主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adnabod awdur adnabod awdur
Lois Arnold
Enillydd Tlws Dysgwr y Flwyddyn ac awdur Cysgod yn y Coed


Enw:?
Lois Arnold

Beth yw eich gwaith?
Dw i'n gweithio ym maes iechyd meddwl, yn gwneud gwaith ymchwil a darparu gwybodaeth a hyfforddiant.

Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Ers dwy flynedd bellach dw i'n gweithio'n rhan amser fel tiwtor Cymraeg i oedolion.

O ble'r ydych chi'n dod?
Yn wreiddiol o Walton on Thames, Surrey, a ches i fy magu yn Weybridge ac yn Stevenage, Swydd Hertford

Lle'r ydych chi'n byw yn awr?
Yn Y Fenni, Sir Fynwy

Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
Do, ar y pryd, ond wrth edrych yn 么l basai hi wedi bod yn well da fi taswn i wedi cael mwy o gyfle i ddatblygu fel person yn lle gorfod canolbwyntio ar ddysgu gwybodaeth a phasio arholiadau.

Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf?
Roedd darllen wedi bod o help mawr i fi wrth ddysgu Cymraeg, ond roedd prinder llyfrau addas ar gyfer dysgwyr yn y blynyddoedd cynnar. Felly pan welais i'r gystadleuaeth creu deunydd darllen i ddysgwyr yn Rhestr Testunau yr Eisteddfod penderfynais fynd ati i geisio sgwennu rhywbeth fy hun.

Dwedwch ychydig amdano.
Casgliad o stor茂au byrion, ysgafn i bobl sy wedi bod yn dysgu Cymraeg am flwyddyn neu fwy.

Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Llyfrau Saesneg, ffeithiol ynglyn 芒 phroblemau iechyd meddwl

Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
The Lion, the Witch and the Wardrobe (a'r llyfrau eraill yn y gyfres) gan C. S. Lewis.

A fyddwch yn edrych arno'n awr?
Syniad da! - baswn i'n hoffi gwneud.

Pwy yw eich hoff awdur?
Mae'n anodd iawn dewis un yn unig, ond os oes rhaid i mi wneud, dweda i Angharad Tomos.

A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
Yma o Hyd gan Angharad Tomos - nofel fythgofiadwy.

Pwy yw eich hoff fardd?
Eto, mae llawer ohonyn nhw, ond y bardd Cymraeg cyntaf i mi ddarganfod (a dwli arno!) oedd Waldo Williams.

Pa un yw eich hoff gerdd?
'Yr Heniaith' gan Waldo.

Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
Hyn, o 'Yr Heniaith', achos mae'n gyrru ias drwyddo i:
Hyn yw gaeaf cenedl, y galon oer
Heb wybod colli ei phum llawenydd.
Wedyn yn y pennill olaf:
Codwn, yma, yr hen feini annistryw.

Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Fy hoff ffilm ddiweddar yw Billy Elliott.
Fy hoff raglen deledu Gymraeg yw Crwydro, gyda Iolo Williams.

Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Fy hoff un yn ddiweddar yw'r prif gymeriad (sef yr wrach) yn Gwrach y Gwyllt gan Bethan Gwanas!

Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
'Bydd driw i ti dy hun'

Pa un yw eich hoff air?
Llyfrgell

Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Actio - ond dw i'n rhy hunanymwybodol

Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
Wrth
Fy
Modd

A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Dw i'n colli pethau o hyd!

Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi'n ei edmygu fwyaf a pham?
Rosa Parks, y fenyw ddu yn America a ddechreuodd y protestiadau bysus yn y pumdegau. Dw i'n edmygu pobl gyffredin sy'n sefyll i fyny dros gyfiawnder, er gwaetha'r perygl iddyn nhw eu hunain.

Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Terfysgoedd Beca - baswn i wedi bod wrth fy modd yn chwalu'r tollbyrth, ayb!

Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Sylvia Pankhurst - hoffwn i siarad 芒 hi am sefyllfa menywod yn ei hamser hi a nawr.

Pa un yw eich hoff daith a pham?
Y daith adre i'r Fenni - a gweld y mynyddoedd o fy mlaen i.

Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Cawl cennin a thatws gyda chaws a bara ffres, wedyn tarten afalau gyda hufen.

Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Cerdded yn y mynyddoedd, gwylio adar, nofio, canu, chwarae'r ffliwt a'r gitar. Dw i newydd ddechrau dysgu marchogaeth a dw i wrth fy modd ond yn ofnus!

Pa un yw eich hoff liw?
I'w wisgo - glas.

Pa liw yw eich byd?
Gwyrdd - lliw cefn gwlad godidog Cymru.

Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Deddf i wahardd arfau dinistriol ym mhob gwlad.

A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Oes, cyfrol arall o storiau byrion. Dw i wedi dechrau ysgrifennu nofel hefyd, sy'n teimlo fel tipyn o her!

Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith arall?
Baswn i'n hapus iawn taswn i'n gwybod hynny!

Cysylltiadau Perthnasol

Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
adolygiadau
Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy