主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adnabod awdur adnabod awdur
Jac Jones
Holi un o brif arlunwyr llyfrau Cymru

Enw:
Jac Jones

Beth yw eich gwaith?
Dylunydd graffeg

Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Cynllunydd mewn uned argraffu masnachol (1961-1973)

O ble'r ydych chi'n dod?
Gwalchmai, Ynys M么n

Lle'r ydych chi'n byw yn awr?
Rhostrehwfa, Ynys M么n

Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
Na

Beth sbardunodd y diddordeb mewn arlunio?
Dim teledu, dim Playstations, dim DVDs mewn gwirioneddd dim technoleg adloniant o gwbwl. O.llond bocs o bensilia lliw a phapur, ac.amserlot o amser.

Pa lyfrau fu'r her fwyaf i chi fel arlunydd a pham?
Betsan a'r Bwlis ceisio dadansoddi problem anferth mewn ffr芒m fach, mewn ychydig o eiriau hefo lluniau realistig tu hwnt.
Chwedlau Grimm ceisio gwneud cyfiawnder 芒 straeon byd enwog mewn du a gwyn.
Drama'r Nadolig y sialens o ychwanegu at gerdd oedd yn ei ddweud o i gyd beth bynnag.
Lleuad yn Olau dewis un ddelwedd i gynrychioli pob stori a bob stori yn cynnig dwsina o bosibiliadau. Hefyd y sialens o gynllunio'r teip a chlawr eitha cymhleth ar y fersiwn cynta yn Gymraeg.

Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
1001 o Anifeiliaid y Byd

A fyddwch yn troi ato'n awr?
Byddaf, i alaru a siomi (a dysgu gwers gofal) fod canran ohonynt ddim yn bodoli mwyach.

Pwy yw eich hoff awdur?
George Orwell

A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
Wigan Pier

Pwy yw eich hoff fardd?
R.S. Thomas

Pa un yw eich hoff gerdd?
Lore

Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
Live large, man, and dream small

Pwy yw eich hoff arlunydd?
Van Gogh

Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Schindler's List
Y Simpsons

Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Pando'r Ci Defaid yn stori Meinir Pierce Jones, Un o Fil
Gormod o gas gymeriadau i'w hogi i lawr i un.

Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
Y ffordd i gwrdd, cwrdd hanner ffordd.

Pa un yw eich hoff air?
Gobaith

Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Dawn cerddor

Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
Chwit
Chwat
Hapus

A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Braidd yn danllyd ar yr ochr tempar!

Pa berson byw neu hanesyddol ydych chin ei edmygu fwyaf a pham?
Y person cyffredin, eto'n anghyffredin sydd o nghwmpas i'n gwneud pethe dewr, tyner, gofalus, caredig a.y.y.b. bob dydd, yn ddistaw bach heb sylw mawr a seremoni fama ma hi.

Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Glanio ar y lleuad.

Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Un o'm cyndeidiau adeg Glyndwr.

Pa un yw eich hoff daith a pham?
I lawr y grisiau yn y bore i wynebu antur a chyffro diwrnod newydd arall am fod o'n fraint.

Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Ffesant, tatw m芒n, asparagus, caws glas a grefi tenau. Bara brown granari a photel fach o claret.

Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
P锚l-droed (am 50 mlynedd)
Rwan cerdded (o hanfodaeth)
Codi pwysau
Sgwennu

Pa un yw eich hoff liw?
Gwyrdd golau (lliw'r gwanwyn)

Pa liw yw eich byd?
Wythfed lliw yr enfys

Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Deddf sydd yn chwalur cymhlethdod o ddeddfau, hen a newydd, sydd yn rhwystro tegwch ac yn gwneud y fyddin o gyfreithwyr ac ati yn gyfoethocach bob dydd.

A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Oes, llyfr dwi ar hyn o bryd yn ei ysgrifennu a'i arlunio o'r enw Loose. Bydd hwn yn cael ei gyhoeddi yn y Gymraeg a'r Saesneg erbyn mis Mawrth 2004.

i ddarllen am y llyfr diweddaraf i'w ddarlunio gan Jac Jones


Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
adolygiadau
Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy