主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adnabod awdur adnabod awdur
Iona ac Andy
Sydd newydd gyhoeddi hunangofiant
Enw:
Iona Boggie
Andrew Edward Boggie (Andy)

Beth yw eich gwaith?
Cerddor, a threfnu teithiau (y ddau ohonom)

Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Iona: Athrawes Ysgol Gynradd
Andy: Athro Ffrangeg, gwerthwr gwinoedd, rheolwr siop

0 ble'r ydych chi'n dod?
Iona: Nantlle, ger Caernarfon a symud i Ddyffryn Conwy pan oeddwn yn bedair ar ddeg.
Andy: Penmaenmawr, Gwynedd

Lle'r ydych chi'n byw yn awr?
Chwilog, Pwllheli, Gwynedd

Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
Iona: Anodd dygymod 芒 dwy ysgol uwchradd ond mwynhau gwneud lefel A ac wrth gwrs dyddiau''r Coleg Normal, Bangor. Cymraeg a Cherddoriaeth
Andy: Wrth fy modd yn y chweched dosbarth yn Ysgol John Brights Llandudno ac yna i Brifysgol Bangor yn astudio ieithoedd gan raddio mewn Ffrangeg.

Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf?
Dwedwch ychydig amdano.
Y rheswm am ysgrifennu'r llyfr oedd ein bod yn dathlu chwarter canrif o ganu gyda'n gilydd ac am i bobl wybod am ein bywyd, nid yn unig fel cantorion ond fel g诺r a gwraig yn treulio pedair awr ar hugain saith diwrnod yr wythnos pum deg dau o wythnosau y flwyddyn gyda'n gilydd.

Clawr y llyfrDau gefndir gwahanol, Iona o bentref Nantlle yn Eryri i deulu Cymraeg. Bywyd capel ac eisteddfodol gan fynd ymlaen i ganu gwerin gyda git芒r yng ngwesty Plas Maenan Dyffryn Conwy yn y saithdegau .Yna i Goleg Normal Bangor a chael swydd fel athrawes gynradd yn Ysgol Glanwydden, Waunfawr, ac Eglwysbach.

Daeth Andy o deulu o Benbedw a ddaeth yn ystod yr Ail Ryfel Byd i Benmaenmawr. Canodd mewn grwpiau roc a r么l yn y chwedegau a roc yn y saithdegau. Graddiodd mewn Ffrangeg ym Mhrifysgol Bangor.

Ar 么l cyfarfod a phriodi fe benderfynwyd ar ganu gwlad gan ei fod yn fan canol rhwng canu gwerin a roc. Iona'n rhoi gora i fod yn athrawes ysgol gynradd a mynd yn broffesiynol.Golygodd hyn ein bod yn trafaelio 35mil o filltiroedd y flwyddyn o amgylch gwledydd Prydain.

Mae yna straeon diddorol am y dyddiau cynnar anodd yn ceisio ennill bywoliaeth ar ychydig o arian a'r straen fwyaf o orfod dygymod 芒 salwch a cholli tad o 1985 i 1990.

Cewch ddarllen am uchafbwyntiau fel canu'n Nashville ar y Grand Ole Opry, Patagonia a'r Gaiman, Ffrainc, Sbaen, yr Almaen, Portiwgal.

Fe enillon ni ddeuawd mwyaf poblogaidd Prydain yn 1987 yn ogystal 芒 nifer fawr o wobrau o amgylch clybiau canu gwlad Prydain.

Mae'r llyfr yn dangos yr amser da a'r drwg ac yn rhoi agoriad llygaid i bobl sydd yn meddwl fod ennill bywoliaeth drwy ganu yn hawdd.

Mae'n gorffen gyda mewnwelediad i'r hyn y mae'r ddau ohonom yn hoffi ei wneud pan nad oes git芒r yn ein dwylo a'r hyn yr ydym yn feddwl o'n gilydd ar 么l chwarter canrif o ganu a dilyn llwybrau breuddwydion.

Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Dim

Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Iona: Llyfr Mawr Y Plant a Te Yn Y Grug Kate Roberts
Andy: Boys Book Of All Sports a'r Three Musketeers

A fyddwch yn edrych arno'n awr?
Iona: Byddaf
Andy: Byddaf - y Three Musketeers

Pwy yw eich hoff awdur?
Iona: Kate Roberts
Andy: Len Deighton

A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
Iona: Y Beibl a llyfr 'The Story of Maria Stella' by herself
Andy: The Constant Gardener gan John Le Carre a llyfr Maria Stella

Pwy yw eich hoff fardd?
Iona: R.Williams Parry
Andy: Wilfred Owen

Pa un yw eich hoff gerdd?
Iona: Eifionydd gan R.Williams Parry
Andy: Green Fields Of France (anhysbys)

Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
Iona: Digwyddodd, darfu, megis seren wib 'Llwynog', R. Williams Parry
Andy: All the glory the suffering and the pain would all happen again and again and again. (Green Fields of France)

Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Iona: Enchanted April a Dram芒u hanesyddol a ditectif ar deledu
Andy: Lawrence Of Arabia a Renaissance (teledu)

Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Iona: Hoff gymeriad - Begw: Te Yn Y Grug, Kate Roberts. Cas Gymeriad - Tad Frank McCourt, Angela's Ashes
Andy: Hoff gymeriad - Bernie Sampson Game Set And Match, Len Deighton Cas gymeriad - Herod Jenkins, Last Tango In Aberystwyth

Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
Iona: Ffydd, gobaith cariad a'r mwyaf o rhai hyn yw cariad.
Andy: Hawdd dweud caled gwneud.

Pa un yw eich hoff air?
Iona: cariad
Andy: trosglwyddwyd

Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Iona: actio
Andy: chwarae golff yn well

Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
Iona:
Emosiynol,
Hael,
Teimladwy

Andy:
Tosturiol,
Optimist,
Cymhellol

A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Iona: Dim digon o hunanhyder nac yn maddau'n hawdd.
Andy: Fy oed. Gwylltio weithiau yn lle sefyll yn 么l yn enwedig gyda materion y byd.

Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi'n ei edmygu fwyaf a pham?
Iona: Iesu Grist. Fe ddysgodd i ni garu'n gilydd ond biti na fasa mwy wedi gwrando.
Andy: Catherine De Medici. Un o ferched hudolus a diddorol yr unfed ganrif ar bymtheg.

Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Iona: Helpu plant amddifad Romania ar 么l Caiucescu.
Andy: Dymchel wal Berlin.

Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Iona: Iesu Grist. Beth oedd ei berthynas 芒 Mair Magdolen?

Andy: Elisabeth y gyntaf i ofyn iddi beidio 芒 lladd Mari Brenhines yr Alban.

Pa un yw eich hoff daith a pham?
Iona: I fyny i Oban yn yr Alban yna ar long i Ynys Mull; teithio ar hyd yr ynys a dal llong fechan i Ynys Iona. Nefoedd.
Andy: Unrhyw daith i lawr o Ogledd Ffrainc drwy'r wlad a chyrraedd Cahor yn Nyffryn y Lot yn Ne Orllewin Ffrainc. Amser i ymlacio.

Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Iona: Cig oen wedi ei goginio gyda rosmari, tatws newydd, llysia ffres a grafi wedi ei wneud gyda gwin coch gan adael digon i gael glasiad neu ddau ar 么l (o Ffrainc wrth gwrs).
Andy: pr么ns wedi'u coginio 芒 garlleg, sinsur, lemon, gwin gwyn, nionyn Gwanwyn(spring onions) pupur coch yna eu rhoi ar bl芒t o letys amrywiol tomatos bach a bara chipati (Eidalaidd).

Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Iona: Cerdded mynyddoedd a llefydd gwastad. Teithio i wledydd yn Ewrop; Ffrainc a'r Eidal; diddordeb yn y Dadeni yn enwedig cerfluniau a lluniau yn yr Uffizi yn Florence, Academia yn Venice a'r Louvre ym Mharis. Siopa o unrhyw fath.
Andy: Yr un fath a Iona ond am y siopa! Diddordeb ym mhob chwaraeon.

Pa un yw eich hoff liw?
Iona: Gwyrdd
Andy: Glas
Pa liw yw eich byd?
Iona: gwyn
Andy: gwyrdd

Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Iona: Rhwystro ysmygu ym mhobman.
Andy: yr un fath a Iona

A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Iona: ysgrifennu am fy nhad a finnau. Bu farw ym 1985 gan adael dipyn o'i waith ysgrifenedig ar 么l felly hoffwn ei roi gyda'i gilydd mewn llyfr ynghlwm 芒 fy mherthynas i ag ef (O.Myfyr Roberts).
Andy: Maria Stella Iarlles cyntaf y teulu Niwbwrch.

Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith arall?
Dyma fydd y frawddeg gyntaf yn ein llyfr nesaf:
Iona: Eisteddais ger ei wely yn yr ysbyty a gorchmynodd i mi losgi ei gorff.
Andy: A flock of sparrows grew larger and larger as they flew towards the Louvre from the Bois De Boulogne.


Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
adolygiadau
Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy