主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adnabod awdur adnabod awdur
Gwen Lasarus
Yn sgwrsio gyda Gaynor Davies



Yn ferch fach y sgrifennodd Gwen Lasarus ei llyfr cyntaf.
"Dwi'n cofio," meddai wrth Gaynor Davies, "sgwennu stori am ryw oen bach - mewn llyfr coch - a dewis y llun i'w roi ar y clawr a sgwennu fy enw yn dwt o dan teitl y stori a gorffen y llyfr.

Clawr un o lyfrau Gwen lasarus "Roeddwn i mor falch o'r llyfr bach yna a dwi'n si诺r mai dyna pryd cychwynnodd y syniad yn y mhen i o efallai un diwrnod sgwennu nofel - a dyna ddigwyddodd," meddai.

Hadau bach
Aeth y llyfr bach hwnnw ar goll bellach - ond fe ddaeth triawd o nofelau ar gyfer pobl ifainc gyda'r olaf ohonyn nhw yn gweld golau dydd cyn y Nadolig 2007.

"Mae'r hadau bach yna yda ni'n gael pan yn fach yn parhau yn ein pennau," meddai.

Nofelau ar gyfer yr arddegau yw rhai 'Hogan Fler' a hynny'n adlewyrchu'r ffaith iddi hi ei hun weld prinder nofelau ar gyfer yr oed hwn pan oedd hi yn ei harddegau ac yn gorfod neidio'n syth o ddarllen straeon i blant i ddarllen llyfrau oedolion.

Oed anodd
Er yn oed anodd sgrifennu ar ei gyfer dywedodd ei fod yn rhoi pleser hefyd.

"Mae gen i ddiddordeb mewn plant o 12 oed i fyny achos maen nhw'n mynd mor gyfrinachol. Mae ganddyn nhw eu bywydau bach eu hunain ac oedolion ddim yn cael dod i mewn i'r bydau hynny - a dyna sydd mor ddiddorol am yr oed.

"Mae'n dipyn o sialens i dreiddio i'w byd," meddai.

Ond er mai fel awdur nofelau 'Hogan Fler' y mae'n adnabyddus dywedodd mai drama fer a sgrifennodd gyntaf.

Datgelodd hefyd iddi ddewis ffurf dyddiadur ar gyfer ei nofelau oherwydd cyfyngiadau amser arni fel mam i blant bychain ar y pryd a dyddiadur yn rhywbeth haws mynd a dod iddo fel y byddai amser yn caniat谩u.

Ar y gweill ganddi ar hyn o bryd mae nofel ar gyfer oedolion ond ychwanegodd;
"Ond dydw i ddim yn meddwl cau'r drws ar lyfrau plant."

  • Gwen Lasarus:
  • Hyfforddwyd Gwen Lasarus yn athrawes ond mae wedi bod yn actores ers dros ugain mlynedd. Yn dod o Lanfairpwll, M么n, aeth i Ysgol David Hughes.

    Darllen, nofio, ioga, coginio, beicio a cherdded yw ei diddordebau pennaf.

    Dywed mai ei dylanwadau cynharaf oedd Enid Blyton ac yna Kate Roberts, John Gwilym Jones, Sion Eirian ac yn fwy diweddar Frank McCout, Helen Fielding a M. Scott Peck.

    Hi yw awdur: Sgribls Hogan Fler, Snogs a Sgribls Hogan Fler a Swshi, Snogs a Sgribls Hogan Fler

  • Darlledir rhaglen Gaynor Davies rhwng pump a saith bob bore ar 主播大秀 Radio Cymru.

    Cliciwch isod:


  • Tegan Tsieina
  • - stori ddigidol gan Gwen Lasarus.


    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    adolygiadau
    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy