主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Rocet ym Mheriw - 3
Mehefin 2005
Yn dilyn ei daith gerdded i Machu Picchu i godi arian tuag at Mind cafodd Arwel Rocet Jones flas ar y jyngl yn Ne America

O'r mynydd i'r môr..
Methu cysgu'r nos am fod miliynau o bryfetach yn mynnu cael canu yn y goedwig o nghwmpas i.
Ac un yn arbennig yn benderfynol o ddod o hyd i ffordd drwy'r rhwyd oedd dros y gwely.

A'r un o'r ddau ystlum oedd wedi clwydo ar yr ochr arall i'r rhwyd nid nepell o nghlust chwith yn gwneud dim ymdrech o gwbl i ddal unrhyw bryfaid ...

Ffatri o sŵn
Cael fy neffro rhywbryd rhwng pedwar a phump gan y sŵn mwyaf annaearol i mi ei glywed erioed.
Sŵn mawr, diwydiannol bron.

Ond 'ro'n i yng nghanol y jyngl ac roedd o fel sŵn milltiroedd o bibelli mawr yn gwagio ar frys.

Roedd hi'n amser codi beth bynnag.

Deall ar ôl holi mai sŵn mwnci oedd wedi deffro'r deuddeg ohonan ni - y Red Howler Monkey ac nid llwyth cyfan ohonyn nhw ychwaith, dim ond un.

Un mwnci yn llwyddo i wneud ffatri gyfan o sŵn.

Roedd criw o rhyw ddwsin ohonan ni wedi cael ein harwain i Manu - ardal o ddyffryn enfawr yr Amason sydd tua'r un maint a Chymru ac wedi ei hamddiffyn rhag ei rheibio gan ddynoliaeth.

Edrych tua'r lanMae un rhan fechan o'r ardal yn agored i rhyw gymaint o dwristiaeth ac i fano oeddan ni'n cael mynd.

Nant yr Amason
Un o 'nentydd' yr Amason yw'r Manu fel yr afonydd eraill yn yr ardal hon. Nant cyn lleted a dwy draffordd.

Dim ond 200m sydd rhwng Manu a'r môr sydd gannoedd o filltiroedd i ffwrdd - dim rhyfedd bod yr Amason mor eang ac araf.

Bywyd yn brysur
Yma mae bywyd yn brysur.
Gwres a lleithder yn caniatáfiant cyson a chyflym. A bywyd o bob math i'w weld.

Coed bach a mawr a mawr iawn.

Coed sydd a gwe o wraidd yn estyn am lathenni i bob cyfeiriad ar wyneb y ddaear ond heb gloddio'r dyfnderoedd gan fod y maeth yma yn arwynebol - ond i'w gael yn y fath gyflawnder fel nad oes raid poeni am fwrw gwreiddiau dyfnion.

Y jynglO'r herwydd mae'n gymharol gyffredin gweld hyd yn oed y coed mwyaf yn disgyn mewn stormydd ac yn gadael lle a golau dydd i'r coed bychain o'u cwmpas nhw dyfu.

Gall rhai coed aros yn fychan bach am ddeugain mlynedd yn disgwyl eu cyfle yn yr haul.

Siom Tarsan
Roedd hi'n siom anferth sylweddoli nad oedd modd o gwbl i Tarsan hedfan drwy'r jyngl ar y canghennau tenau hynny yn crogi o'r coed yn y ffilmiau gan eu bod nhw wedi eu gwreiddio yn y ddaear ac wedi eu clymu'n dynn rhwng coeden a choeden.

Ond gwych o beth oedd darllen mai'r Cymro, Ivor Novello, ysgrifennodd y geiriau anfarwol, Me Tarzan you Jane.

Roedd hi'n dawel arno fo ar y pryd mae'n rhaid!
Ond dwi wedi crwydro'n go bell o Manu erbyn hyn ....

Berwi o birana
Roeddan ni'n teithio'r afon a'r llynnoedd cyfagos ar gwch hir. O ddiogelwch y cwch fe welson ni Jaguar yn crwydro glan yr afon ac fe aethon ni ar lyn oedd yn berwi o birana.

PiranaWyddwn i ddim fod y pysgod enwog yma yn llysieuwyr i raddau helaeth iawn ac yn defnyddio'u dannedd ffyrnig i agor cnau a bwyta ffrwythau sy'n disgyn oddi ar y coed i'r llyn.

Gwelsom y Capibara, y llygoden fawr fwyaf yn y byd, teuluoedd di-rif o grwbanod y dŵr a miloedd ar filoedd ar filoedd o forgrug a mosgitos a phryfaid tywod a phryfaid du - pob un am gael ei damaid bach o Gymro.

Dyfrgi mawr
Treulio un bore cyfan yn gwylio'r Dyfrgi Mawr. Y math mwyaf o ddyfrgi yn y byd.

Un teulu o'r rhain all fyw mewn un llyn - teulu sy'n gweiddi a chanu a chwarae a bwyta fel pob teulu.

Roedd eu cân rhyfeddol yn nhawelwch y bore yn dathlu dal pirana mawr i frecwast, eu sgrech o'n gweld ni yn rhy agos yn iasoer ond eto eu chwerthin yn afieithus wrth iddyn nhw ddod dros eu hofn a'n dilyn ni ar draws y llyn.

CapibaraRoedd y llyn yn berffaith llonydd ond eto roedd wyneb y dŵr yn edrych fel pe byddai hi'n tresio bwrw glaw oherwydd y miliynau o bryfaid oedd yn glanio ar yr wyneb ac oherwydd y cannoedd o bysgod oedd yn neidio i'r wyneb i fwyta'r pryfaid.

Y cannoedd o bysgod sydd eu hangen i fwydo teulu o ddyfrgwn sy'n bwyta 4kg o bysgod yr un bob dydd, heb sôn am yr holl adar a chrocodeilod sy'n dibynnu arnyn nhw am eu cynhaliaeth hefyd.

Mae bywyd yn brysur yn y jyngl a chylch bywyd yn gallu cael ei gwblhau yn bur gyflym.

Wrth edrych ar y brathiadau sy'n britho fy mreichiau a nghoesau mae'n rhyfedd meddwl fod rhannau ohona innau yn rhan o'r cylch hwnnw erbyn hyn!






de america

Periw
Rocet ym Mheriw - 1

Rocet ym Mheriw - 5

Rocet ym Mheriw - 4

Rocet ym Mheriw - 2

Rocet ym Mheriw - 3

I Machu Picchu dros gancr




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy