Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Lluniau Nicaragua
(Lluniau o'r daith ar waelod y dudalen hon.)

Mae'r Nawfed Dirprwyaeth o Gymru wedi dychwelyd o Nicaragua ar ôl ymweliad llawn gobaith.

Treuliodd y Grŵp bythefnos yn y wlad yng Nghanolbarth America, yn Chwefror a Mawrth 2007, yn ymweld â phrosiectau cymunedol, ffermwyr masnach deg, undebau llafur, a gwleidyddion o'r llywodraeth newydd.

"Roedd y prosiect Action Aid yn un o'r rhai mwyaf llwyddiannus a welsom ar ein holl daith i Nicaragua," meddai Ben Gregory, Ysgrifennydd yr Ymgyrch. "Roeddent wedi gweithio gyda'r gymuned a'r Cyngor lleol i sefydlu system dŵr glân, cynllun credyd-micro, busnesau bach, a helpu i gefnogi ffermwyr lleol."

Sefydlodd y prosiect Radio Kukra Hill hefyd, a chafodd y gwirfoddolwyr o Kukra weithdy ar gynhyrchu rhaglenni gan Huw Meredydd Roberts, un o'r criw sy'n gynhyrchydd gyda rhaglen C2 ar Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru. Mae'r rhaglen gan wirfoddolwyr Radio Kukra Hill yn cynnwys cyfweliadau gan ddwy arall o'r ddirprwyaeth, mam a'i merch Carol a Branwen Ellis o Flaenau Ffestiniog. Darlledir y rhaglen ar Radio Bro Blaenau ar Radio Cymru (mae Radio Kukra Hill a Radio Bro Blaenau yn rhannu'r un donfedd - 92.5 FM!).

Un arall o'r uchafbwyntiau oedd cwrdd â'r mudiad sydd wedi saernio'r cynllun newydd i atal pobl rhag llwgu yn Nicaragua.

"Mae'r cynllun yn syml iawn," meddai Ben Gregory, Ysgrifennydd yr Ymgyrch. "Bydd 75,000 o deuluoedd yn derbyn buwch a llo, a moch, a chael hadau, credyd a chyngor technegol i dyfu eu bwyd eu hunan, i fwyta a gwerthu. Bydd pob teulu yn cael 'bio-digester' i greu nwy i goginio a chreu gwrtaith, a bydd y llywodraeth yn sefydlu rhwydwaith o farchnadau lleol i dderbyn y cynnyrch, ag agor banciau credyd a swyddfeydd cyngor lleol."

Mae CIPRES wedi peilotio'r cynllun gyda 3,000 o deuluoedd, a bydd y cynllun cenedlaethol yn cyrraedd 500,000 o bobl o fewn y pum mlynedd nesaf. "Bydd y cynllun yn gam mawr tuag at gyrraedd y Gol Datblygu'r Mileniwm cyntaf, sef hanneru tlodi a dileu llwgu," meddai Ben.


Y ddirprwyaeth lawn yn Matagalpa, y brifddinas, ar Ddydd Gwyl Dewi
Y ddirprwyaeth lawn yn Matagalpa, y brifddinas, ar Ddydd Gwyl Dewi next page
1Ìý 2Ìý 3Ìý 4Ìý 5Ìý 6Ìý 7Ìý 8Ìý 9Ìý 10Ìý
11Ìý 12Ìý 13Ìý

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý