd a naturiaethwr heb ei ail.

A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
Fy hoff lyfr Cymraeg yw Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard . Mae'n glasur.

Pwy yw eich hoff fardd?
R. Williams Parry ac I.D. Hooson, dau ddyn sy'n disgrifio rhai o adar ac anifeiliaid y wlad yn well nag unrhyw un mewn unrhyw iaith.

Pa un yw eich hoff gerdd?
Cwm Pennant. Dwi'n teimlo'n union yr un peth am rai o gymoedd ardal Llanwddyn.

Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
Daeth cysgod sydyn dros y waun,
A chri a chyffro lle roedd cerdd

Y Cudyll Coch gan I.D. Hooson.

Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Hoff ffilm o Apocalypse Now gyda Marlon Brando a Martin Sheen.
Dwi ddim yn rhy hoff o'r teledu ond dwi'n hoff iawn o raglenni comedi fel Fawlty Towers, The Office a C'mon Midffild.

Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Dim un.

Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
Hysbys y dengys dyn o ba radd y mae ei wreiddyn.

Pa un yw eich hoff air?
Iach.

Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Y gallu I ganu.

Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
Dwi
Ddim
Adref.

A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Rhy ddiamynedd.

Pa berson byw neu hanesyddol ydych chin ei edmygu fwyaf a pham?
Nelson Mandela, am fod mor barod i faddau ar 么l cael ei garcharu am gyfnod mor hir.

Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Brwydrau Owain Glyndwr, gyda gwn peiriant yn fy llaw!

Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Marilyn Monroe gofyn am dd锚t.

Pa un yw eich hoff daith a pham?
Taith trwy Fynyddoedd y Berwyn o amgylch Llanwddyn mae'n fy atgoffa o mhlentyndod.

Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Unrhyw fwyd Indiaidd.

Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Cerdded gyda'r teulu a chwarae rygbi.

Pa un yw eich hoff liw?
Coch.

Pa liw yw eich byd?
Gwyrdd.

Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Deddf yn gwahardd pob gwleidydd rhag dweud celwydd.

Clawr Blwyddyn IoloA oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Oes, llyfr Cymraeg am adar. Bydd yn y siopau yn yr hydref.

Oes gennych uchelgais heb ei gyflawni ym myd natur?
Cael pawb yng Nghymru i fod yn fwy ymwybodol o'r cyfoeth sydd o'u cwmpas, ac i'w werthfawrogi.

Cysylltiadau Perthnasol
  • Llyfr Natur Iolo

  • Blwyddyn Iolo

  • Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    adolygiadau
    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy