主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

主播大秀 VOCAB : OFF / I FFWRDD

Turn on / Troi ymlaen

Language Help / Cymorth Iaith


主播大秀 主播大秀page
Hafan Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Straeon

Smentio iaith a diwylliant

6 Awst 2007

Mike Eberlin

Cwmni sment yn noddi diwrnod

Cafodd pennaeth y cwmni sy'n noddi'r eisteddfod heddiw ei atgoffa o ddeng mlynedd a dreuliodd yn Seland Newydd yn ystod ei ymweliad 芒 maes Yr Wyddgrug.

Ac yntau heb erioed fod mewn eisteddfod o'r blaen dywedodd Mike Eberlin, Cyfarwyddwr Rheoli Castle Cement, ei fod yn gweld cryn debygrwydd rhwng yr hyn a welai yng Nghymru 芒'r hyn a welodd o'r diwylliant Maori yn Seland Newydd.

Yn fwyaf arbennig yr ymlyniad at iaith a diwylliant cynhennid.

"Y mae ymrwymiad y Maori i'w diwylliant ac i'w hiaith yn debyg iawn i ymrwymiad y Cymry," meddai Mr Eberlin a fu'n gweithio yn y diwydian sment yn Seland Newydd.

Cyfeiriodd hefyd at yr hawliau y mae'r Maoriaid wedi eu hennill gan gynnwys hawliau addysg.

"Ac wrth gwrs, maen nhw'n hoff iawn o ganu ac o rygbi," meddai.

Ychwanegodd fod clywed yr holl Gymraeg ar faes yr Eisteddfod yn ystod ei ymweliad cyntaf yn ei atgoffa o fod ymhlith gweithwyr Maori yn cymdeithasu yn eu iaith eu hunain.

Yno, fel ag yng Nghymru, meddai, mae iaith yn rhan hanfodol o'r diwylliant.

"Mae iaith yn gwbl allweddol - mae'n rhywbeth sy'n clymu gwlad wrth ei gilydd, ac rwyf wrth fy modd clywed y Gymraeg o'm cwmpas heddiw," meddai.

Bu Castle Cement yn noddi'r 诺yl ers deng mlynedd ac mae ganddo waith cynhyrchu sment yn Paedswood ger Yr Wyddgrug.



About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy