主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
1938 - 1955

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Canrif O Brifwyl
1900 - 1913
1914 - 1937
1938 - 1955
1956 - 1966
1967 - 1979
1980 - 1999
Radio a Teledu
Ble ar y We

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Lleoliad yr Eisteddfod             Bae Colwyn

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol

  • Gwladoli 1500 o lofeydd.
  • Gaeaf caled o luwchfeydd a rhew am saith wythnos yn gwaethygu'r sefyllfa ynghylch prinder tanwydd.
  • Y Llywodraeth yn gorfod cyflwyno mesurau llym.
  • Rhagor o ddogni, dim ond gwerth swllt (5c) o gig ffres i bob person yr wythnos.
  • India a Pacistan yn eu llywodraethu eu hunain wedi 163 blynedd o reolaeth Brydeinig.
  • Blwyddyn gyntaf Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.
  • Yr ysgol Gymraeg gyntaf dan awdurdod lleol yn agor yn Llanelli.
  • Cyhuddo 10 o ysgrifenwyr a chynhyrchwyr Hollywood o fod yn gomiwnyddion, a'u hesgymuno o'r herwydd.
  • Y Dywysoges Elizabeth a Dug Caeredin yn priodi.

Archdderwydd               Wil Ifan

Y Gadair

Testun. Awdl: 'Maelgwn Gwynedd' neu 'Y Porthladdoedd Prydferth'
Enillydd: John Eilian
Beirniaid: Cynan, William Morris, J. Lloyd Jones (ni fedrodd J. Lloyd Jones gyflawni ei waith fel beirniad oherwydd gwaeledd).
Cerddi eraill: Y pedwar bardd gorau yn y gystadleuaeth oedd E. Llwyd Williams, Dewi Emrys, Rolant o F么n a J. T. Jones (John Eilian).

Blwyddyn

Radio a Teledu

 
 

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd: 

Awdl ar fesur 'Madog' T. Gwynn Jones, ac awdl a oedd hefyd yn drwm dan ddylanwad Gwynn Jones yn gyffredinol. Er ei bod wedi ei lleoli yng nghyfnod Maelgwn Gwynedd, yn y chweched ganrif, 'roedd iddi hi neges amserol iawn, sef dyfodol ysbrydol a diwylliannol Cymru ar 么l blynyddoedd barbaraidd yr Ail Ryfel Byd. Mae hi'n pregethu cyfrifoldeb a gwir ymroddgarwch o safbwynt amddiffyn y Dreftadaeth Gymreig yn un peth, ac mae hi hefyd yn cyffwrdd ag un o ddaleuon mawr cyfnod yr Ail Ryfel Byd, sef y ddadl Militariaeth v Heddychaeth.

Y Goron

Testun. Pryddest: 'Jonah' neu 'Glyn y Groes'
Enillydd: G. J. Roberts
Beirniaid: Wil Ifan, Thomas Parry, Gwilym R. Jones
Cerddi eraill: Un o'r pryddestwyr aflwyddiannus oedd Rhydwen Williams, Prifardd coronog y flwyddyn flaenorol.

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd:

Pryddest gyffredin iawn.

Y Fedal Ryddiaith

Penderfynwyd ei dyfarnu ym 1948 am waith rhyddiaith gorau'r blynyddoedd 1945 a 1947
 
Tlws y Ddrama

Drama Hir
Enillydd:
Plas Madog
 
Tlws y Cerddor                       
Sefydlwyd ym 1990 
 
Llyfrau perthnasol

Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd, Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000.



About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy