主播大秀

Explore the 主播大秀
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

主播大秀 主播大秀page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adnabod awdur adnabod awdur
Holi Sian Thomas
Awdur y gyfres Dwy Genhedlaeth a darlledwraig gyda 主播大秀 Radio Cymru.


Enw:
Sian Thomas

Beth yw eich gwaith?
Cyflwynydd radio a theledu.

Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Heblaw am swyddi yn ystod gwyliau ysgol a choleg, dwi wedi bod yn cyflwyno ers yn ddeunaw oed. Er mwyn ennill tipyn o arian yn y gwyliau, bues i'n canu ym mhlas glansefin am gyfnod.

0 ble'r ydych chi'n dod?
Cefais fy ngeni ym Mhenygraig yn y Rhondda ond fy nghodi a'm magu yn Ystalyfera yng Nghwm Tawe. Felly dwi'n valley's girl!

Lle'r ydych chi'n byw yn awr?
Caerdydd.

Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
Do, yn enwedig cyfnod prifysgol, ym Mhrifysgol Abertawe.

Allwch chi ddweud ychydig am y syniad y tu 么l i'ch llyfrau diweddaraf?
. Ma' Cymru'n llawn o deuluoedd enwog ac adnabyddus a chan ein bod yn genedl fach, i ni'n teimlo ein bo ni'n nabod pawb, ac yn gwybod hanes y teulu - pwy sy'n perthyn i bwy ac yn y blaen, ac os nad i ni'n gwybod, i ni ishe ffindo mas !

Y syniad oedd, gweld y berthynas rhwng y ddwy genhedlaeth pa mor debyg neu wahanol ydyn nhw, a beth yw'r dylanwadau arnyn nhw, ac wrth wneud, roi cyfle i'r darllenydd ddod i'w nabod nhw dipyn yn well.

Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Dyma'r llyfrau cyntaf i mi eu hysgrifennu.i.

Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Roeddwn i wrth fy modd gyda llyfrau'r Famous Five gan Enid Blyton. Alice in Wonderland, Lewis Carol, ac, wrth gwrs, Llyfr Mawr y Plant.

A fyddwch yn edrych arno'n awr?
Nawr ac yn y man, a thrio ail fyw plentyndod!

Pwy yw eich hoff awdur?
Le Carre,

A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
Dwi wedi mwynhau cymaint o lyfrau dros y blynyddoedd a nifer yn gofiadwy mewn gwahanol ffyrdd.

Pwy yw eich hoff fardd?
Gwenallt.

Pa un yw eich hoff gerdd?
Rhydcymerau.

Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
Gorwedd llwch holl saint yr oesoedd a'r merthyron yn dy gol.
O Cymru, gan Gwenallt.

Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Ffilm: Gone With the Wind a Casablanca.
Teledu: Sex and the City.

Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Sgen i ddim un yn arbennig.

Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
Ffydd, gobaith, cariad, a'r mwyaf o rhai hyn yw cariad.

Pa un yw eich hoff air?
Cariad.

Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Baswn i wrth fy modd yn gallu siarad nifer o ieithoedd yn rhugl.

Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
Merch
Drws
Nesa

A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Fy mhen 么l.

Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi'n ei edmygu fwyaf a pham?
Martin Luther King - sdim wir eisie esbonio pam, nag oes!

Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Baswn wedi licio bod yn gleren ar y wal yn stabal Bethlehem adeg geni Crist.

Pa berson hanesyddol hoffech chi gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Tutankhamun - a holi gafodd ei lofruddio ai peidio!

Pa un yw eich hoff daith a pham?
Dwi'n dwli ar yr Aifft, ac yn arbennig ar y daith o Luxor I Aswan ar Afon Nil. Mae'n fendigedig.

Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Cinio dydd Sul Mam sdim byd yn well.

Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Dwi'n astudio Eifftoleg ac yn trio dysgu Arabeg ar hyn o bryd ac mae'r cyfan yn cyfrannu at y dileit arall teithio.
Dwi'n hoffi sgio hefyd.

Pa un yw eich hoff liw?
Du dwi'n wisgo fwyaf ond fy hoff liw am godi calon ydi melyn.

Pa liw yw eich byd?
Melyn - mae'n liw positif.

Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Fod peiriannau checio cyflymdra yn cael eu dinistrio am byth.

A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Oes . Mae Gomer wedi gofyn am ddwy gyfrol arall o Dwy Genhedlaeth yn ystod y flwyddyn yma. Felly bydd gen i ddigon ar fy mhl芒t.


Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
adolygiadau
Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 主播大秀 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy