主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

主播大秀 VOCAB : OFF / I FFWRDD

Turn on / Troi ymlaen

Language Help / Cymorth Iaith


主播大秀 主播大秀page
Hafan Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Straeon

Archdderwydd yn ceryddu

Gorffennaf 2007

Cicio p锚l-droedwyr mud fel postyn

Cafodd ei arwyr ar y maes p锚l-droed a rhai o'i gyfeillion yn yr Orsedd gic gan yr Archdderwydd ddydd Sadwrn.

Dangosodd Selwyn Iolen gerdyn coch i chwaraewyr p锚l-droed Cymru am "sefyll yn fud fel pyst" pan fo'r anthem genedlaethol yn cael ei chanu cyn gemau rhyngwladol.

A beirniadodd yr aelodau hynny o'r Orsedd a Chyngor yr Eisteddfod sydd ddim yn cefnogi y 106 o eisteddfodau bychain a gynhelir ar hyd a lled Cymru.

Dysgu'r anthem

"Dau brif ddiddordeb sy gen i - Steddfota a ph锚l-droed," meddai yn ei anerchiad a fyddai, oni bai am y tywydd, wedi cael ei draddodi o'r Maen Llog yn ystod seremoni cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2008.

"Onid ydi o'n hen bryd i'r bechgyn a anrhydeddir drwy gael y fraint o wisgo'r crys coch ddysgu geiriau ein hanthem genedlaethol ni a'i chanu gyda balchder ar ddechrau pob g锚m," meddai.

"Chware teg i fechgyn y b锚l hirgron, mae nifer go dda ohonyn nhw yn gwneud ymdrech ond mae bechgyn y b锚l gron yn sefyll yno mor fud a physt g么l ac mae'n hen bryd i rywun ddeud wrthyn nhw am ymfalch茂o yn y ffaith eu bad nhw yn cael y fraint o gynrychioli ein gwlad ni ac fe ddylen nhw ddangos hynny," meddai.

Eisteddfodau bach

Yn gynharach yn ei araith yr oedd wedi ceryddu aelodau blaenllaw o'r sefydliad eisteddfodol am eu diffyg brwdfrydedd hwythau yngl欧n ag eisteddfodau bychain.

"Gaf i ofyn yn garedig y prynhawn 'ma. faint ohonoch chi aelodau'r Orsedd ac aelodau o Gyngor yr Eisteddfod ac aelodau o Lys yr Eisteddfod; faint ohonoch chi fu mewn eisteddfod leol o fewn cyrraedd i'ch cartrefi yn ystod y flwyddyn ddiwethaf 'ma?" holodd.

"Mi wn i fod 'na ffyddloniaid yn eich mysg chi hefyd ond prin iawn ydyn nhw," meddai



About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy