Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Final'r gyngerdd - nifer o'r artistiaid ar y llwyfan Cyngerdd Apêl Tsunami
Cynhaliwyd Cyngerdd Tsunami Relief Cymru yn y Gyfnewidfa Lo, Sgwâr Mount Stewart, ym mae Caerdydd, nos Fercher, Ionawr 26, 2005. Roedd yn noson arbennig gyda llu o brif asrtistiaid Cymru yn troi allan i berfformio.
Cliciwch yma i edrych ar luniau o'r noson.

Y gantores a'r actores Gillian Elisa oedd trefnydd y sioe fawreddog, ac ymhlith yr artistiaid roedd, Caryl Parry Jones, Geraint Griffiths, Delwyn Siôn, Heather Jones, Siân James, Mynediad am Ddim, Jo's Heatwaves, Huw Chiswell, Margaret Williams, John Quirk a'i Fand, Aelodau o gast Pobol y Cwm gan gynnwys Huw Euron ac Arwyn Davies, Tara Bethan, Shân Cothi a Peter Karrie, Sioned Mair, Gwenda Owen a Geinor Hâf, Cwmni Theatr Ieuenctid Menter Cwm Gwendraeth, Côr CF1 (Arweinydd: Eilir Owen Griffiths), Côrdydd (Arweinydd Sioned James) a Karen Elli.

Rhai o arweinwyr y noson o'r llwyfan oedd Hywel Gwynfryn, Siân Thomas, Sue Roderick, Huw Ceredig, Eirlys Parri ac Amanda Prothero -Thomas .

Darlledwyd y gyngerdd yn fyw ar Radio Cymru gyda Dafydd Du yn cyflwyno rhwng perfformiadau'r artistiaid. Cliciwch yma i wrnado ar y gyngerdd eto ar y wefan hon.

Roedd y Gyfnewidfa Lo yn orlawn gyda chynulleidfa wrth eu bodd gyda'r cyngerdd mawreddog.

Cliciwch yma i edrych ar luniau o'r noson.

Oeddech chi yno? Rhowch eich barn am y noson isod!


Cyfrannwch

Adam Jones Dyffryn Aman
Mi oedd y sioe y gret, roedd yna awyrgylch hapus a pobun yn mwynhau, ond rwyn credu dylse s4c rhoid clips ar y rhyngrwyd iddynt cael gwylio'r sioe eto. diolch yn fawr a rwyn mwynhau'r sioe, mae'n bendigedig

Lleucu Edwards o Gaerfyrddin
Roeddwn i'n perfformio gyda Theatr Ieuenctid Menter Cwm Gwendraeth. Roeddwn wrth fy modd yn cyfarfod actorion Pobl y Cwm am fy mod yn ffan mawr!! Mwynheuais yr artistiaid i gyd ac roedd yn brofiad bythgofiadwy. Lleucu - 12 oed

Gillian Elisa o Gaerdydd
Noson arbennig iawn. Yr awyrgylch yn gynnes ac yn hwyliog. Yr artistiaid i gyd yn mynd amdani...Perfformwyr Gore Cymru yn dangos eu talent am ddim. Roedd y noson werth pob ceiniog.Un o'r ffyrdd gore i godi arian....Mae'r arian yn dal i ddod i fewn. Os oes rhai ohonoch chi wedi anghofio anfon arian .. a wnewch chi'n siwr eich bod yn 'sgrifennu siec... d/o Tsunami Relief a'i bostio i Menter Caerdydd, cyn gynted ag y bo modd. Yna byddwn yn gallu datgelu'r cyfanswm. Rydym wedi codi dros £6500 yn barod. Diolch o galon

Rhiannon Rees Caerdydd
Noson gofiadwy. Diolch Gill Am drefnu.

W. Jones o Gaerdydd
Noson wych! Awyrgylch ffantasig a phob clod i'r artistiaid am berfformio mor dda ac i'r trefnwyr am y gwaith caled. Gobeithio codwyd llawer iawn o arian at yr apêl hefyd.

Aled Jones o Rydaman
Noson wych trwy gyfrwng Radio Cymru. Piti imi golli'r dechrau! Rwy'n deall y byddai angen llawer mwy o drefnu technegol, ond collodd S4C gyfle am raglen deledu o'r safon uchaf.


Rhowch eich barn am y noson yma.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý