主播大秀

St芒d y Faenol

top
Y Faenol

Mae hanes hir i'r st芒d eang yma a'i hadeiladau.

Mae'r st芒d wedi ei lleoli rhwng Bangor a Chaernarfon ar 1,000 erw o dir sydd wedi ei amgylchynu gan 7 milltir o wal gerrig.

O'r tua 40 o adeiladau sydd o fewn y waliau, llawer ohonyn nhw'n rhestredig, credir mai Hen Neuadd y Faenol ydy'r hynaf.

Mae'n debyg mai Neuadd-dy Canoloesol oedd yr adeilad gwreiddiol cyntaf a godwyd ar safle'r hen neuadd a chafodd ei hehangu a'i moderneiddio gan chwe chenhedlaeth o'r teulu Williams - teulu pwerus a chyfoethog yn yr ardal a ddaeth yn berchen ar y st芒d yn 1572.

Hen Neuadd y FaenolTeulu'r Uwch Sieriff Thomas Wyn ap William (Thomas Williams) oedd y rhain, a dywedir eu bod yn Gatholigion ar adeg pan oedd hynny'n anghyfreithlon ac iddyn nhw gymryd rhan ar y ddwy ochr yn y Rhyfel Cartref.

Mae'r hen neuadd yn edrych fel cartref i fonheddwr o oes y Tuduriaid ac fe gafodd ei disgrifio yn y 18fed ganrif fel lle llawn 'miri a hwyl'. Ond mae dirgelwch yn perthyn iddi hefyd. Credid bod 诺yr Thomas Williams a'i wraig yn Gatholigion a phan fu farw'r ddau, cawsant eu claddu yng Nghadeirlan Bangor heb wasanaeth ganol nos.

Mae'n bosib bod rhan o selerydd y t欧 sydd wedi ei flocio yn cuddio twll ar gyfer offeiriad (mae hefyd yn bosib mai t欧 bach ydyw ...). Mae rhai yn dweud eu bod wedi gweld ysbrydion yn y neuadd hefyd.

Er bod angen llawer o waith trwsio ar yr hen neuadd, mae llawer o'i hen nodweddion gwreiddiol yn dal i'w gweld yno, gan gynnwys y drws ffrynt gwreiddiol, grisiau o'r 17eg ganrif a'r lle t芒n bwaog yn y gegin.

Rhoddwyd St芒d y Faenol i deulu bonheddig o Saeson gan y brenin William III yn 1756 - yr Assheton Smiths. Wedi iddyn nhw ddod yn berchen ar y st芒d fe aethant ati fel meistri tir i ddatblygu'r chwareli llechi cyfagos gan fanteisio ar dwf y diwydiant llechi a'r chwyldro diwydiannol.

Y teulu hwn a adeiladodd y neuadd newydd yn 1800, sef prif d欧'r Faenol heddiw a daeth yr Hen Neuadd yn d欧 fferm.

Ymysg yr adeiladau Tiwdoraidd eraill ar y st芒d mae'r capel sydd, mae'n debyg, yn dyddio n么l i ganol y 16eg ganrif gyda'r portsh wedi ei ychwanegu gan fab Thomas, William, a'i wraig gyntaf, Elin, yn 1596. Adeilad arall o'r cyfnod hwn ydy'r Sgubor Fawr a adeiladwyd yn 1605. Dyma'r sgubor garreg hynaf o'i bath sy'n dal i sefyll yng Ngwynedd.

Yr Assheton Smiths a dirluniodd y tiroedd a'r gerddi yn y parc. Bu farw'r olaf o'r teulu i etifeddu'r stad, Syr Michael Duff Asheton Smith, yn 1980 a rhoddwyd y parc ar ocsiwn.

Prynwyd y rhan fwyaf ohono gan fusnes teuluol lleol, sef St芒d Glan Gwna Cyf ger Caernarfon. Prynwyd rhan arall o'r parc gan yr Awdurdod Datblygu i adeiladu parc busnes Parc Menai ac mae rhan arall yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae gweddill y parc yn cael ei brydlesu gan Y Faenol Cyf oddi wrth Stad Glan Gwna.


Cestyll

Castell Dolbadarn

Oriel Cestyll

Hanes rhai o gestyll mwyaf adnabyddus a hanesyddol bwysig Cymru.

Crefydd

Delw Cristnogol mewn carreg

Oes y Seintiau

Cymru yng nghyfnod Dewi Sant a'r Cristnogion Celtaidd cynnar.

Mudo

Statue of Liberty

Dros foroedd mawr

Hanes y Cymry a adawodd eu cartrefi i chwilio am fywyd gwell.

Symbolau Cymru

Tair pluen Tywysog Cymru (Llun: Tomasz Przechlewski)

Hunaniaeth?

Y stori y tu 么l i symbolau ac arwyddluniau traddodiadol y Cymry.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.