主播大秀

Cofio Ysbyty Gogledd Cymru

top
Ysbyty Gogledd Cymru - llun gan/photo by Louise Branwen Griffith

Rhai o gyn-weithwyr Ysbyty Gogledd Cymru, Dinbych, yn cofio eu hamser yno a'r gweithgareddau cymdeithasol a gynhaliwyd yn Neuadd yr ysbyty.

Gwyn Williams


Dreifar oedd Gwyn Williams (Gwyn 'Hafod Elwy') yn dosbarthu'r dillad golchi am un mlynedd ar bymtheg, cyn gwneud yr un gwaith yn ysbyty Glan Clwyd am ddeng mlynedd. Dilynodd draed ei daid a'i dad, gan i'w daid, William Williams, fod yn gyfrifol, yn rhan amser, am gyflenwad d诺r yr Ysbyty yn Llyn Br芒n. Cymaint oedd parch awdurdodau'r Ysbyty iddo, fe'i gladdwyd mewn arch wedi ei wneud gan seiri'r Ysbyty a'i gludo i Lansannan ar geffyl a chert ym 1937. Nid pawb oedd yn derbyn y fath anrhydedd!

Bu ei dad, Huw Williams, yn gwneud yr un gwaith yn llawn amser ac yn cael amser i ffermio hefyd. Bu ei chwaer hynaf, Eirwen, yn nyrsio yn yr Ysbyty.

Atgofion melys sydd gan Gwyn am Brif Neuadd yr Ysbyty, gan iddo berfformio a chystadlu ar ei llwyfan yn gyson. Bu'n cystadlu bob gwanwyn yn yr eisteddfod flynyddol, gyda'r cleifion yn cystadlu drwy'r prynhawn, a'r staff, gan gynnwys staff o ysbytai eraill, yn cystadlu o saith yr hwyr ymlaen. Mae'n cofio rhai fel Phylip Hughes yn beirniadu a chantorion opera oedd yn derbyn triniaeth yn cystadlu. Tarodd ar draws y tenor David Lloyd ar un achlysur yn smocio 'Woodbine' y tu allan i Gwynfryn, ond doedd ganddo ddim awydd cystadlu.

Mae'n cofio canu 'Y Ddeilen a'r Lili', deuawd tenor a bas, efo Dic Owen, Organydd Capel Pendref, ac yn gorfod cael 'sieri bach' cyn cystadlu! Mae'n debyg iddo ddioddef cryn dipyn efo'i nerfau cyn cystadlu, ac roedd ar un achlysur yn nerfus iawn cyn canu 'Silent Worship' gan Handel. Awgrymodd David Morton Davies, trydanwr yn yr Ysbyty, a thenor da, iddo alw yn y 'Britannia' ar ei ffordd i fyny. Derbyniodd y cyngor a llyncu wisgi dwbwl yn y Brit cyn camu i'r llwyfan ac anghofio'r geiriau!

Dafydd Lloyd Jones


Bu Dafydd Lloyd Jones yn gweithio i'r Gwasanaeth Iechyd am 35 mlynedd: gydol ei yrfa yn Ysbyty Gogledd Cymru heblaw am bum mlynedd yn Ysbyty Pool Park, Rhuthun. O'r wythdegau 'mlaen roedd yn Uwch-Swyddog Nyrsio.

Yn gyn-aelod o seindorf y 'Royal Oakley' ym Mlaenau Ffestiniog, yn ddigon naturiol ymunodd 芒 band yr Ysbyty er mwyn cael parhau i chwarae'i gornet. Cofia griw da yn dod at ei gilydd i ymarfer yn gyson er mwyn cael perfformio yn y ddawns wythnosol i'r cleifion yn y Neuadd, rhwng 6yh a 7.30yh bob nos Fercher. Mae'n cofio cymeriadau lliwgar fel Dic Williams y 'Bandmaster' (Dic Tromb么n), Wil Amlwch a'i ewffoniwm a Gwilym Pierce, sy'n dal i fyw yn Accar y Forwyn.

Mae'n cofio enwogion fel Mathonwy Hughes, Gwilym R. Jones a Gilmore Griffiths yn beirniadu yn Eisteddfod yr Ysbyty a rhai fel Rhys Jones, tad Caryl Parry Jones, yn cyfeilio.

Yn ogystal 芒'r cyngherddau wythnosol, fe ddefnyddiwd y Neuadd i gynnal gweithgareddau rheolaidd eraill fel sesiynau bingo a gyrfeydd chwist.

Gwilym Pierce


Deunaw oed oedd Gwilym Pierce yn dechrau nyrsio yn yr Ysbyty a bu yno am ddeugain mlynedd, yn gorffen ei yrfa fel Prif Nyrs. Wedi cychwyn fel aelod o fand y dref, yn naturiol ddigon ymunodd 芒 Band yr Ysbyty a bu'n aelod gydol ei yrfa, yn chwarae'r corn tenor ac offerynnau eraill.

Mae ganddo yntau atgofion hapus iawn o gyngherddau yn y Neuadd ac, os oedd y tywydd yn braf, yn perfformio ar y 'bandstand' ger y cae p锚l-droed. Mae hefyd yn cofio i'r Neuadd gael ei defnyddio bob bore er mwyn i'r cleifion cael gwersi Ymarfer Corff.


Cestyll

Castell Dolbadarn

Oriel Cestyll

Hanes rhai o gestyll mwyaf adnabyddus a hanesyddol bwysig Cymru.

Crefydd

Delw Cristnogol mewn carreg

Oes y Seintiau

Cymru yng nghyfnod Dewi Sant a'r Cristnogion Celtaidd cynnar.

Mudo

Statue of Liberty

Dros foroedd mawr

Hanes y Cymry a adawodd eu cartrefi i chwilio am fywyd gwell.

Symbolau Cymru

Tair pluen Tywysog Cymru (Llun: Tomasz Przechlewski)

Hunaniaeth?

Y stori y tu 么l i symbolau ac arwyddluniau traddodiadol y Cymry.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.