主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adnabod awdur adnabod awdur
Si芒n Lewis
Mam Gwil Bril

Cliciwch i glywed Gaynor Davies yn siarad gydag awduron eraill.

A hithau wedi ei magu ar aelwyd lle'r oedd yna sgrifennu nid yw'n syndod i Si芒n Lewis fod wedi dechrau sgrifennu yn ifanc iawn - a chael cyhoeddi ei gwaith cyntaf pan yn naw oed!

"Yr oedd fy nhad a mam yn sgrifennu ac yn y cyfnod pan oeddwn i'n fach iawn roedd yna lyfrgellydd brwdfrydig iawn yng Ngheredigion oedd yn annog pobl i sgrifennu llyfrau plant ac roedd fy nhad a mam yn gwneud, a'u ffrindiau nhw'n gwneud, felly rydw i wedi byw erioed mewn t欧 lle'r oedd yna ysgrifennu llyfrau - yn enwedig llyfrau plant," meddai wrth gael ei holi gan Gaynor Davies ar 主播大秀 Radio Cymru fore Gwener, Ionawr 19, 2007..

Trysorfa'r Plant
Datgelodd mai'r peth cyntaf a gyhoeddodd oedd pennill am Syr Gwyn Cwningen yn Nhrysorfa'r Plant yn naw oed.

Clawr un o lyfrau Gwil BrilErbyn hyn y mae'n awdur nifer fawr o lyfrau i blant yn straeon ac yn bosau - un arall o'i diddordebau.

Hi yw 'mam' y dyfeisydd rhyfeddol hwnnw o Gymro, Gwil Bril, deg oed, ac mae'n awdur hefyd, cyfres o lyfrau hanes a gyhoeddir gan Wasg Carreg Gwalch lle'r edrychir ar rhyw ddigwyddiad yn hanes Cymru o safbwynt plentyn oedd yn byw ar y pryd.

Ar hyn o bryd mae'n paratoi i ychwanegu dau lyfr newydd at y gyfres honno ac ail lyfr Twm yn y Canol a gyhoeddir gan Wasg Gomer.

Gari Tryfan
A phan fo hi ei hun yn cael amser i ddarllen? Dywedodd mai llyfrau ditectif sy'n mynd 芒'i bryd.

"Cefais lyfr Gari Tryfan pan oeddwn i'n bump oed; dydw i ddim yn cofio ai fi a'i darllenodd e ynteu rhywun ddarllenodd e imi ond er i fod o'n codi dychryn arnaf i roeddwn i wedi'i fwynhau a dyna'r math o lyfr rydw i'n hoffi ddarllen," meddai.

Cymraeg a Saesneg
Mae'n sgrifennu yn Gymraeg ac yn Saesneg gan ddweud ei bod yn gyfforddus yn y naill iaith a'r llall.

"Ond rydw i wastad yn meddwl am rywbeth fel yn perthyn i'r iaith gyntaf y'i sgrifennwyd ynddi," meddai gan ychwanegu fod popeth yn colli rhywfaint o'i naws o'i gyfieithu.

Mae Si芒n wedi byw yn ardal Aberystwyth gydol ei hoes ac wedi cyfnod o sgrifennu i gylchgronau'r Urdd cafodd swydd gyda'r mudiad.

"A dyna lle dechreuais i sgwennu straeon," meddai.

  • Darlledir Rhaglen Gaynor Davies rhwng pump a saith y bore ar 主播大秀 Radio Cymru.

  • Cysylltiadau Perthnasol

    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    adolygiadau
    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy