Ö÷²¥´óÐã

Explore the Ö÷²¥´óÐã
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Gwefannau Lleol

Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage
Ö÷²¥´óÐã Cymru
Ö÷²¥´óÐã Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Ö÷²¥´óÐã Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Robin McBryde Rygbi
Efallai nad ydy ardal y gogledd mor enwog am ei thimau rygbi â'r de ond mae'r clybiau'n hyfforddi'n galed i gyrraedd y brig - heb anghofio mwynhau eu hunain hefyd! Gadewch inni wybod os oes ganddoch chi wefannau da eraill.

http://www.pwllhelirfc.com/cymraeg/index.htm
Ar safle tîm Pwllheli mi gewch chi wybodaeth glir a chyfredol am gemau, chwaraewyr a swyddogion yn ogystal â chael newyddion diweddara'r clwb yn y Gymraeg neu Saesneg.


http://www.rygbipesda.com/
Rydych chi'n mynd i mewn i'r safle yma drwy ddalen gartref eithaf plaen ond hawdd iawn ei defnyddio. Ceir digon o wybodaeth ddwyieithog am hanes y clwb, cyfleusterau ac aelodau a'r cyfan mewn ffordd gyfeillgar a chroesawgar.


http://www.bangor-rugby.co.uk/
Mae'r safle ardderchog yma sy'n hawdd ei ddefnyddio yn cynnig cyflwyniad llawn i Glwb Rygbi Bangor. Ceir adroddiadau a lluniau o'r gemau diweddaraf, canlyniadau a dyddiadau gemau sydd i ddod a chyfle hefyd i'r cefnogwyr ddweud eu dweud ar fwrdd negesuon y clwb. Gellir gweld digon o luniau o anturiaethau'r chwaraewyr a chlywed am yr enwogion sydd wedi chwarae i'r clwb. Un feirniadaeth fach ydy ei bod yn dweud ei bod yn cynnig dewis Cymraeg ond does dim o'r tudalennau ar gael yn Gymraeg. Er hynny, mae cefnogwyr Bangor yn lwcus iawn!


http://www.colwynbayrugby.co.uk/
Safle hawdd ei ddefnyddio sy'n cynnwys yr holl ffeithiau angenrheidiol i unrhyw un sy'n cefnogi clwb Bae Colwyn. Fe gewch y canlyniadau diweddaraf, cysylltiad i dudalennau'r tîm ieuenctid a'r tîm iau a hanes y clwb. Mae hefyd yn cynnwys ffeithiau am Fae Colwyn ei hun ac yn cynnig cyswllt i wefannau sy'n rhoi rhagolygon y tywydd ar gyfer yr ardal - er y gallai hynny eich perswadio i beidio mynd i'w gweld yn chwarae os ydy hi'n glawio!


http://www.clwbrygbicaernarfon.co.uk/
Mae gwefan newydd Clwb Rygbi Caernarfon yn un clir, bywiog a hawdd ei defnyddio gyda thudalen newyddion ddifyr a gwybodaeth am gemau'r prif dîm, y tîm ieuenctid a'r tîm merched. Yn ogystal, mae tudalen ar gyfer yr adran iau ac ar gyfer tîm ychydig yn hŷn y clwb sy'n mynd dan yr enw Y Gogs. Mi gewch chi hefyd rywfaint o hanes y clwb ac mae modd ymuno â'u rhestr bostio ar gyfer derbyn y newyddion diweddaraf.


http://freespace.virgin.net/llifon.llifon/
Safle Gymraeg yn bennaf ac yn cynnig gwybodaeth am leoliad y cae, yr hanes a digwyddiadau'r clwb. Mae'n hawdd ei ddefnyddio ac yn cynnwys digon o luniau o dimau'r dynion a'r merched ond does dim sôn am ganlyniadau'r tymor hwn.


http://www.wyru.freeserve.co.uk/
Rhaid bod yn gyfarwydd â chynghreiriau a chwpanau amrywiol yr undeb i gael hyd i wybodaeth am gemau penodol yn gyflym. Mae'r penawdau ar gyfer pob tudalen yn glir ond mae cynifer o glybiau ac adrannau i fynd drwyddynt nes ei fod yn golygu chwilio drwy gruglwyth o wybodaeth. Ond, o ddyfalbarhau, fe gewch ganlyniadau gemau a gwybodaeth am y rhai sydd i ddod yn ogystal â manylion sut y gall pobl ifanc gymryd rhan yn y gêm.


http://sgarmes.com
Negesfwrdd ar-lein uniaith Gymraeg i drafod pob dim am y byd rygbi efo pobl o ledled y byd.
Awgrymwyd gan Aled


http://www.llangefnirfc.com/
Mae tîm cyntaf y clwb yma yn chwarae yn Adran 3 y Gorllewin tra mae'r ail dîm yn chwarae yng ngynghrair Gogledd Gwynedd, ond mae manylion y timau merched, ieuenctid a iau ar y wefan yma hefyd yn ogystal â fforwm drafod fywiog, gemau, canlyniadau a lluniau.
Awgrymwyd gan Siôn Aron.

  • Mwy am rygbi lleol


  • Beth am chwaraeon eraill? Cliciwch yma am fwy o wefannau ar ±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å, Golff, chwaraeon eraill.


    Dyw'r Ö÷²¥´óÐã ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.
    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    Ö÷²¥´óÐã - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý