主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Rocet ym Mheriw - 5
Yn dilyn ei daith gerdded i Machu Picchu i godi arian tuag at Mind mae taith Arwel Rocet Jones yn troi'n un llythrennol ysgytwol gyda thywod ym mhobman . . .

Dwi ddim yn credu i mi gael fy ysgwyd gymaint erioed.
Nid yn ysbrydol nac yn emosiynol ond yn gorfforol.

Fy ysgwyd, fy sgrytian, fy nhaflu, fy siglo, mewn bws a bygi, mewn tacsi, awyren a chwch - 'sdim diwedd wedi bod arni.

RocetRoedd rhaid i'r bws fynd dros y mynydd yn hytrach nag o'i gwmpas oherwydd bod streic drafnidiaeth wedi cau'r llwybr arferol.

Doedd y ffordd dros y mynydd ddim mo'r orau yn y byd. Mae'n ddigon posib mai hi oedd y waethaf. Ffordd frau o greigiau llac a thywod yn glynu rhywsut i'r llethr ac yn colli gafael o dro i dro.

Ac wrth gwrs roeddan ninnau yn cael ein hysgwyd a'n sgrytian a'n taflu a'n siglo'n ddidrugaredd.

Ysgwyd a'i holl nerth
Roedd o fel bod yn blentyn bychan ac oedolyn mawr yn gafael yn fy sgwyddau ac yn fy ysgwyd a'i holl nerth. Roedd yr ysgwyd mor ddi-ildio nes ei fod o bron yn dod o'r tu mewn i rywun yn hytrach nag o'r tu allan. Wn i ddim, a siawns na fydd gen i byth syniad, sut beth yw bod yn feichiog. Alla'i ddim ond dychmygu bod hyn fel cario babi yn eich perfedd yn hytrach nac yn eich croth a'i gael o'n rasio'n ôl a blaen yn gyson, gyson, ddiddiwedd, ddi-stop.

Roedd y cyfan efo'i gilydd yn crynhoi i fod yn waeth na'r hangofyr waetha erioed - cur pen a salwch a blinder milwaith mwy na'r penwythnos fwyaf gwyllt mae Aberystwyth erioed wedi ei thaflu ata'i.

Ac i lle o'n i'n mynd?
Wel os oeddwn i'n chwilio am dwll yn y ddaear i daflu i fyny ynddo fo hwn oedd o.
Y twll mwyaf o'r cyfan.
Y Canyon Del Colca.

Y ceunant dyfnaf
Mae'n debyg eich bod chi, fel minnau, dan yr argraff mai'r Grand Canyon yw'r ceunant dyfnaf yn y byd. Efallai fod hynny'n dweud cymaint am ein haddysg orllewinol ni ag am y ceunant ei hun.

Mae'r Canyon Del Colca ddwywaith yn ddyfnach - a chyn imi gael fy nghyhuddo o'ch camarwain chi efallai nad hwn yw'r dyfnaf chwaith gan fod y ceunant drws nesaf, y Canyon del Cotahuasi, yn honni bod ychydig o gannoedd o fetrau yn ddyfnach eto.

Ta waeth rhyngthyn nhw â hynny ...

Gweld y Condor
Y nod ar fin y dibyn oedd gwylio adar.
Nid fy mod i'n dwitsiwr o fri gan nad oedd yn rhaid twitsio rhyw lawer i ddod o hyd i'r rhain.

Roeddan ni yno i weld y Condor.

Roedd cyfarwyddiadau'r tywysydd yn bendant iawn.

"Fyddwn ni'n gadael y ceunant am 9:40."
"Ond beth os na fyddwn ni wedi gweld y Condor?"
"Fyddwn ni'n gadael am 9:40."

A dyna ni.
Ond roedd hi wedi bod yma o'r blaen.

Aderyn bychan bach oedd y Condor o ben y ceunant am 8:30.

Peth tebyg iawn i ddryw yn codi'n ddiog ymhell bell islaw i ni ar lawr y ceunant.
Ond fe dyfodd.

Yn araf, araf, fe dyfodd ac fe dyfodd wrth iddo fo godi'n ddiog ar wres y dydd.

Doedd o'n gwneud dim ymdrech o gwbl. Roedd o fel petae pelydrau'r bore yn cydio ynddo fo dan ei geseiliau ac yn ei godi o'i wely.

O fewn hyd braich
Erbyn 9:30 roedd y Condor yn anferthedd ei ogoniant hyd braich oddi wrtha ni ... wel 'chydig yn rhagor na hynny efallai.

Ond roedd yr aderyn yma a'i adenydd sydd tua thair llath a hanner ar draws o fewn dim uwch ein pennau ni.

Gallwn glywed eu hadenydd yn chwibanu drwy'r awyr hyd yn oed ar y cyflymder diog yma.

Ar eu cyflymaf maen nhw'n gallu hedfan tua 60 milltir yr awr a hynny dros bellteroedd rhyfeddol. Maen nhw'n byw am dri chwarter canrif ac yn aros yn ffyddlon i un cymar gydol eu hoes.

Ac am 9:40 maen nhw'n diflannu.

Fy ysgwyd, fy sgrytian, fy nhaflu, fy siglo, a hanner dwsin o ferched sgrechlyd o Israel yn gwmni imi wrth i du blaen y bygi blymio dros lethr nad oeddwn i ddim yn gweld ei waelod o.

Twyni tywod
O'r twll mwyaf yn y byd i rai o'r twyni tywod mwyaf yn y byd. Dyddiau ola'r daith a diwrnod neu ddau i ymlacio mewn lle bychan o'r enw Huacachina - taith gymharol fer o Lima.

Bygi i'r tywodOnd â'r twyni yno yn gwahodd ac yn hudo rhywun doedd dim gorwedd wrth y pwll i fod.

Caets mawr oren ar olwynion oedd yn cael eu gyrru gan beiriant nerthol iawn a swnllyd tu hwnt ac oedd yn ddigon o faint i gario rhyw ddeg o bobl a gyrrwr gwyllt - dyna oedd y drafnidiaeth y tro yma.

Reid ffair heb gysur cyfreithiau iechyd a diogelwch.

Troi a throi a throi a throi heb cweit droi drosodd.

Plymio yn ddiddiwedd heb cweit chwalu ffrâm y cerbyd. A sŵn a sgrechfeydd y merched yn gyfeiliant i'r cwbl. Tybed oedd y cwmni yn talu iddyn nhw sgrechian - roedd o'n ychwanegu'n rhyfeddol at yr ofn.

Lleoedd dirgel
Aros wedyn ar wefus sych un o'r twyni a llithro bendramwnwgl ar gwmwl o dywod. Sglefrio ar fwrdd oeddan ni a sefyll oedd y syniad.

Es i i lawr ar fy nhin ac ar yr egwyddor nad oedd dim modd imi fynd ddim is - ond roeddwn i'n anghywir - yr unig gysur oedd fod tywod yn llawer cynhesach a mwy cyfforddus nag eira.



TywodfyrddioOnd dydy tywod ddim yn toddi'n ddim yng ngwres corff rhywun. Mae tywod yn cyrraedd llefydd nad oedd rhywun yn gwybod eu bod nhw ganddo fo ac yn aros yno.

Ddyddiau yn ddiweddarach y des i o hyd i waddol o dywod yn y cafn hwnnw sydd o rhwng amrant rhywun a'i lygad!

Ar ôl fy ysgwyd, fy sgrytian, fy nhaflu, fy siglo yn y bygi ac ar y bwrdd roedd hi'n bryd troi am adra a rhyfeddu eto fyth at sut mae gwneud cymaint a phrofi cymaint yn gallu cymryd cyn lleied o amser ac i gyfnod sy'n ymddangos mor bell yn ôl fynd heibio mor gyflym ar yr un pryd.

Ffarwelio a'r wlad fwyaf amrywiol i mi fod ynddi erioed ond edrych ymlaen at gyrraedd yr orau o'r cwbl.





de america

Periw
Rocet ym Mheriw - 1

Rocet ym Mheriw - 5

Rocet ym Mheriw - 4

Rocet ym Mheriw - 2

Rocet ym Mheriw - 3

I Machu Picchu dros gancr




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy