主播大秀

Y Stiwt

top

Yma mae Myrddin Davies yn olrhain hanes y Stiwt yn Rhosllannerchrugog a'i bwysigrwydd fel 'Calon y Gymuned' ar ddathliad 80 mlynedd ers agor yr adeilad.

Sefydlwyd y Stiwt yn wreiddiol yn y 1920au drwy gyfraniadau gan y coliers. Roeddynt yn rhoi rhyw gyfraniad o ddwy geiniog yr wythnos o'u cyflogau prin, a chofio bod hynny ynghanol streic fawr 1926, mae'n wyrthiol bod y lle wedi agor o gwbl.

Yn ystod blynyddoedd y rhyfel, dwi'n cofio dod yma fel plentyn i wrando ar ITMA (It's That Man Again) gan eu bod wedi symud o Lundain i Fangor ac yn dod yma yn aml i berfformio ar gyfer y radio.

Yn ystod y chwedegau a'r saithdegau fe welwyd dirywiad oherwydd brwydr ynglyn 芒 bar. Gwnaeth coliers yr Hafod dorri allan o'r cytundeb ac adeiladu clwb yr Hafod ac wrth gwrs roedd yr arian yn cael ei rannu erbyn hyn rhwng y ddau le.

Erbyn 1977 roedd y lle wedi mynd yn fethdal ac fe gaewyd yr adeilad. Yn araf bach fe wnaeth yr adeilad ddirywio, gyda d诺r yn dod fewn, ffenestri yn cael eu torri a'u malu ac roedd y lle yn beryg.

Yr auditorium

Cyngor Wrecsam oedd biau'r adeilad erbyn hyn, ac yn eu doethineb fe benderfynwyd nad oedd dim byd iddi ond chwalu'r Stiwt.

Fel rhyw fath o sop i bobl Y Rhos, fe agorwyd y lle un dydd Sul ym 1985 er mwyn gadael iddynt weld y lle un waith eto cyn ei chwalu. Daeth dros 3,000 o bobl trwy'r drysau y diwrnod hwnnw ac fe ffurfiwyd pwyllgor 'Save the Stiwt.'

Gwnaeth y pwyllgor drefnu les ar yr adeilad ac yn araf bach cael arian i ddechrau adnewyddu. Dyma roi cynnig am arian loteri ac fe gawsom rhyw 拢2.3 miliwn ac roedd yn rhai i ni yn lleol godi ryw 拢1.3 miliwn.

Ail adnewyddwyd rhan fwyaf o'r adeilad gyda'r arian ac erbyn mis Medi 1999 llwyddwyd i ail agor Y Stiwt ar ei newydd wedd.

Ym mis Medi 2006 cafodd cyngerdd ei chynnal i ddathlu 80 mlynedd ers agor Y Stiwt yn wreiddiol, gyda Ch么r Meibion Y Rhos, Gwyn Hughes Jones y tenor enwog, Rona Jones y pianydd a'r telynor Dylan Cernyw yn cymryd rhan.

Yn y dderbynfa ceir arddangosfa o greiriau yn ymwneud 芒'r adeiladau gwreiddiol, lluniau a posteri dros y blynyddoedd yn ogystal 芒 thapiau sain a fideo.

Yr auditorium

Mae'n theatr ac yn ganolfan gymunedol i'r ardal ac mae yna ystafelloedd sydd yn ystafelloedd ymarfer a bob nos o'r wythnos mae yna g么r o ryw fath yn ymarfer yma.

Yn y boreau cynhelir gr诺p mam a'i phlentyn, yn ogystal 芒 Weight Watchers a Theatr yr Ifanc nos Iau gyda 80 o ieuenctid yn ymarfer ac mae rhestr aros i ddod yn aelodau o'r cwmni.

Mae cwmn茂au eraill o'r cylch hefyd yn defnyddio'r lle yn achlysurol i berfformio sioeau amatur.

Ar bron bob penwythnos o'r flwyddyn mae gennym rywbeth ymlaen yma ac yn weddol aml mae rhywbeth ymlaen yn yr auditorium yn ystod yr wythnos.


Cestyll

Castell Dolbadarn

Oriel Cestyll

Hanes rhai o gestyll mwyaf adnabyddus a hanesyddol bwysig Cymru.

Crefydd

Delw Cristnogol mewn carreg

Oes y Seintiau

Cymru yng nghyfnod Dewi Sant a'r Cristnogion Celtaidd cynnar.

Mudo

Statue of Liberty

Dros foroedd mawr

Hanes y Cymry a adawodd eu cartrefi i chwilio am fywyd gwell.

Symbolau Cymru

Tair pluen Tywysog Cymru (Llun: Tomasz Przechlewski)

Hunaniaeth?

Y stori y tu 么l i symbolau ac arwyddluniau traddodiadol y Cymry.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.