主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adnabod awdur adnabod awdur
Owen Martell
主播大秀 Cymru'r Byd yn holi Owen Martell awdur Dyn yr Eiliad a Cadw dy ffydd, brawd


Enw?
Owen Martell

Beth yw eich gwaith?
Awdur a cwpwl o bethau eraill

Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Gohebydd chwaraeon gyda'r 主播大秀

0 ble'r ydych chi'n dod?
Pontneddfechan, yng Nghwm Nedd

Lle'r ydych chi'n byw yn awr?
Y Rh芒th, Caerdydd

Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
Do, yn fawr iawn.

Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf wnewch chi ddweud ychydig amdano?
Mae Dyn yr Eiliad yn nofel am dri ffrind dau sydd yn fyw ac un sydd wedi marw. Mae'r llyfr yn edrych ar fywydau'r tri ac yn ceisio gofyn sut a pham y mae'r ffrind marw wedi marw. A beth yw effeithiau hynny ar y gorffennol y maen nhw wedi ei rannu ac ar y bywydau sydd ar 么l.
Owen MartellFe wnes i ddechrau ysgrifennu'r nofel am nad oeddwn i'n gallu rhoi'r senario hon allan o fy meddwl.

Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Cadw dy ffydd, brawd nofel, 2000

Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
The Man Who Took the Indoors Out, gan Arnold Lobel

A fyddwch yn edrych arno'n awr?
Yn anffodus does dim copi ohono gyda fi. Byddwn i wrth fy modd yn ei weld eto.

Pwy yw eich hoff awdur?
Gormod i ddewis un ond mae'r rhestr yn cynnwys Camus a Kundera, Dostoiefsci, DeLillo a Doctorow, Melville a Mihangel.

A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
Mae llyfrau David Nobbs am Reggie Perrin wedi cael dylanwad sylweddol iawn ar fy mywyd.

Pwy yw eich hoff fardd?
Dwy' ddim yn siŵr.

Pa un yw eich hoff gerdd?
I thought I saw Jesus on a tram.
I said, Are you Jesus?
He said, Yes. I am.
- Spike Milligan.

Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
At thirty-one, when some are rich And others dead,
I, being neither, have a job instead'
- Philip Larkin

Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Yn amlwg, fy hoff raglen deledu yw The Simpsons.
O ran ffilmiau, eto, gormod i ddewis un. Mae A Night at the Opera, y Marx Brothers, yn ffefryn. Hefyd ffilmiau'r brodyr Coen. Rwy' hefyd yn hoff iawn o, oddi ar dop fy mhen, Three Colours: Red, Grosse Point Blank, Picnic at Hanging Rock.

Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Rwy'n hoffi'n fawr gymeriad Dmitry yn nofel Dostoyevsky, The Brothers Karamazov. a Jay Gatsby hefyd, wrth gwrs. Ond wedyn rwy'n gofyn i fy hun, Ble fydden ni heb Karl yr Almaenwr hoff yn Cysgod y Cryman'
Mae'n anodd meddwl am gas gymeriadau. Maen nhw wastad yn gas neu yn anhoffus am reswm, wrth gwrs, ac rwy' fel arfer yn gwerthfawrogi'r rhesymau hynny. Ond fe wnaeth yr adroddwr yn Enduring Love Ian McEwan fynd ar fy nerfau eitha' tipyn. Felly hefyd gymeriadau fel John Self a Keith Talent yn nofelau Martin Amis.

Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
Hannar o be' gymwch chi?
'

Pa un yw eich hoff air?
Dwni'm

Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Mae'n tempting i ddweud 'Gallu ysgrifennu nofelau' ond rwy'n hanner amau taswn i'n gallu chwarae'r drymiau yn dda na fyddwn i'n boddran gyda ysgrifennu.

Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
Diawl, shwrri boi?


A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Wrth gwrs.

Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi'n ei edmygu fwyaf a pham?
Dwy' ddim yn hollol siŵr beth ma' edmygu rhywun yn ei feddwl (yn enwedig rhywun nad ydw i wedi ei gyfarfod erioed), ond rwy'n sicr yn hoff iawn o agwedd ac egni pobl fel Iolo Morgannwg a Malcolm X.

Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Byddwn i wedi hoffi curo George Foreman yn y Rumble in the Jungle.

Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Ryan, efallai, neu John Coltrane. Ond fyddwn i ddim eisiau dweud unrhyw beth wrthyn nhw o angenreidrwydd. Byddwn i jyst eisiau bod o gwmpas.

Pa un yw eich hoff daith a pham?
Yr A470 o gwmpas Merthyr a Phen-y-Fan, a'r A465 o gwmpas Cwm Nedd ac ar hyd Blaenau'r Cymoedd. - Atgofion etc.
Ac unrhyw daith ar awyren hefyd ond glanio yn hytrach nag esgyn. Fe fydd hedfan wastad yn beth hollol ryfeddol, rwy'n credu.

Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Rwy'n hoffi lot fawr o fwydydd gwahanol. Ar yr union eiliad hon, rwy'n breuddwydio am cod a chips o'r Central Fish Bar yn Aberystwyth.
Rwy'n hoff iawn o gaws hefyd, a chawsiau Cymru yn arbennig. Byddwn i'n hoffi bod yn Gynrychiolydd Byd-eang i Gawsiau Cymru, fel yr oedd Geri Halliwell gyda'r Cenhedloedd Unedig.

Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Byddwn i'n chwarae mwy o golff os oedd gen i fwy o arian.

Pa un yw eich hoff liw?
Rwy'n hoffi brown a hufen ar hyn o bryd.

Pa liw yw eich byd?
Dwy' ddim yn gwbod sut i ateb y cwestiwn hwn.

Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Gorfodaeth ar i bawb fyw yn hapus ac yn heddychlon gyda'i gilydd ar boen eu saethu.

A byddwn i'n deddfu bod un diwrnod o bob wythnos yn cael ei neilltuo ar gyfer taflu tomatos at Iain Paisley. Mae e'n mynd ar fy nerfau yn ofnadwy.

A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
W锚s w锚s.

Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith arall?
Call me Ishmael llinell agoriadol Moby Dick.


Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
adolygiadau
Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy