主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adnabod awdur adnabod awdur
Mared Lewis
Cwestiwn i Eva Braun
Enw
Mared Lewis

Beth yw eich gwaith?
Gweithio ar fy liwt fy hun - sgriptio, sgwennu, cyfieithu a ballu.

Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Gweithio mewn bwyty a siop tra yn yr ysgol a choleg, cyfnod fel athrawes Saesneg, ym maes addysg a busnes, ac fel ymchwilydd i gyfresi dogfen ysgafn i S4C.

0 ble'r ydych chi'n dod?
O Falltraeth, Sir F么n.

Lle'r ydych chin byw yn awr?
Yn Llanddaniel Fab, Sir F么n o hyd!

Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
Do, ar y cyfan, heblaw am y gwersi gwnio!

Dwedwch ychydig am eich llyfr diweddaraf?
Mae Esgid Wagyn edrych ar berthynas Joyce ac Ian Parry wedi diflaniad eu merch fach, Mali, ddeng mlynedd ynghynt. Mae'n nofel ar sut 'da ni'n ymdopi 芒 sawl math o golled, deud y gwir.

Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Dyma fy nofel gyntaf, ond dwi wedi cael cyhoeddi ambell i stori fer.

Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Stori Mops gan J. Ellis Williams. Hanes ci bach annwyl direidus!

A fyddwch yn edrych arno'n awr?
Faswn i wrth fy modd yn cael gafael ar gopi i ddarllen i fy meibion, ond mae o allan o brint.

Pwy yw eich hoff awdur?
Cymraeg - Geraint V. Jones a Jane Edwards.
Saesneg - William Trevor a Maggie O' Farrell.

A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
To kill a Mockinbird gan Harper Lee. Nofel andros o bwerus am hiliaeth yn Deep South yr Unol Daleithiau yn y 30au.
Y ffaith fod y stori'n cael ei hadrodd o berspectif plentyn, Scout, yn cryfhau'r deud.

Pwy yw eich hoff fardd?
Am gwestiwn anodd! Dwi wrth fy modd efo gwaith Iwan Llwyd a Nesta Wyn Jones, ac mae Keats yn ddewis amlwg i mi yn Saesneg.

Pa un yw eich hoff gerdd?
Fy ngwlad, Gerallt Lloyd Owen.a Remember gan Christina Rossetti.

Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
Gai ddwy?

Poni welwch chi hynt y gwynt a'r glaw?
Poni welwch chi'r Deri'n ymdaraw"
Gan Gruffydd ab yr Ynad Goch ar farwolaeth Llywelyn.

Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Hoff ffilm - The apartment efo Jack Lemmon a Shirley McLaine.
Hoff raglen deledu - Rownd a Rownd , Tipyn o Stad , Clocking Off a Northern Exposure pan oedd o!

Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Hoff gymeriad - Atticus y tad doeth yn To Kill a Mockingbird yn un ohonyn nhw.
Roedd yn gas gen i gymeriad bach crintachlyd Eirwyn yn Pan ddaw'r dydd gan Elfyn Pritchard yn ddiweddar.

Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
Time runneth through the roughest day - Shakespeare.

Pa un yw eich hoff air?
Cei!

Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Y ddawn i beidio poeni am bethau bach!

Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
Trafferthus
Brwdfrydig
Teyrngar.

A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Sawl peth, ond dwi'n dysgu byw efo nhw.

Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi'n ei edmygu fwyaf a pham?
Tani Grey Thompson - am ei hagwedd.

Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Hoffem fod wedi bod yn y stafell gyfrif pleidleisiau dyngedfennol yng Nghaerfyrddin yn 1997 pan ddaeth y neges drwodd fod y sir wedi dweud "Ie" i Gynulliad i Gymru.
Moment bwysig.

Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Eva Braun - sut yn y byd oedd hi'n gallu byw efo Adolf Hitler?

Pa un yw eich hoff daith a pham?
Y daith i lawr drwy'r coed pin at draeth Llanddwyn.

Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Lasagne cartra, salad mawr a photal o win coch neis o Awstralia.

Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Bod efo'r plant a Dafydd yn cerdded; mynd i weld Mam a Gwyn fy mrawd, a chyfarfod 芒 ffrindiau da am bryd a llond bol o chwerthin . Dwi'm yn drwglecio siopa chwaith.

Pa un yw eich hoff liw?
Gwyrdd.

Pa liw yw eich byd?
Gwyrdd ar hyn o bryd.

Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Deddf i wahardd apathi.

A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Digon o syniadau yn ymgiprys am sylw., ond dim un syniad am lyfr penodol eto.

Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith llenyddol arall?
"Twll?
Pa dw....." Yr oedd llais Sam yn atseinio'n hyfryd wrth iddo blymio i mewn i'r gwagle.

Esgid Wag gan Mared Lewis (Gwasg y Dref Wen 拢5.99) yw Llyfr y Mis, Mawrth, 2005.

Cysylltiadau Perthnasol

Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
adolygiadau
Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy