主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
1938 - 1955

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Canrif O Brifwyl
1900 - 1913
1914 - 1937
1938 - 1955
1956 - 1966
1967 - 1979
1980 - 1999
Radio a Teledu
Ble ar y We

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Lleoliad yr Eisteddfod             Aberpennar

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol

  • Goering yn cyflawni hunanladdiad, crogi deg o Nats卯aid yn Nuremburg.
  • Dogni ar fara.
  • Bananas ar werth am y tro cyntaf ers 1939.
  • Y Weinyddiaeth Fwyd yn cyflwyno res锚it pastai wiwer.
  • Cyhoeddi'r Papur Gwyn blynyddol ar Faterion Cymreig am y tro cyntaf.
  • Ffurfio Cwmni Opera Cymru, Cavalleira Rusticana ac I Pagliacci oedd y cynyrchiadau cyntaf.
  • Cychwyn y 'Third Programme', Radio Three.
  • Marw H. G. Wells.

Archdderwydd               Crwys

Y Gadair

Testun. Awdl: 'Codi Angor' neu 'Awdl Foliant i'r Amaethwr'
Enillydd: Geraint Bowen ('Awdl Foliant i'r Amaethwr')
Beirniaid: Thomas Parry, Gwyndaf, Gwenallt
Cerddi eraill: Er bod Tom Parry-Jones, enillydd y flwyddyn flaenorol, yn y gystadleuaeth, Rolant o F么n, Dewi Emrys a Geraint Bowen oedd y tri gorau

Blwyddyn

Radio a Teledu

 
 

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd: 

Er bod y byd amaeth yn cychwyn ar gyfnod o newid mawr, gyda'r defnydd a wneid o beriannau wedi lledaenu er mwyn lleihau'r angen i fewnforio bwyd yn ystod y Rhyfel, gan arwain yn anochel at leihau'r nifer o weision a weithiai ar ffermydd a pheri i'r Llywodraeth ddarparu prisiau sefydlog am gynnyrch fferm, cyflwyno portread eithaf rhamantaidd o fyd yr amaethwr a wnaeth Geraint Bowen. Fe'i lluniwyd mewn cyfnod a oedd ar y ffin rhwng amaethu traddodiadol ac amaethu yn y dull newydd. Mewn gwirionedd, lluniodd awdl gywrain ryfeddol, un o'r awdlau buddugol cywreiniaf erioed, ac awdl glasurol a oedd yn efelychu patrymau Beirdd yr Uchelwyr. Arweiniodd Dewi Emrys ymgyrch filain yn erbyn yr awdl yn ei golofn yn Y Cymro , y Babell Awen, ar 么l yr Eisteddfod, gan y tybiai iddo gael cam mawr yng nghystadleuaeth yr awdl.

Y Goron

Testun: Pryddest: 'Yr Arloeswr' neu 'Preiddiau Annwfn'
Enillydd: Rhydwen Williams ('Yr Arloeswr')
Beirniaid: T. J. Morgan, J. M. Edwards, William Morris
Cerddi eraill: Dafydd Jones, Ffair Rhos, Prifardd coronog 1966, oedd yr ail, a Tom Parry-Jones oedd y trydydd. Cafodd T. J. Morgan anhawster mawr i ddewis rhwng Dafydd Jones a Rhydwen Williams.

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd:

Y thema yw'r modd y creodd yr Ysbryd Dwyfol fywyd a bydysawd, hynny yw, Duw fel arloeswr, a'r Ysbryd wedyn yn creu Crist. Mae'r arddull yn fwriadol 'fodernaidd', ac yn chwithig ac yn gwirclyd iawn ar brydiau. Nid yw'n rhoi llawer o foddhad i ddarllenydd, a gwaith llafurus yw ei darllen. Dywedodd T. J. Morgan fod y bryddest 'yn brin o barchedigaeth grefyddol', a dywedodd hefyd fod 'hoffter o'r grotesg yn rhan hanfodol o idiom farddonol yr oes hon'. Dyma un o'r pryddestau cyntaf yn yr arddull 'o chwith' a ddaeth yn boblogaidd yn y chwedegau.

Y Fedal Ryddiaith

Penderfynwyd ei dyfarnu ym 1948 am waith rhyddiaith gorau'r blynyddoedd 1945 a 1947
 
Tlws y Ddrama

Drama Hir
Enillydd: Neb yn deilwng

 
Tlws y Cerddor                       
Sefydlwyd ym 1990 
 
Llyfrau perthnasol

Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd, Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000.



About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy