主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Gwefannau Lleol

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Aberdyfi Trefi a phentrefi 1
Ydy eich tref neu'ch pentref chi ar y we eto? Edrychwch ar y rhain a chofiwch anfon aton ni os ydyn ni wedi anghofio safle da!

http://www.aberdyfi.org/
Mae'r wefan yma'n hawdd ei defnyddio, yn addas ar gyfer trigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd ac yn cynnwys rhestr lawn iawn o siopau, tai bwyta, llety, llefydd i ymweld a gweithgareddau yn y pentref hardd hwn. Digon o luniau deniadol a digwyddiadur ar gael hefyd.


http://www.abersoch.co.uk
Gwefan broffesiynol iawn o'r olwg efo lluniau gwych o Abersoch a rhannau eraill o L欧n. Mae yna ddigon o wybodaeth am y pentref a'r ardal gyfagos efo gwe-gamer芒u, mapiau rhyngweithiol, digwyddiadur, rhestr siopau a gwasanaethau a manylion am gynnyrch lleol a chrefftau hyd yn oed. Wedi'i anelu at ymwelwyr yn bennaf.


http://www.amlwch.net/
Mae hanes lleol yn elfen gref o gynnwys y wefan hon sy'n cynnwys rhestr o'r llongau a'r cychod a adeiladwyd ym mhorthladd Amlwch mor bell yn 么l ag 1788. Ceir digon o luniau, manylion am ddigwyddiadau, cyfeiriadur busnes, negesfwrdd ac eitemau newyddion lleol ac ap锚l am wybodaeth am Bastai Mynydd Parys!


http://www.bala.co.uk/
Gwybodaeth am y Bala, yn bennaf i ymwelwyr gyda'r pwyslais ar yr adnoddau i dwristiaid a chwaraeon yn hytrach na ffeithiau am y dref ei hun. Digon o luniau ac ychydig o fapiau.


http://www.lokalink.co.uk/index2.htm
Llafur cariad un o feibion y Bermo, John Pugh, sydd bellach yn alltud yng ngogledd Carolina, ydy'r wefan hon. Mae'n cynnwys hanes lleol, llenyddiaeth, busnes a gwasanaethau ac sydd hefyd yn helpu alltudion fel fo i gysylltu 芒'i gilydd. Dydy'r cynllun ddim yn gyson; mae'n rhan o rwydwaith Lokalink o wefannau trefi a phentrefi canolbarth a gorllewin Cymru.


http://www.beaumaris.org.uk
Llawer o wybodaeth ddwyieithog a lluniau gwych i drigolion lleol, ymwelwyr a rhai alltud fel ei gilydd. Mae symud o gwmpas y safle braidd yn fl锚r.


http://www.beddgelerttourism.com/index_main.htm
Mae'r wefan yma'n s么n am Gelert, ci Llywelyn ac am greawdwr Rupert Bear, Alfred Edmeades Bestall. Gwefan i dwristiaid ydy hi'n bennaf gyda chyfarwyddiadau clir a manwl ar sut i gyrraedd y gwahanol leoliadau a'r gwasanaethau yn y pentref hwn yng nghanol Eryri.


http://www.croeso-betws.org.uk/
Gwefan ddwyieithog dwt ei hadeiladwaith sy'n cynnwys llawer o wybodaeth ddefnyddiol a lluniau ardderchog. Cyfoeth o ffeithiau diddorol am Eryri, yn bennaf i ymwelwyr.


http://www.caernarfononline.co.uk/
Mae gan y safle hwn gyfoeth o wybodaeth ddiddorol am Gaernarfon ac mae'n boblogaidd ymhlith y Cofis hefyd. Mae'n cynnwys llawer o newyddion lleol, pynciau llosg, adborth, hen luniau ysgol, gwybodaeth i dwristiaid a manylion am nifer o fudiadau lleol. Mae'n eich arwain at nifer o is-rannau i'r brif wefan gan gynnwys y Gornel Gymraeg a Cofis Dre ar y We. Yr unig feirniadaeth ydy nad ydy'r golofn lywio ar y chwith yn eich dilyn o gwmpas y safle.


http://www.cemaes-bay.co.uk/
Mae'r safle pentrefol hwn yn cynnwys nifer o erthyglau a lluniau am hanes lleol a gweithgareddau gan gynnwys rhai'n ymwneud 芒'r RNLI a'r ganolfan dreftadaeth. Mae manylion i ymwelwyr sy'n meddwl ymweld 芒'r rhan yma o F么n.


http://www.colwyn1.freeserve.co.uk/
Os oes ganddoch chi ddigon o amynedd a diddordeb mewn lluniau hanesyddol, ewch i weld gwefan wahanol Dave Williams. Mae'r cynllun ychydig yn ddi-drefn ac mae'n cymryd amser i lwytho'r lluniau, ond mae 'na straeon gwych ac archif luniau dda o'r hen dref lan m么r hon a thu hwnt.


http://www.conwy-wales.com/
Mae 'na ddwy daith luniau o gwmpas yr hen dref gaerog hon a rhestr o fusnesau'r dref a lle i aros. Mae gweddill y safle'n cynnwys linciau i nifer o fudiadau yng Nghonwy.


http://www.criccieth.free-online.co.uk/
Mae'r mapiau o'r ardal a hanes y dref yn eithaf da ond mae'r adrannau eraill braidd yn hen.


http://www.rhiw.com/
Mae hon yn drysor o wefan gydag archif eang o hen luniau a hanesion am bentref bach y Rhiw yn Ll欧n a'r pentrefi o'i gwmpas. Os oes ganddoch chi ddiddordeb mewn hanes morwrol, hen drigolion Enlli, chwedlau, llythyrau, a hanesion pobl yr ardal heddiw - dyma'r safle ichi. Mae yma doreth o luniau prin a dogfennau wedi eu casglu at ei gilydd i roi cipolwg unigryw ar hanes pen draw Ll欧n.


http://www.dolgellau.net/
Lluniau a nostalgia sydd amlycaf ar y wefan dda yma, sy'n gynnyrch un g诺r lleol. Ond mae'n rhestru llety, busnesau a digwyddiadau hefyd.


http://www.nantlle.com/
Mae'r wefan yma'n cael ei rhedeg a'i chynnal gan gr诺p gwirfoddol o Ddyffryn Nantlle ac mae'n cynnig gwybodaeth i drigolion ac ymwelwyr am bentrefi'r dyffryn. Mae dipyn o waith llenwi ar yr adran hanes lleol ond, o'i chynnal, gallai hon dyfu'n wefan gynhwysfawr. Mae yma fanylion gweithgareddau lleol fel G诺yl Fai ac Antur Nantlle a chyfle i fusnesau lleol hysbysebu am ddim.


http://www.betws-y-coed.net/
Gwefan braidd yn blaen yr olwg ond wedi dweud hynny, mae'n ymdrech dda i hybu busnesau a digwyddiadau Betws-y-coed. Cliciwch ar yr adran rali i weld nifer o luniau o hen geir st锚m yn ymddangos ac yna'n diflannu!


http://www.holyheadindex.com/
Safle ddwyieithog sy'n llawn gwybodaeth ddefnyddiol ar gyfer ymwelwyr, pobl leol neu unrhyw un sydd eisiau gwybodaeth mwy am dref Caergybi a'r cylch. Mae'n rhoi manylion busnesau a sefydliadau lleol, hanes a phrif atyniadau'r ardal, pethau i'w gwneud a llefydd i fynd i fwynhau adloniant lleol, cysylltiadau ar gyfer grwpiau a mudiadau eraill a mwy.
Awgrymwyd gan Steve Williams.


http://holyheadtowncouncil.com/
Er mai Saesneg ydy iaith y wefan yma, mae yna ambell lygedyn o Gymraeg ac mae'n llawn gwybodaeth am y dref, gwasanaethau'r cyngor, hanes a chysylltiadau lleol yn ogystal 芒 llwybr treftadaeth os ydych chi'n chwilio am le i fynd dro.
Awgrymwyd gan C L Everett.

Am ragor o wefannau trefi a phentrefi, cliciwch yma.



Dyw'r 主播大秀 ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.
0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
主播大秀 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy