主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

W.B.Yeats 1907, Augustus John. Olew ar gynfas. 漏Hawlfraint trwy garedigrwydd yst芒d yr Artist - www.bridgeman.co.uk Arddangosfa o waith Augustus a Gwen John
Augustus a Gwen John, y brawd a chwaer o Ddinbych-y-Pysgod, Sir Benfro, oedd dau o arlunwyr mwyaf dawnus a diddorol dechrau'r ugeinfed ganrif.
  • Ewch i edrych ar ddetholiad o luniau'r ddau arlunydd sydd i'w gweld yn yr arddangosfa ar ein safle ni yma.

    Dau wahanol iawn mewn anian, ef yn danbaid, aflonydd, bohemaidd; hithau, y ferch, encilgar, dduwiol, ond yn pefrio fel ffynnon.

    Am y tro cyntaf yng Nghymru gellir ymweld ag arddangosfa o waith y ddau, wedi ei gosod ochr yn ochr fel y medrwn gymharu a chyferbynnu'r ddau o gychwyn eu gyrfaoedd hyd marwolaeth Gwen ym 1939. Agorwyd yr arddangosfa, sy'n cynnwys 130 o ddarluniau a sgetsys, yn Yr Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol yng Nghaerdydd ar Chwefror 12 a bydd yno tan Mai 15, 2005.

    Trefnwyd yr arddangosfa ar y cyd 芒'r Tate Britain, lle y bu hyd ddechrau Ionawr, ac y mae'n cynnwys darluniau ar fenthyg o Ganolfan Celf Brydeinig Yale, y Metropolitan Museum of Art yn Efrog Newydd a nifer o ddarluniau o gasgliadau cyhoeddus a phreifat ym Mhrydain a'r Unol Daleithau.

    Mae llinyn hunangofiannol yn rhedeg drwy'r arddangosfa - weithiau mae gosod artist yn ei gyfnod yn gymorth i'w ddeall neu i'w deall. Mae hynny'n nodwedd bwysig o'r arddangosfa hon.

    Mewn oed, yr oedd y ddau o fewn deunaw mis i'w gilydd, Gwen yn cael ei geni ym mis Mehefin, 1876, ac Augustus yn Ionawr 1878. Pan aeth Augustus i Ysgol Gelf Celfyddydau Cain y Slade, a ystyrrid yn goleg celf mwyaf blaengar y cyfnod, ym 1894 buan y cyfnabyddwyd ef yn un o'i s锚r.

    Er ei bod hi'n h欧n nag ef, ar anogaeth ei brawd, aeth Gwen yno ar ei 么l. Cyn pen dim yr oedd y ddau yn ganolbwynt criw o arlunwyr ifanc hyderus ac addawol.

    Mae'r arddangosfa yn tanlinellu tebygrwydd eu gweithiau cynnar yn yr 1890au, sef portreadau eu cyfnod yn y Slade. Mae eu harddulliau yn gwahanu wedyn i fyny i'r 1930au pan roddodd Gwen y gorau i arlunio, fwy neu lai oherwydd bod ei golwg yn pallu.

    Yr oedd cyfanswm gwaith y ddau yn wahanol iawn - Augustus yn gynhyrchiol iawn, Gwen yn llawer llai cynhyrchiol. Pan aeth Gwen i Baris ym 1903 bu'n arlunio ac ennill arian fel model arlunwyr, yn arbennig i Auguste Rodin, ei chariad wedi hynny.

    Awgrymir cyfnod o unigrwydd, cymharol ddiffrwyth, portreadau o ferched unigol yn eu stafelloedd, yr un merched yn cael eu darlunio drosodd a throsodd. Darluniodd ei stafell ei hun, bob amser gydag awgrym o bresenoldeb anweledig, hi ei hunan.

    Yr oedd Augustus yn ellblyg, ei ddiddordebau'n eang. Gwelir ei hoffter o sipsiwn a'u diwylliant. Dysgodd iaith y Romani, y Romani Cymreig, ymysg sipsiwn y gogledd. Paentiodd ei blant fel sipsiwn, a'r un modd ei gariad Dorelia McNeil a briododd wedi marw ei wraig gyntaf, Ida yn 1907, mewn gwisg sipsi.

    Yr oedd darluniau Augustus yn lliwgar a llachar. Pan nad oedd ond 25 oed ef oedd arlunydd enwocaf ei ddydd, ei dawn yn cael ei gymharu 芒 Michaelangelo. Mor belled yn 么l 芒 1908 yr oedd Virginia Woolf yn son am y cyfnod fel "cyfnod Augustus John". Roedd hefyd yn bortreadwr poblogaidd o enwogion y cyfnod ond yn colli cysylltiad ag arlunio modern. Yr oedd yn enwog 芒 galw mawr am ei wasanaeth.

    Erbyn y 30au yr oedd gwaith Gwen yn dilyn llwybrau cwbl wahanol. Yr oedd yn arbrofi gyda phortreadau ar ffurf blotiau, portreadau haniaethol bron.

    Yna, yn ei chyfnod olaf, ceir darluniau sy'n ddiddorol am eu techneg a'i harbrofi. Yr oedd yn gwneud ei chynfasau eu hun ac yn cymysgu sialc gyda'r olew a chreu portreadau golau ac ysgafn eu harlliw.

    Codi mewn bri fu hanes Gwen John ddiwedd ei hoes ac ar 么l hynny a dros y deng mlynedd ar hugain diwethaf cynhyddodd ei henwogrwydd. Ymhell cyn ei farw ym 1961 yr oedd bri Augustus ar i lawr. Awgrymodd rhywun iddo fyw yn rhy hir. Wn i ddim a oedd hynny'n deg, ond fe ddwedodd Augustus ei hun wrth ail-edrych ar rai o ddarluniau Gwen wedi ei marw, "un dydd, bydd pobl yn cofio amdanaf fel brawd Gwen John". Ddaeth i hyn ddim i hynny. Ddim eto.

    Gwyn Griffiths

  • Ewch i edrych ar ddetholiad o luniau'r ddau arlunydd sydd i'w gweld yn yr arddangosfa ar ein safle ni yma.

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

    Sylw:




    Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    主播大秀 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy