主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

主播大秀 VOCAB : OFF / I FFWRDD

Turn on / Troi ymlaen

Language Help / Cymorth Iaith


主播大秀 主播大秀page
Hafan Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Straeon

Mynd ag ymennydd mawr i'r Cynulliad

11 Awst 2007

Guto Roberts

Tynged yr ymennydd mwyaf yng Nghymru

Yn dilyn ei lwyddiant ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol bydd yr Ymennydd Mwyaf yng Nghymru yn cael ei symud i'r Cynulliad Cenedlaethol yng Nghaerdydd.

"Ac, nid y chi fydd y cyntaf i ddweud bod digon o'i angen o yna," meddai Gruff Roberts pensaer yr ymennydd ac Ymgynghorydd Gwyddonol yr Eisteddfod Genedlaethol am y chwe blynedd diwethaf.

Yr ymennydd oedd canolbwynt arddangosfa Mr Roberts, sy'n ymddeol wedi'r Eisteddfod hon, yn y Babell Wyddoniaeth a Thechnoleg ar y maes.

Bydd yn cael ei symud i adeilad Y Senedd yng Nghaerdydd i dynnu sylw at sefydlu Sefydliad Gwybyddiaeth a Neuro Wyddorau Cymru sy'n gyfuniad o adrannau seicoleg prifysgolion Caerdydd, Bangor ac Abertawe a sefydliadau eraill.

"Bydd yn cael ei lansio yn Y Senedd ar Dachwedd 28 ac mi fydd yr ymennydd yn cael ei ddangos yno ar gyfer hynny. Yna bydd yn cael ei symud i Ysgol Seicoleg Bangor," meddai Mr Roberts.

Yn ystod cyfarfod ar y maes ddydd Gwener cyflwynwyd llyfrau i Mr Roberts gan Brif Weithredwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts, yn arwydd o werthfawrogiad yr Eisteddfod i'w gyfraniad fel ymgynghorydd gwyddonol.

"Yn ystod ei gyfnod mae Guto wedi llwyddo i godi safon y babell Wyddoniaeth gydag arddangosfeydd trawiadol - o osod y planedau ar y to un flwyddyn i'r br锚n mwyaf yng Nghymru eleni," meddai.

Diolchodd Guto Roberts yntau am gefnogaeth yr Eisteddfod i wyddoniaeth.



About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy