主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Ynys Rhedyn Rocet ym Mheriw - 4
Yn dilyn ei daith gerdded i Machu Picchu i godi arian tuag at Mind mae taith Arwel Rocet Jones ym Mheriw yn cael ei bygwth gan streic.

Dwi wedi cymryd at deithio liw nos - er mawr gywilydd i mi.

Gadael Cusco ar frys gwyllt. Roedd sôn am streic drafnidiaeth ym Mhuno ac os nad oeddwn i ishio aros yn Cusco am o leiaf ddeuddydd arall roedd hi'n well gadael ar unwaith.

Roedd y bws olaf am chwech o'r gloch y nos. Er cystal Cusco o'n i ddim am aros yno rhyw lawer yn hwy.

Dal y bws am chwech y nos a theithio trwy dirwedd a oedd yn ôl pob sôn yn fendigedig - ond yr unig beth welwn i yn y ffenest oedd adlewyrchiad ohonof fi fy hun - gwyn fy myd!

Llyn y Puma Llwyd
Prif atyniad Puno i mi oedd taith ar Lyn Titicaca i weld Ynysoedd yr Uros - yr ynysoedd rhedyn.

Teithio i'r porthladd mewn tacsi beic - doedd dim car na bws, na thacsi, na dim yn rhedeg, roedd y dref yn gwbl dawel.

Llyn y Puma Llwyd, dyna ystyr Titicaca (Titichacha o'i ynganu'n gywir - caca yw - wel, caca yw caca, ym mhob iaith mae'n amlwg!) - hen, hen, enw a roddwyd i'r llyn ganrifoedd yn ôl.

Dim ond gyda dyfodiad technoleg lloeren y gwelwyd fod y llyn yn llythrennol yn dwyn siâp cath fawr - a honno'n dal cwningen.

Roedd y siâp mor amlwg a hoel ar bared - efo'r mymryn lleia o ddychymyg!

Hwn, wrth gwrs, yw'r llyn hwyliadwy uchaf yn y byd a chan fod iddo lannau yn perthyn i Beriw a Bolivia fe brofodd yn llyn digon pwysig i gario dwy long yno mewn fflatpac o Loegr.

Adeiladwyd y llongau yn Lloegr yn 1862 a'u cludo mewn bron i dair mil o ddarnau ar longau rownd yr Horn ac wedyn ar gefn mulod dros yr Andes.

Cymerodd yr holl beth chwe blynedd i'w gwblhau!

Ynysoedd rhedyn
Mae yna lawer iawn o ynysoedd ar Lyn Titicaca ond yn eu plith nhw mae 45 o ynysoedd rhedyn.

Ynysoedd wedi eu gwneud, yn llythrennol, o redyn.

CartrefGanrifoedd yn ôl, yn hytrach na phlygu i ormes, fe ddihangodd y bobl ar gychod rhedyn ac o dipyn i beth fe ddatblygon nhw o fyw ar y cychod rhedyn i fyw ar y tyfiant rhedyn ei hun.

Ond hyd yn oed heddiw mae gofyn angori'r ynysoedd gyda chreigiau mawr rhag iddyn nhw grwydro ar y llanw neu o flaen y gwynt.

Mae dwy fil o bobl yn byw ar yr ynysoedd hyn. Y rhai agosaf at y lan yn tueddu i wneud eu bywoliaeth o dwristiaeth ond y rhai pellach yn dal i fyw eu bywyd yn ôl hen, hen, draddodiadau.

Ond hyd yn oed yma does dim dianc rhag dechnoleg ac mae gan bob un o'r ynysoedd - sydd tua maint hanner cae pêl-droed - eu ffynhonnell eu hunain o drydan - trwy banel ynni haul.

Cyfrwng cwbl addas i bobl sydd wedi addoli'r haul ers canrifoedd.

Fy nal gan streic
Roedd Puno yn dref fach fywiog, ddifyr, ond o fod wedi dianc o Cusco i osgoi'r streic fe'm daliwyd ym Mhuno o'i herwydd hi.

Bum yno am ddyddiau a dim sôn am ddiwedd i'r streic. Bum mewn rali i gefnogi'r streicwyr - roeddan nhw'n poeni am raddfeydd annheg o yswiriant oedd yn bygwth eu bywoliaeth.

Rali yw rali. Yr un hierarchaeth o drefnwyr a siaradwyr, gorymdeithwyr a gwylwyr.

Roedd grisiau'r Eglwys Gadeiriol yn fôr o bobl ond roeddwn i yn ôl ar risiau'r Swyddfa Gymreig ac yn gweld yr un llif o ddigwyddiadau yma ac yn y fan honno.

Y styntY stynt oedd y peth oedd yn mynd i roi lluniau i'r cyfryngau wrth gwrs, a honno'n hen, hen, stynt.

Roedd eu bywoliaeth dan fygythiad, ffordd o fyw ar drengi a pha symbol gwell o hynny nag arch fawr ddu yn arwain y dorf trwy'r strydoedd?

Ar ôl araith gan Angau ei hun taniwyd yr arch ar y degfed cynnig - y stynt yw'r peth anoddaf i'w gael yn iawn bob tro.

Ond roedd yn rhaid imi adael Puno rhywbryd.

Cafwyd achlust fod bargen wedi ei tharo ynglŷn â'r ffordd o Puno i Cusco ac ar y ffordd honno mae maes awyr Juliaca.

Os am gyrraedd Araquipa roedd yn rhaid hedfan. Ac i hedfan roedd yn rhaid cychwyn am bedwar y bore i ddal awyren naw - ac er bod hyn braidd yn gynnar doedd dim amdani ond gwneud fel oeddan nhw'n dweud.

Cychwyn a sylweddoli'n syth nad oedd y streic drosodd!

Roeddwn i'n cilio fel lleidr liw nos, a llawn cystal hynny o ran y cywilydd o'n i'n deimlo. Doeddwn i ddim am i neb fy ngweld - os oeddan nhw yn fy nabod i neu beidio.

Dim llai nag ofn
Cychwyn allan heibio i ambell i streiciwr llwydaidd yn y cysgodion, heibio i danau, trwy garpedi o gerrig a chreigiau a gwydr oedd wedi eu gosod ar draws y ffordd.

Teithio liw nosCyrraedd cyrion Juliaca ble camodd un dyn allan i ganol y ffordd a phledu'r car efo cerrig.

O'n i ddim llai nag ofn.

Beth bynnag daflodd o, fe chwalodd yn raean mân ar ffenest y car - ond fe gyrhaeddodd yr olwg yn ei lygaid o'r nod. Roedd gen i gywilydd. Roeddwn i wedi croesi llinell biced.

Erbyn inni gyrraedd y maes awyr roedd y bobl oedd yn teithio yn y tacsi o'n blaenau ni wedi dechrau stori fod ein car ni wedi ei rwystro, fod y ffenestri wedi eu malu a'r gyrrwr wedi ei anafu.

Dim ond tri chan llath o'n blaenau ni oedd y car hwnnw ond roedd y stori wedi ei hestyn filltir a rhagor o'r un crac bychan oedd yn ffenest ein car ni.

Tybed faint fydd y stori wedi ei hestyn erbyn imi gyrraedd yn ôl i Gymru!






de america

Periw
Rocet ym Mheriw - 1

Rocet ym Mheriw - 5

Rocet ym Mheriw - 4

Rocet ym Mheriw - 2

Rocet ym Mheriw - 3

I Machu Picchu dros gancr




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy