Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Gwefannau Lleol

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Dringwr Yr Awyr Agored
Gyda'n milltiroedd o arfordir prydferth, ein mynyddoedd mawreddog gyda'u hafonnydd, dyffrynnoedd a'u llynnoedd, lle gwell i fynd allan i ystwytho'r cyhyrau a mwynhau'r awyr iach. Cofiwch ddweud wrthym am unryw wefannau eraill.

http://www.activity.visitwales.com
Cangen o Fwrdd Croeso Cymru sy'n hybu beicio, pysgota, garddio, cerdded a golff. Mae'n rhoi manylion llefydd aros, tywyswyr ar gyfer teithiau, clybiau a sut i logi offer. Mae yma hefyd fapiau a chysylltiadau ar gyfer ymwelwyr, ond fe fyddai hyd yn oed yn well pe bai'n cynnwys gwybodaeth fanwl am bob gweithgaredd.


http://www.pyb.co.uk/
Mae'n debyg mai Plas y Brenin ydy canolfan gweithgareddau awyr agored enwocaf Cymru a hon ydy ein Canolfan Fynydda Genedlaethol. Mae ganddi enw da am ei chyfleusterau rhagorol, sy'n cynnwys llethr sgïo sych, waliau dringo a phwll canŵio yn ogystal a'r adnoddau naturiol sydd ar garreg y drws yn Eryri. Ceir holl fanylion y cyrsiau cerdded, dringo, mynydda, kayak, canŵio, sgïo, cymorth cyntaf, adeiladu timau a gweithgareddau amrywiol i bobl o bob oed a gallu ar y wefan.


http://www.thebmc.co.uk/
Dyma wefan y corff Prydeinig ar gyfer dringwyr a mynyddwyr ac mae'n cynnwys popeth o ddringo waliau a chystadlaethau i'r newyddion diweddaraf o bedwar ban byd. Mae adran i ddringwyr ifanc hefyd. Mae'n cynnwys manylion clybiau a llefydd i aros, cronfa ddata o greigiau dringo, adroddiadau am offer a rhestr o ddigwyddiadau a chyhoeddiadau. Digon i ddiddori'r dringwyr mwyaf profiadol yn eich mysg.


http://www.ukclimbing.com/
Adnodd gwych i ddringwyr profiadol lle gallwch chi chwilio am greigiau a waliau dringo, dewis pwnc trafod ar y negesfwrdd, a gweld rhestr o lyfrau, siopau, offer a chanolfannau, yn ogystal â llefydd i werthu neu gyfnewid offer neu drefnu cyfarfodydd neu rannu lifft. Gyda hyn i gyd yn digwydd ar y safle, prin fod rheswm i fynd allan i'r byd mawr!


http://members.lycos.co.uk/Carneddau/
Gwefan wedi'i chreu gan athro o'r Rhyl, Keith Jones ydy hon. Mae'n rhannu ei gariad at fynyddoedd y Carneddau yng ngogledd Eryri. Mae yma lwybrau manwl ar gyfer cerddwyr a lluniau a chysylltiadau defnyddiol.


http://myweb.tiscali.co.uk/celynog/
Os oes ganddoch chi ddiddordeb mewn henebion ac mewn cerdded, cymerwch olwg ar y wefan ddifyr yma sy'n disgrifio llwybrau sy'n ymweld â chyfoeth o safleoedd megalithig drwy Brydain. Mae digonedd o lefydd yng ngogledd orllewin Cymru i ymweld â nhw a cheir lluniau o gromlechi, siambrau claddu a chylchoedd cerrig ar y wefan.


http://www.ogwen-rescue.org.uk/
Tra'n gobeithio na fydd gennych chi fyth reswm i gysylltu â nhw, mae yna lawer iawn o wybodaeth ddiddorol am y mudiad gwirfoddol allweddol yma ar y safle. Ac, os ydych chi'n ddigon dewr, fe allwch chi ymuno â'r tîm. Mae yma fapiau a lluniau o'r ardal a chysylltiad â'r grŵp sy'n helpu'r tîm drwy godi arian.


http://www.llanberismountainrescue.co.uk
Safle deniadol iawn a chwbl ddwyiethiog sydd wedi ei gysodi'n dda ac sy'n cynnwys cyngor gwych am ddiogelwch ar y mynydd. Mae hefyd yn cynnwys golygfa o hofrennydd achub y Llu Awyr na fyddech chi fyth am ei weld, ac sy'n gwneud ichi feddwl ddwywaith am fentro i'r mynyddoedd. Ceir manylion rhai o'r damweiniau mae'r tîm wedi gorfod delio â nhw hefyd.


http://www.sustrans.org.uk/
Mae gwefan yr elusen ar gyfer cludiant cynaladwy yn cynnwys mapiau a manylion llwybrau beicio eraill drwy Brydain, gan gynnwys Lôn Las Cymru.


http://www.mtbwales.co.uk/
Manylion llwybrau beicio yn y gogledd orllewin, gan gynnwys pa mor hir a pha mor anodd ydyn nhw a sut i'w cyrraedd. Mae'n cyfeirio'n bennaf at lwybrau'r Wyddfa a Choed y Brenin, ond mae hefyd yn adolygu offer ac yn rhoi rhagolygon y tywydd.


http://www.parcnet.com/
Safle syml sy'n cynnwys llawer o wybodaeth ddefnyddiol i feicwyr mynydd sydd am ddefnyddio llwybrau Coed y Brenin ger Dolgellau. Fe gewch hyd i lefydd i aros, llwybrau beicio, canllawiau a manylion siopau sy'n gwerthu neu logi beiciau.


http://www.conwyctc.fsnet.co.uk
Mae safle'r CTC yn llawn newyddion ac erthyglau ynglŷn â beicio yng ngogledd Cymru, gan gynnwys llwybrau ar gyfer teithiau beic cylchol, brasluniau o'r daith a lluniau difyr o wahanol ddigwyddiadau.
Awgrymwyd gan Maurice Clarke


http://www.southsnowdonia-mountain-rescue.org.uk
Mae tudalen gartref y wefan ddeniadol yma yn eich arwain at hanner dwsin o dudalennau sy'n rhoi gwybodaeth eglur am y gwirfoddolwyr sy'n aelodau o'r tîm chwilio ac achub yn ardal Trawsfynydd. Popeth sydd arnoch chi eisiau ei wybod ar ffurf syml a deniadol.
Awgrymwyd gan David Griffiths, Blaenau Ffestiniog.


http://www.ramblers.org.uk/wales/wales.html
Adran ar gyfer Cymru ar wefan Cymdeithas y Ramblers ydy'r dudalen hon. Mae'n rhoi pwynt cyswllt i dorreth o wybodaeth ddefnyddiol, gan gynnwys manylion cymdeithasau cerdded lleol y gallwch chi ymuno â nhw.

  • Am ragor o wefannau'r Awyr Agored cliciwch yma
  • Am wefannau Cerdded cliciwch yma
  • .


    Dyw'r Ö÷²¥´óÐã ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.
    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý