Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adnabod awdur adnabod awdur
Llwyd Owen
Awdur Ffawd Cywilydd a Chelwyddau
• Enw?
Llwyd Owen

• Beth yw eich gwaith?
Awdur a swyddog y wasg.

• Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Lot o wahanol bethau yn y diwydiant cyfryngau - isdeitlo, cyfieithu, ymchwilio, rhedwr.

• 0 ble'r ydych chi'n dod?
Caerdydd.

• Lle'r ydych chi'n byw yn awr?
Caerdydd.

• Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
Mas draw. Roedd ysgol (Glantaf) yn wych (yn enwedig Cynghrair Ymladd yr Anifeiliaid) a choleg (Prifysgol Bangor) yn atgof myglyd a meddwol iawn.

• Dwedwch ychydig am eich llyfr diweddaraf?
Hanes dyn ifanc yw'r nofel, dyn sydd wedi hen golli ei ben a'r pethau o'i orffennol sydd wedi ffurfio ei fodolaeth a'i bersonoliaeth.
Stori am wallgofrwydd yw hi yn bennaf a'r ffordd mae'r gorffennol yn effeithio ar eich presennol.

Clawr y llyfr Mae hi wedi ei hysgrifennu mewn arddull lafar iawn ac yn adlewyrchu'r iaith dw i'n ei chlywed a'i siarad o ddydd i ddydd yn hytrach na'r iaith 'swyddogol', 'draddodiadol', 'lenyddol' sydd i'w ffeindio yn y mwyafrif o nofelau Cymreig. Teimlaf fod yr iaith draddodiadol lenyddol yn gallu dieithrio darllenwyr a'u troi i ffwrdd wrth lyfrau Cymreig.

Dw i'n gobeithio bydd fy nofel yn denu rhai o'r genhedlaeth coll yn ôl at lenyddiaeth Cymreig.

• Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Ffawd Cywilydd a Chelwyddau yw fy nofel gyntaf er mod i bron wedi gorffen fy ail. Bydd hi yn y siopau cyn Nadolig 2006 gobeithio...

• Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Anturiaethau Asterix.
A hefyd fersiwn Gymraeg i blant o'r Odyssey gan Ö÷²¥´óÐãr.

• A fyddwch yn edrych arno'n awr?
Dw i'n dal i ddarllen Asterix hyd heddiw ac fe wnes i ddarllen fersiwn farddonol The Odyssey gwpwl o flynyddoedd yn ôl.

• Pwy yw eich hoff awdur?
Jim Dodge.

• A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
Mae fy ngwaith yn dod o dan ddylanwad lot fawr o bethau: yn brofiadau personol, pethau dw i'n glywed/gweld, llyfrau, ffilmiau, cyfresi teledu a cherddoriaeth. Cafodd Ffawd Cywilydd a Chelwyddau ei dylanwadu'n uniongyrchol gan fy mhrofiadau i'n gweithio yn niwydiant cyfryngol Caerdydd; hanes y Delta Bluesman, Robert Johnson; y nofelau Catcher in the Rye (JD Sallinger); Stone Junction (Jim Dodge) a Filth (Irvine Welsh); yn ogystal â'r ffilmiau Swimming With Sharks a'r Usual Suspects.

• Pwy yw eich hoff fardd?
Gerallt Lloyd Owen yn y Gymraeg a Jim Dodge yn Saesneg.

• Pa un yw eich hoff gerdd?
Cardiff Cut gan Lloyd Robson.

• Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
'Wylit, wylit Lywelyn, wylit waed pe gwelet hyn' gan Gerallt Lloyd Owen; ac 'It exacts the strictest discipline to truly take it easy' gan Jim Dodge.

• Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Ffilm: (tair uchaf): The Big Lebowski, Napoleon Dynamite, Chopper. Cyfres deledu: (tair uchaf): The Simpsons, Futurama, Green Wing.

• Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Hoff: Bruce Robertson o'r nofel Filth gan Irvine Welsh.
Cas: Frodo blydi Baggins.

• Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
"Peidiwch cosi ceilliau llew sy'n cysgu". Hen ddywediad Africaneraidd.

• Pa un yw eich hoff air?
Chwyrligwgan.

• Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Chwarae offeryn cerddorol - yn enwedig y drymiau.

• Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
Anamyneddgar.
Anorak.
Penderfynol.

• A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Bol cwrw a moobs bach silly. Ar wahân i hynny, dw i'n berffaith!

• Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi'n ei edmygu fwyaf a pham?
Siân Rhiannon Owen. Sa i'n adnabod neb arall yn y byd mor ddihunan â hi. Dylse hi gael ei chanoneiddio!

• Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Rhan o dîm pêl-droed Dinas Caerdydd ar y 23ain o Ebrill 1927.

• Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Y Pâb presenol.
Y cwestiwn: deinosoriaid?

• Pa un yw eich hoff daith a pham?
Y daith o fy nhÅ· i yng Nghaerdydd ar hyd yr A470 i Cob Records ym Mhorthmadog gyda llond bag o arian.

• Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Un o beis gwefreiddiol Gina gyda gwydr o Rioja.

• Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Cerddoriaeth (dw i'n gasglwr recordiau brwd ac yn DJ yn fy amser sbâr); ffotograffiaeth (mae gen i gasgliad i fyny yn Café Calcio Caerdydd a rhagor ar ddangos ; ffilmiau; darllen; coginio; cerdded/mynydda; seiclo; gwylio pêl-droed.

• Pa un yw eich hoff liw?
Cwestiwn cas i rywun lliwddall!

• Pa liw yw eich byd?
Llwyd.

• Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Mae hi'n siŵr o fodoli'n barod ond y peth sy'n fy nghanddryllio fwyaf yw'r aparteid a'r neilltuo hiliol sy'n mynd 'mlân o flaen ein llygaid. Mewn byd delfrydol bydde pawb yn gyfartal.

• A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Oes. Bydd yn y siopau cyn y Nadolig gobeithio...

• Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel?
Yn y dechreuad yr oedd y gwair, a'r gwair oedd gyda Huw, a Huw oedd y gwair... meddyliais, wrth dderbyn blow-back heger gan fy ffrind, Huw Chong.



Cysylltiadau Perthnasol
Adolygiad o Ffawd Cywilydd a Chelwyddau

Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
adolygiadau
Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar Ö÷²¥´óÐã Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý