主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adnabod awdur adnabod awdur
Holi Martin Davis
Mae Martin Davis newydd gyhoeddi ei ail nofel, Os Dianc Rhai



Enw:
Martin Davis

Beth yw eich gwaith?
Cyfieithydd llawrydd

Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Yn gyfieithydd llawrydd ers 15 mlynedd; cyn hynny'n swyddog gweinyddol hefo undeb athrawon; yn archifydd; bm hefyd yn labro yng Nghonamara; yn potelu gwin; ac yn weinydd mini-bars mewn gwesty crand.Dwi hefyd wedi gweithio fel sgriptydd a golygydd sgriptiau i gwmni cynhyrchu annibynnol ym myd y teledu a radio.

0 ble'r ydych chi'n dod?
Yn enedigol o Lanrwst. Mam o Iwerddon (wedi'i magu'n Llanrwst), nhad yn Sais. Mi ges i fy magu yn Stratford-upon-Avon, ond dychwelyd i Gymru oedd y nod i mi ac felly y bu pan oeddwn yn 18 oed ryw 28 o flynyddoedd yn 么l bellach.

Ller ydych chi'n byw yn awr?
Tre Taliesin rhwng Machynlleth ac Aberystwyth ers 1986

Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
.Mi ges i fy addysg mewn ysgol fonedd yn Lloegr. Doedd hi ddim yn ofnadwy o ormesol na diflas, ond mi oeddwn i'n ddigon balch i gael gadael y lle. Bues i yno o 7 i 18 oed! Amser maith. A gorfod mynd i'r ysgol ar ddydd Sadwrn, iff iw pl卯s, o 11 oed ymlaen! Mi ges i addysg dda, dwi ddim yn amau, ond, at ei gilydd, doeddwn i'n ddim yn hoffi'r ysgol ac roedd hynny'n hwb pellach i'r awydd i ganu iach o Loegr ac i symud i fyw yng Nghymru.

Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf wnewch chi ddweud ychydig amdano?
Bu hanes y 1930au a'r 1940au o ddiddordeb mawr imi erioed. Bu'n gyfnod tyngedfennol i fy mam a nhad. Collodd fy nhad ei olwg yn y rhyfel ar 么l dioddef holl erchyllterau bywyd fel carcharor rhyfel hefo'r Japaniaid. Doedd Mam ddim yn gwybod a oedd yn fyw neu'n farw am dair blynedd a hanner a hwythau newydd briodi ym 1940. Bu'r holl gyfnod yn destun trafod a hel atgofion parhaus yn y ty 'cw pan oeddwn i'n ifanc. Cafodd nhad sawl dihangfa drwch blewyn yn ystod ei garchariad tasa fo heb oroesi, fyswn i ddim yma, na fyswn?
Nid stori mam a nhad sydd yn y gyfrol yma er bod y stori honno'n haeddu cael ei chofnodi ond stori Hugh Eldon-Hughes, Cymro Seisnigedig o un o deuluoedd uchelwrol tiriog Pen Llyn, sy'n chwyrn ei wrthwynebiad i'r syniad o ddatblygu ysgol fomio ym Mhenyberth. Ar yr un pryd, ac yntau'n fyfyriwr yn Rhydychen, mae o'n ymserchu ag Iddewes ifanc, Ilse Meyer, sy'n ffoi rhag y Natsiaid yn yr Almaen. Mae Hugh yn sylweddoli bod rhyfel yn anochel ac nad oes dewis, hwyrach, ond paratoi at ryfel. Dyna ddilema agoriadol y storiDilynir hynt a helynt y cymeriadau wedyn hyd at ddiwedd yr ail ryfel byd.Roeddwn i hefyd eisiau cael rhyw bersbectif ar ddwy weithred a ddigwyddodd yng Nghymru ym 1936 sef, llosgi'r ysgol fomio a'r penderfyniad gan rai, o dde Cymru'n bennaf, i fynd i Sbaen i ymladd yn erbyn Ffasgaeth. I mi roedd y ddwy weithred yr un mor anrhydeddus, er yn cynrychioli dau safbwynt gwleidyddol hollol anghymharus, ac roeddwn i'n awyddus i werthuso'r ddwy yn eu cyd-destun hanesyddol.

Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Chwain y Mwngrel (barddoniaeth)Llosgi'r Bont (straeon byrion)Rhithiau (straeon byrion)Br芒n ar y Crud (nofel i oedolion)Seros (nofel i blant)Seros 2 (notel i blant)Llyfrau (a chyfres deledu) Plismon Puw (i blant)Amryw o gyfieithiadau ac addasiadau.

Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Mi fyddwn i wrth fy modd 芒 phob llyfr.

A fyddwch yn edrych arno'n awr?
Rydym yn dueddol o fod yn or-sentimental am lyfrau ein plentyndod a fydda i byth yn edrych arnyn nhw erbyn hyn.

Pwy yw eich hoff awdur?
Does dim un enw unigol. Dyma rai o'r ffefrynnau: Gunter Grass, J.G Williams, Wiliam Owen Roberts, Gita Mehta (dynes o India), Edna O'Brien, Alice Walker a llawer iawn mwy.

A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
Sawl un. Ond yn sicr Trioleg Danzig Gunter Grass The Tin Drum, Cat and Mouse a Dog Years. Roeddwn i wrth fy modd 芒'r ffordd y mae'r awdur yn gallu cydblethu'r personol 芒 digwyddiadau cyd-destun hanesyddol eang.

Pwy yw eich hoff fardd?
Unwaith eto, does dim un enw ond dwi'n cael pleser anghyffredin wrth wrando ar eiriau rhai cantorion cyfoes Meic Stevens, Steve Eaves, Mim Twm Llai, Bob Delyn, Geraint Jarman, Iwan Llwyd yn ogystal 芒 RWP a'r lleill 'na trueni mai dynion ydyn nhw i gyd ond hyd yn hyn, does yr un bardd benywaidd Cymraeg wedi taro deuddeg yn yr un ffordd.Yn hoff o doreth o feirdd Saesneg hefyd.

Pa un yw eich hoff gerdd?
Sori yn methu meddwl am ateb.

Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
Sori yn methu meddwl am ateb o ia, ro'n i'n gwrando ar g芒n gan Meic Stevens gynnau Dros grib y Moelfryn af am dro er cof am blant y cwm Mi wneith hyn'na'r tro fel fy hoff linell o farddoniaeth am heddiw.

Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Rabbit Proof Fence
Eldra
Peth hawdd imi fyddai byw heb deledu.

Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Sori dim ateb.

Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
Sori eto.

Pa un yw eich hoff air?
Sori, mae'n debyg!!!

Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Tynnu llinell syth 芒 phren mesur!

Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
Cytbwys, Amyneddgar a Siriol (medd fy mhartner!)
Diog, Trwsgl a Bl锚r (medda fi).

A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Y ffaith fy mod i'n ddiog, yn drwsgwl ac yn fl锚r.

Pa berson byw neu hanesyddol ydych chin ei edmygu fwyaf a pham?
Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Dwi'n falch nad oeddwn i'n rhan o'r 1930/40au.

Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Pa un yw eich hoff daith a pham?
Cerdded o Daliesin i Fachynlleth. Oherwydd ei bod i ffwrdd o ddwndwr y newyddfyd blin a bod naws hynafol iawn i'r llwybrau dros y mynyddoedd yn yr ardal dan sylw yn ogystal 芒'r golygfeydd diguro a harddwch cyffredinol y fro.

Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Pasto a phesto + brocoli a/neu fadarch, hefo digon o arlleg a chaws ar ei ben.

Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Secs, cerdded a'r Cwps.

Pa un yw eich hoff liw?
Melyn.

Pa liw yw eich byd?
Melyn.

Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Gorfodi mewnfudwyr i ddysgu, defnyddio a pharchu'r Gymraeg.

A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Mae yna s么n am ddilyniant i Os Dianc Rhai dwi wedi dechrau ar y gwaith ymchwil yn barod. Hefyd mae yna gasgliad o straeon byrion wedi'u lleoli ar y rheilffordd rhwng Amwythig/Aberystwyth a Phwllheli. Mae'r rheini ar y gweill ers hydoedd. Gobeithio y ca i gyfle rywbryd i'w gorffen (cyn iddyn nhw gau'r lein, falla!!).

Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith arall?
Heb ateb


Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
adolygiadau
Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy