Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Gwefannau Lleol

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å ±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å
Os ydych chi wedi gwirioni am bêl-droed neu eisiau gwybod am be mae'r holl ffys, mi fydd y gwefannau hyn yn eich tywys o gwmpas clybiau a chystadlaethau gogledd orllewin Cymru. Cofiwch anfon aton ni os ydych chi'n gwbod am safleoedd da eraill.

http://www.citizens-choice.co.uk/
Er mai gwefan answyddogol ydy hon, mae hi'n gynhwysfawr ac yn gyfredol ac erbyn hyn yn cystadlu â gwefan swyddogol y clwb.


http://www.caernarfonborofc.co.uk
Mae llawer i'w weld ar y wefan hon, gan gynnwys hanes y clwb, tablau a chanlyniadau gemau'r tymor. Mae'r adroddiadau o'r gemau yn eitha manwl hefyd, ac mae cyfle ichi gyfrannu i'r fforwm.


http://www.caernarfontown.net
Mae'r dyluniad newydd yn rhoi gwybodaeth am hanes y clwb, y sgwad, gemau, canlyniadau a nawdd gyda rhannau bach ohoni'n ddwyieithog. Mae cysylltiad hefyd i safle academi ieuenctid y clwb. Mae yma hefyd oriel luniau safonol a digon i annog cyfraniad y cefnogwyr, fel pleidleisio dros chwaraewr y mis ac ymuno â'r fforwm drafod.


http://www.colwynbayfc.co.uk
Gwefan swyddogol y Gwylanod sy'n chwarae yng Nghynghrair Unibond Lloegr ac yn cynnwys y newyddion diweddaraf, y canlyniadau a'r gemau yn ogystal â chysylltiadau i safloedd answyddogol y cefnogwyr.


http://www.citizens-choice.co.uk/cymclubs.htm
Yn ogystal â newyddion Cymru Alliance, gemau, tablau a chanlyniadau, mae'r safle yn cynnwys adran fanwl i bob tîm yn y gynghrair gan gynnwys Bala, Cemaes, Caergybi, Llandudno, Llanfair PG a Llangefni.


http://www.faw.org.uk
Mae'r wefan yn cynnwys manylion am y timau sy'n cystadlu yn y cynghreiriau amrywiol yng Nghymru fel JT Hughes Mitsubishi Welsh Premier a chynghrair is yr ardal, Cymru Alliance. Mae hi'n cynnwys hefyd eglurhad ar strwythur y gymdeithas, cynghreiriau merched a sgwad Cymru.


http://www.llandudnojunctionfc.co.uk
Mae'r clwb hwn ar gyfer chwaraeuwyr o bob oed, yn fechgyn a merched, a'i safle yn rhoi adroddiadau am gemau, canlyniadau a newyddion arall am y clwb. Maen nhw hefyd yn gwerthu nwyddau'r Clwb ar y safle.


http://www.porthmadogfc.com
Mae Porthmadog yn chwarae yn Uwchgynghrair Cymru ac mae'r wefan ddwyieithog hon yn llawn gwybodaeth am y clwb - newyddion, manylion gemau, chwaraewyr a lluniau yn ogystal ag archif helaeth, adroddiadau a linc i fforwm drafod. Bydd modd prynu nwyddau oddi ar y safle cyn hir hefyd.


http://www.amlwchtownfc.co.uk/
Mae'n hawdd teithio o gwmpas y safle da hwn a dysgu am ddatblygiadau diweddara'r Clwb yn y Cymru Alliance. Yn ogystal â gwybodaeth am y timau a'r swyddogion, sut i gael hyd i'r clwb a sut i gysylltu, mae'r adroddiadau syml yn sôn am y gemau a phwy sgoriodd ac yn dangos rhifau buddugol y lotto hefyd!


http://www.cpdbethelfc.co.uk
Fe gafodd gwefan Clwb ±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å Bethel ei henwi yn wefan bêl-droed orau'r byd gan safle Soccer Highway fis Mehefin 2003 - a hynny'n gwbl haeddiannol hefyd. Mae'r cynllun syml, sy'n rhoi'r Gymraeg yn flaenaf, yn golygu y gallwch ddod o hyd i wybodaeth am ddigwyddiadau, gemau a chanlyniadau a'r diweddaraf am y timau hÅ·n a iau. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth ryngwladol, oriel luniau ac ocsiwn ar-lein i godi arian i'r clwb.


http://www.bangorcityfc.com/
Mae newyddion a chanlyniadau diweddaraf clwb pêl-droed Dinas Bangor ar gael yn eithaf rhwydd o'r ddalen gartref. Am fwy o fanylion am gemau, chwaraewyr ac ystadegau, cliciwch ar un o'r cysylltiadau yn y bar llywio ar y chwith. Fe allwch chi hefyd ddarllen adroddiadau gemau, gweld sut i godi arian i'r clwb a chynnig eich sylwadau ar lwyddiant y tîm.


http://www.cpdpenrhos.com
Cadwch llygad ar newyddion a chanlyniadau timau ieuenctid Clwb ±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å Penrhosgarnedd ar y wefan yma sy'n hawdd iawn i'w ddefnyddio.
Awgrymwyd gan David James


http://www.cpd-llanrug.net/
Mae'r wefan yma yn hawdd ei defnyddio ac yn cynnig popeth byddai ffan o dîm Llanrug United ei angen i gadw i fyny efo'i hoff glwb. Mae 'na wybodaeth am hanes y clwb a'r cae chwarae, lluniau o'r chwaraewyr a gellir cadw i fyny â'r canlyniadau a'r newyddion diweddaraf.
Cynigiwyd gan Gethin Parry o Lanrug


http://www.canaries-dre.co.uk
Digon i gadw unrhyw un yn brysyr ar y wefan answyddogol hon; newyddion, canlyniadau, lluniau o'r chwaraewyr, ffeithiau am y cae chwarae, Yr Ofal, tîm y merched, a hefyd darn am dimau eraill sy'n cael eu galw yn Canaries.

CPD Glantraeth
www.glantraethfc.co.uk
Mae ambell dudalen ar wefan y clwb yma o Ynys Môn yn wag ar hyn o bryd ond mae gwybodaeth am y sgwad, gemau a chanlyniadau ar gael mewn fformat glir yn ogystal â thabl cynghrair y Cymru Alliance.

Beth am gampau eraill? Cliciwch isod am wefannau ar Rygbi, Golff, Campau eraill.



Dyw'r Ö÷²¥´óÐã ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.
0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý