主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
1914 - 1937

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Canrif O Brifwyl
1900 - 1913
1914 - 1937
1938 - 1955
1956 - 1966
1967 - 1979
1980 - 1999
Radio a Teledu
Ble ar y We

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Lleoliad yr Eisteddfod           Bangor

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol

  • Swffragetiaid yn cyflawni gwaith dynion yn yr ymgyrch ryfel.
  • Lloyd George yn gyfrifol am gynhyrchu arfau.
  • Yr Almaen yn defnyddio nwy gwenwynig.
  • Ffurfio'r Gwarchodlu Cymreig.
  • Glowyr De Cymru yn mynd ar streic i ennill rhagor o gyflog.
  • Ethol William Hughes, Cymro Cymraeg, yn Brif Weinidog Awstralia.
  • Cynnal cangen gyntaf Sefydliad y Merched yn Llanfair P.G.
  • Cyhoeddi llyfr dadleuol Caradoc Evans, My People.
  • Keir Hardie yn marw.

Archdderwydd               Dyfed

Y Gadair

Testun. Awdl: 'Eryri'
Enillydd: T. H. Parry-Williams
Beirniaid: John Morris-Jones, J. J. Williams, T. Gwynn Jones
Cerddi eraill: un o'r pedwar cystadleuydd oedd Hedd Wyn, ond ni chafodd feirniadaeth ffafriol, yn enwedig gan John Morris-Jones.

Blwyddyn

Radio a Teledu

 
 

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd

'Dim ond pedair awdl a dderbyniwyd i gystadleuaeth y Gadair, a bwriodd John Morris-Jones y bai am hynny ar y ffaith fod dau destun tebyg wedi eu gosod ychydig cyn 1915, 'Gwlad y Bryniau' (1909), 'Y Mynydd' (1912). Awdl ramantaidd ei dull a'i geirfa a gafwyd gan T. H. Parry-Williams, ond, fel 'Y Mynydd', yr oedd yn sylfaen i un o'i them芒u pwysicaf yn y blynyddoedd i ddod, sef ymlyniad wrth fro a chanfod hunaniaeth yng nghyd-destun bro.

Y Goron

Testun. Pryddest: 'Y Ddinas'
Enillydd: T. H. Parry-Williams
Beirniaid: Alafon, Gwili, Eifion Wyn

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd

'Roedd pryddest T. H. Parry-Williams yn seiliedig ar ei brofiad o fyw ym Mharis yn fyfyriwr. Ni fynnai Eifion Wyn eichoroni. Fe'i condemniodd hi am ei bod yn gogoneddu hunanleiddiaid, ac oherwydd ei bod yn anfoesol, yn enwedig y darn am y butain. 'Ni thrig dim da yn ei Ddinas ... Cynwysa, ym mhob caniad, olud o iaith a meddwl; ond iaith ydyw wedi ei throi'n drythyllwch, a meddwl wedi ei ddarostwng i oferedd, 'meddai Eifion Wyn. Mewn gwirionedd, 'Y Ddinas' yw'r gerdd eisteddfodol fodern gyntaf. ac mae'n arwyddocaol mai yn ystod blynyddoedd y Rhyfel Mawr y lluniwyd y gerdd fodernaidd hon. Er mai yn y blynyddoedd 19091915 y cyrhaeddodd y Mudiad Rhamantaidd ei anterth, gyda 'Gwlad y Bryniau', 'Yr Haf' ac 'Eryri', yr oedd y llanw wedi troi yn erbyn Rhamantiaeth erbyn hynny, gan fod darllenwyr wedi syrffedu ar yr awdlau a'r pryddestau hyn a oedd wedi eu lleoli mewn rhyw orffennol chwedlonol, ac wedi syrffedu hefyd ar eirfa'r Rhamantwyr. Moderniaeth oedd y mudiad a ddaeth i ddisodli Rhamantiaeth, er mai Realaeth, realism, oedd term y beirdd am y canu newydd hwn a oedd yn wynebu bywyd fel ag yr oedd yn ei holl noethni, ansicrwydd a hagrwch, gan fyw yn y presennol yn hytrach na ffoi i'r gorffennol. Cafwyd cnwd o gerddi modern/ realaidd ar 聽么l 1915 ac ar 么l y Rhyfel Mawr: cerddi rhyfel Cynan, 'Atgof', a cherddi Caradog Prichard. Ym 1915 yr oedd un traddodiad ar ei wely angau a'r llall yn ei grud, a gwaith un bardd yn dangos hynny yn glir.

Y Fedal Ryddiaith                    Sefydlwyd ym 1937
 
Tlws y Ddrama                        
Cystadleuaeth gynhlaiwyd rhwng 1961 a 1993
 
Tlws y Cerddor                       
Sefydlwyd ym 1990 
 
Llyfrau perthnasol

Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd, Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000.



About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy