主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adnabod awdur adnabod awdur
Karen Owen
Golygydd Golwg. Cyhoeddi ei llyfr cyntaf, Awst 2006.
Enw:
Karen Owen

Beth yw eich gwaith?
Newyddiadurwr.

Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Rydw i wedi gweithio ar stondin gaws a chig mewn archfarchnad, ym mhentre' a siop lestri Portmeirion, mewn syrjeri doctor, mewn maes carafanau, mewn fan hufen i芒 ar lan y m么r, a thu 么l i far mewn tafarn fyglyd iawn.

O ble'r ydych chi'n dod?
Pen-y-groes, Dyffryn Nantlle.

Lle'r ydych chi'n byw yn awr?
Ym Mhen-y-groes mae fy nghartref ond rydw i'n treulio dwy noson yr wythnos yn Llanbedr Pont Steffan oherwydd mai yno y mae prif swyddfa'r cylchgrawn Golwg.

Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
Do, ar y cyfan. Mi dderbyniais fy addysg gynradd yn Ysgol Gynradd Pen-y-groes, lle'r oedd y dosbarth a'r iard yn hollol Gymraeg.

Roedd yr un peth yn wir am fy mhrofiad yn Ysgol Uwchradd Dyffryn Nantlle, lle cefais fy ysbrydoli'n arbennig gan athrawon fel Dewi R Jones, Joan Davies a Gareth Maelor Jones. Fy nghamgymeriad mwya' oedd dewis dilyn pynciau gwyddonol yn y chweched dosbarth, pan o'n i hefyd yn mwynhau ieithoedd.

Es yn fy mlaen i astudio Mathemateg ym Mhrifysgol Cymru Bangor, ond penderfynu ar ddiwedd tair blynedd fy mod i am ddilyn gyrfa ym myd newyddiaduraeth.

O ran dysgu am lenyddiaeth, rydw i'n ystyried eisteddfodau bychain ar draws Cymru yn rhan bwysig o fy addysg. Roedd cystadlu mewn eisteddfodau, a chael barn beirdd a llenorion gorau Cymru ar y gwaith hwnnw, yn werthfawr iawn i mi.

Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf? Dwedwch ychydig amdano.
Dathlais (os mai dyna'r gair hefyd) fy mhen-blwydd yn 30 oed ym mis Ebrill 2004 ac eisteddais i lawr i feddwl am yr holl bethau yr hoffwn i eu cyflawni. 'Des i ddim mor bell 芒 llunio rhestr haearnaidd ac amserlen, ond mi wnes i feddwl o ddifri' ynglyn 芒 pha fath o bethau fasa'n fy ngwneud i'n hapus.

Ar y pryd, roeddwn i wedi bod yn gweithio i Golwg ers yn agos i ddeng mlynedd ac roedd gen i rai degau o gerddi oedd yn gorwedd mewn ffeils o gwmpas y t欧. Penderfynais wneud cais am ysgoloriaeth gan Academi er mwyn gallu cymryd hoe o'r gwaith a chanolbwyntio ar ysgrifennu. Ffrwyth y pedwar mis hwnnw yn 2005 ydi cerddi newydd Yn Fy Lle.

Mae nifer o bobol yn holi, o lle ddaeth y teitl?
Wel, o nifer o lefydd!
Daeth o'r ffaith fy mod i'n ddigon ffodus i allu prynu t欧 a byw yn yr ardal y cefais i fy magu ynddi.
Daeth o'r ffaith fy mod i'n teimlo'n sicrach ohona' i fy hun ar 么l troi'r deg ar hugain.
Daeth hefyd o'r profiad o deithio i wahanol wledydd yn y byd a sylweddoli fod yna leiafrifoedd ym mhob cwr a bod diwylliant yn golygu mwy na chael dewis rhwng comedi Americanaidd neu opera sebon o Awstralia ar deledu lloeren.

Ond efallai mai'r syniad mwya' y tu 么l i deitl y gyfrol ydi'r sylweddoliad mai yr un yw bwriad dyn ar hyd y canrifoedd - sef gwneud synnwyr o'r byd o'i gwmpas. Efallai mai dod i delerau efo'i ran ef ei hun yn nhrefn fawr pethau ydi'r gorau y gall fyth anelu ato.

Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Yn Fy Lle ydi fy llyfr cyntaf.

Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Roeddwn i wrth fy modd yn ymgolli'n llwyr yn anturiaethau'r Llewod (Dafydd Parri) yn Gymraeg, a'r Famous Five (Enid Blyton) yn Saesneg.

Roedd Llyfr Mawr y Plant yn ffefryn hefyd - er nad o'n i'n rhy hoff o straeon Sion Blewyn Coch oherwydd y darluniau tywyll.

Roeddwn i ychydig yn hwyr - yn yr ysgol uwchradd, dw i'n siwr - cyn troi at lyfrau T Llew Jones, ond dw i'n cofio cael blas arbennig ar y nofel Corn, Pistol a Chwip a'i hailddarllen ddwywaith neu dair.

Nofel arall sy'n aros yn y cof o ddyddiau ysgol uwchradd ydi Gwaed ar y Dagrau, a gafodd ei haddasu'n ffilm ar gyfer y teledu yn ddiweddarach; a nofel arloesol Penri Jones i'r arddegau, Jabas.

Dw i'n cofio hefyd fod gen i feddwl y byd o ddwy gyfrol a gefais yn anrheg gan y diweddar Ddr Glynn Jones (tad y Prif Lenor Annes Glynn) pan oeddwn i'n yr ysgol gynradd, a'r rheiny oedd, Y Flodeugerdd o Englynion Ysgafn (golygydd Huw Waters) a Chess for Children. Doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd cynganeddu ar y pryd, ac roedd chwarae draffts yn lot mwy o hwyl na dysgu rheolau gwyddbwyll ... nes i mi afael yn y llyfr a meddwl mor dda fyddai gallu meistroli'r ddau.

A fyddwch yn edrych arno'n awr?
Darllenais gyfrol ola' cyfres y Famous Five yn ddiweddar, ac fe aeth y profiad 芒 mi'n syth yn 么l i ddyddiau plentyndod ddechrau'r 1980au.

Dyna sy'n fendigedig am lyfr - mae'r holl brofiad o'i ddarllen yr un mor bwysig 芒'r cynnwys a'r effaith y mae'r stori'n ei gael arnoch chi. Yn blentyn, ro'n i'n arfer eistedd yng nghornel yr ystafell fyw, wedi croesi fy nghoesau fel picsi bach, yn darllen un llyfr ar 么l y llall, a chau allan y byd yn llwyr. Mae unrhyw awdur sy'n caniatau i chi fynediad felly i'w fyd, yn dipyn o sgwennwr.

Pwy yw eich hoff awdur?
Islwyn Ffowc Elis. Roedd o'n ddyn caredig a sensitif iawn yn ogystal 芒 bod yn awdur mawr a gyfrannodd gymaint i lenyddiaeth Gymraeg.

Rydw i'n cofio'r tro diwethaf i mi ei weld pan alwais yn ei gartref yn Llanbedr Pont Steffan. Roedd yn cael trafferth wrth geisio argraffu tudalen ar ei brintar newydd, ac fe ofynnodd i mi ei helpu. Dw i'n cofio meddwl ar y pryd pa mor eironig oedd y sefyllfa - prif nofelydd Cymraeg ail hanner yr 20fed ganrif yn methu 芒 rhyddhau ei eiriau o sgrin y cyfrifiadur.

A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
Y Stafell Ddirgel (Marion Eames) a To Kill a Mockingbird (Harper Lee). Dyma'r ddau lyfr yr oedd gofyn i mi eu hastudio nhw ar gyfer arholiadau TGAU Cymraeg a Saesneg yn 1990, a dw i'n meddwl bod unrhyw lyfr sy'n gallu gwrthsefyll 'astudiaeth' fanwl yn dipyn o greadigaeth.

Oddi fewn i ddisgrifiadau manwl, hanesyddol, Y Stafell Ddirgel, sy'n adrodd hanes Crynwyr ardal Dolgellau yn yr 17eg ganrif, mae yna gymalau sy'n llawn ystyr, ac rydw i'n rhyfeddu at ddawn unrhyw awdur sy'n gallu llwytho ei waith 芒 chyfeiriadau felly.

Mae'r un peth yn wir am nofel Harper Lee, sy'n adrodd hanes hiliaeth yn nhaleithiau 'gwyn' Gogledd America yn hanner cyntaf yr 20fed ganrif. Pan ydach chi'n darllen llyfrau fel hyn yn 15 ac 16 oed, maen nhw'n cael effaith ar y ffordd mae rhywun yn edrych ar y byd.

Rydw i hefyd yn cynnwys y nofel, Summer of Betrayal gan Hong Ying, un o brotestwyr Sgw芒r Tiananmen, Beijing, ymysg y llyfrau sydd wedi cael effaith arna' i. Hefyd, Nel Fach y Bwcs (Marged Jones), sy'n adrodd hanes y Cymry a sefydlodd y Wladfa ym Mhatagonia yn 1865, a Cerddi'r Cywilydd (Gerallt Lloyd Owen). Oherwydd ei onestrwydd, mi fydda' i'n darllen gwaith Aled Jones Williams yn aml, ac rydw i'n cael blas arbennig ar y gyfrol, Rhaid i ti Fyned y Daith Honno Dy Hunn

Pwy yw eich hoff fardd?
Mae enwi un yn amhosib i mi. Mae hi rhwng T H Parry-Williams, Gwyn Thomas, Dic Jones, Gerallt Lloyd Owen, Alan Llwyd, Tudur Dylan Jones, Emyr Lewis, Twm Morys, Rowan Williams, Owen Sheers, Iwan Llwyd, Ceri Wyn Jones, Bryan Martin Davies ... mae'r rhestr yn ddiddiwedd, ac mae enwau newydd yn dod o hyd pan fydd yna linellau'n fy nghyffwrdd i.

Mae dylanwad fy nghyd-aelodau yn nh卯m talwrn Y Sgwod hefyd yn bwysig iawn i mi - Roy Davies, Geraint Roberts, Dafydd Williams a Harri Williams. Pan fyddwn ni'n cyfarfod i drafod tasgau cyn gornest, mae'n gyfle i wrando ar waith ein gilydd ac i drafod, yn fanwl iawn weithiau. Pan fo cyd-aelod yn cynnig gwelliant i gerdd, does yr un ohonan ni'n teimlo'n chwith - mae'n feirniadaeth onest ac adeiladol bob amser, ac mae pawb yn elwa o'r trafod gan fod pb un ohonon ni mor wahanol i'n gilydd o ran oed, cefndir, gwaith ac arddull.

Ar wyliau yn Iwerddon rhyw bum mlynedd yn 么l, mi brynais i gyfrol o waith dyn o'r enw Pat Ingoldsby. Doeddwn i erioed wedi clywed amdano cyn hynny, ond mae'n fardd sy'n ymwrthod 芒'r syniad o fod yn 'fardd' ac yn treulio'i ddyddiau ar strydoedd dinas Dulyn ac yn sylwi ar y pethau bychain sy'n cael eu dweud a'u gwneud. Yn y pethau bychain y mae'r pethau mawr, ac mae Pat Ingoldsby yn llwyddo i daro'r hoelen ar ei phen yn amlach na pheidio.

Pa un yw eich hoff gerdd?
Rydw i'n pendilio rhwng Llythyr o L欧n, Alan Llwyd, a Miserere, Dic Jones. Cywydd ydi'r gerdd gynta' sy'n llwyddo i dynnu'r dagrau bob tro y darllenaf o, wrth i'r bardd ymateb i lythyr y mae'n ei dderbyn gan hen wraig o Gilan (ei hen ardal) a theimlo tristwch, dieithrwch ac euogrwydd o ddeall fod yr ardal honno'n newid ac yntau ddim yn perthyn yno bellach.

Mae Dic Jones, ar y llaw arall, yn s么n am y profiad chwerw o golli plentyn yn ei gyfres o englynion. Ond er y tristwch, mae'n llwyddo i deimlo gobaith gan ddweud ag argyhoeddiad fod "darn o'r haul draw yn rhywle", dim ots pa mor ddu y mae hi ar rai adegau.

Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
"Daw dydd y bydd mawr y rhai bychain / Daw dydd ni bydd mwy y rhai mawr" (Waldo Williams).

Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Clockwork Orange ydi fy hoff ffilm - nid oherwydd fy mod wedi ei mwynhau hi, ond oherwydd ei bod wedi gwneud i mi feddwl a gwingo. Mae cymaint o ffilmiau s芒l sy'n golchi drostan ni a ninnau'n dod o'r sinema heb deimlo'n ddim gwahanol. Fe lwyddodd Clockwork Orange i wneud i mi deimlo'n anghyfforddus iawn.

Mae stori Hedd Wyn yn rhoi'r ffilm Gymraeg hon a gafodd ei henwebu am Oscar ymhlith fy hoff straeon sgrin fawr. Mae yma bopeth - stori ramant, brwydro a gwaed, hiraeth a chyffro, arwr o filwr cyffredin, perthynas Cymru efo Lloegr a'r byd - a dw i ddim yn meddwl ein bod ni'n ei gwerthfawrogi hi'n llawn.

Fy hoff raglen deledu - ac rydw i wedi gwylio cymaint arni nes fy mod i'n cofio tudalennau o'r sgript ar eu hyd - yw'r gyfres gomedi To The Manor Born. Yn y tair cyfres a gafodd eu darlledu gan y 主播大秀 rhwng 1979-1981, mae sgript fendigedig Peter Spence a chemeg-ar-sgrin arbennig Penelope Keith a Peter Bowles yn allweddol. Rydw i'n dal i wylio ac ail wylio fy nghasgliad fideo o'r gyfres - ar brynhawniau glawog yn y gaeaf, gan amlaf.

Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Fy hoff gymeriad ydi Magi S么s (nofelau Minafon, Eigra Lewis Roberts). Fy nghas gymeriad ydi Capten Trefor, uchelwr rhagrithiol, dauwynebog a gwan Daniel Owen.

Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
Nid 'cyfansoddi' neu 'ysgrifennu' englyn y bydd Dic Jones, ond "gweithio englyn" a "gweithio cwpled" - mae'n cyfeirio at y ffaith bod angen parchu'r grefft ac nad ydi taro ar bapur y geiriau cyntaf ddaw i'r meddwl yn ddigon da.

Pa un yw eich hoff air?
Piano.

Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Mi faswn i'n licio gallu brathu fy nhafod weithiau, siarad allan dro arall - a gwybod pryd i wneud y naill a'r llall.

Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
Fyny a lawr.

A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Nifer o bethau, ond yn bennaf fy aeliau trwchus a fy hunanfeirniadaeth drom.

Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi鹿n ei edmygu fwyaf a pham?
Owain Glyn D诺r. Gwelodd, unodd ac ysbrydolodd Gymru.

Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Cyfarfod cyntaf Gorsedd Iolo Morganwg ar Fryn Briallu.

Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Evan Roberts. A gest ti ddiwygiad?


Pa un yw eich hoff daith a pham?
Cerdded Crib Nantlle ar fore clir ddechrau Hydref.

Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Cyw i芒r a reis wedi'i ffr茂o o siop Chineaidd Happy Valley, Pen-y-groes. Pleser pur am 拢4.20.

Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Cerdded, canu'r corn tenor, hel achau, cynnal dosbarthiadau cynghanedd.

Pa un yw eich hoff liw?
Arian.

Pa liw yw eich byd?
Mae pob gair yn cynrychioli lliw i mi - cyflwr sydd wedi ei enwi'n 'synaesthesia' gan seicolegwyr - felly mae pob sgwrs yn llawn lliw.

Mae 'Pwllheli' yn felyn gen i, 'radio' yn las, 'cerddi Gwyn Thomas' yn wyrdd, a 'siswrn' yn cynrychioli du! Does gen i ddim syniad sut mae hyn yn gweithio, dim ond fod pob gair yn cynnig lliw i mi yn syth.

Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Deddf i rwystro newid enwau tai Cymraeg i bethau fel Dunroamin a Rose Cottage. Fesul gair bach y mae'r iaith yn colli ei thir.

A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Na, dim ar hyn o bryd, er mi hoffwn ysgrifennu llyfr ffeithiol am lofruddiaeth aelod o fy nheulu, yn ogystal ag ymchwilio ymhellach i hanes bywyd Cofiadur cyntaf Gorsedd y Beirdd, John Thomas (enw barddol, Eifionydd - sefydlydd a golygydd cyntaf cylchgrawn Y Geninen) a oedd yn gefnder i fy hen, hen, daid. Roedd yn gymeriad ecsentrig iawn.

Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith arall?
Dydi'r llyfr hwn ddim yn dweud y gwir i gyd.

Cysylltiadau Perthnasol
Adolygiad o Yn Fy Lle

Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
adolygiadau
Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy