主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

主播大秀 VOCAB : OFF / I FFWRDD

Turn on / Troi ymlaen

Language Help / Cymorth Iaith


主播大秀 主播大秀page
Hafan Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Straeon

Medal i 'Seren'

Gorffennaf 2007

Anrhydedd arall i Seren yr Eisteddfodau Bach

Gwraig 86 oed sydd eisoes wedi ei anrhydeddu yn "Seren yr Eisteddfodau Bach" yw enillydd Medal Syr T H Parry-Williams 2007.

Bydd Elsie May Nicholas o'r Hendy ger Pontarddulais yn cael ei anrhydeddu yn ystod wythnos yr Eisteddfod yn Yr Wyddgrug am ei gwaith diwylliannol gwirfoddol dros nifer o flynyddoedd.

Cyhoeddwyd ei henw mewn cyfarfod o Gyngor yr Eisteddfod Genedlaethol yn Aberystwyth, Ebrill 14, 2007.

Cyflwynwyd iddi eisoes, yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd 2004, dlws Seren yr Eisteddfodau Bach yn dilyn ei brwdfrydedd anhygoel yn eu hyrwyddo ac yn hyfforddi ar eu cyfer.

Y mae yn fam i Garry a Delyth Mai Nicholas sydd hefyd yn adnabyddus am eu gweithgarwch diwylliannol Cymraeg, yn enwedig ym myd y ddrama.

Ganwyd Elsie ym Mhontarddulais yn un o dri o blant i Edgar a Margaret Mainwaring a dywedodd mai ei mam a fu'n ei hannog fel adroddwraig gan sicrhau gwersi iddi gan Madam Ceinwen Smith Owen, hyfforddwraig adnabyddus yn ei dydd.

Mynychodd Elsie Ysgol Gynradd Pontarddulais ac ysgol Breifat Bynea, Llanelli cyn mynd i goleg i'w hyfforddi ar gyfer gwaith swyddfa ac fe'i penodwyd yn ysgrifenyddes yn swyddfa Richard Thomas a Baldwin. Bu hefyd yn gweithio mewn swyddfa yswiriant a swyddfa deithio.

Bu hi a'i g诺r, Glyn Nicholas, yn briod am 58 mlynedd gyda'r ddau yn gweithio'n ddyfal i hyrwyddo'r Pethe yn eu hardal.

Yr oedd gan Elsie ei hun brofiad helaeth o gystadlu mewn eisteddfodau bach a mawr gan ennill pum gwobr gyntaf yn yr Urdd a thair gwobr gyntaf a phump ail wobr yn yr Eisteddfod Genedlaethol gan ei gosod mewn lle cryf i hyfforddi llu o blant am gyfnod o dros drigain mlynedd.

Bu hefyd yn cynorthwyo ei diweddar 诺r yn warden Aelwyd yr Urdd yn yr Hendy am dros 30 mlynedd.

Am ddeugain mlynedd bu Elsie'n ysgrifennydd Rhanbarth Myrddin yr Urdd ac yn aelod o bwyllgor canolog yr Urdd am ugain mlynedd.

Ac mae ei gwaith a'i hymroddiad yn parhau a hithau'n dysgu plant Adran Ysgol yr Hendy ar gyfer eisteddfodau'r Urdd.

Yn 1970 ffurfiodd barti llefaru plant Sir Gaerfyrddin a Sir Aberteifi i gystadlu mewn gwahanol eisteddfodau a bu'n teithio i wahanol ganolfannau yn y ddwy sir yn hyfforddi'r parti ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Rhydaman lle'r enillwyd y wobr gyntaf.

Ffurfiodd hefyd bart茂on llefaru yn cynnwys mamau a'u plant gan gystadlu'n gyson yn Eisteddfod Pantyfedwen, Yr 糯yl Gerdd Dant a'r Eisteddfod Genedlaethol.

Fel aelod pybyr o Ferched y Wawr Pontarddulais bu'n hyfforddi part茂on merched hefyd ac yn llywydd y gangen deirgwaith.

Bu hefyd yn llywydd Eglwysi Rhyddion y cylch dair gwaith a hi a'i theulu sy'n cynnal y gwasanaethau yn yr Hen Gapel, Hendy.

Yn ferch ifanc yr oedd yn aelod o Gwmni Drama Dan Mathews a bu'n aelod o Gwmni Drama Abertawe am flynyddoedd.

Ers pymtheng mlynedd hi yw ysgrifennydd Eisteddfod yr Hendy a bu'n allweddol i gychwyn Noson Lawen Pontarddulais, Hendy a'r Cylch i ddathlu G诺yl Ddewi yn yr ardal gyda nifer o elusennau yn elwa o'r digwyddiad.

Ar ben hyn oll mae ganddi amser i i fod yn aelod o G么r Pensiynwyr Cantorion Pontarddulais!



About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy