主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Cerdded ym Mheriw Rocet ym Mheriw - 2
Ail erthygl Arwel Rocet Jones am ei daith i Machu Picchu i godi arian tuag at Mind

Yn ôl i wareiddiad
Mehefin 2005
Hanner awr oedd hi cyn i'r person cyntaf orfod mynd ar gefn y ceffiwlans: y ceffylau hynny oedd yn gweithredu fel ambiwlans inni.
A diolch amdanyn nhw.

Erbyn amser cinio roedd tri yn dibynnu arnyn nhw ac yn gorwedd mewn cornel gysgodol yn tynnu'n galed ar y mwgwd ocsigen.

Roedd Machu Picchu bedwar diwrnod a hanner i ffwrdd.

Taith oedd hon o Abra Watu'qása i Machu Picchu ar hyd llwybr sy'n anghyfarwydd i lawer o deithwyr, dim ond ar gyfer y cymal olaf un oedd o'n ymuno a'r llwybr masnachol.

Taith oedd yn cychwyn ar 13,000 o droedfeddi ac yn codi i 15,500, y daith 'sych' uchaf yn y byd yn ôl un o'r tywyswyr a thaith llawer caletach na'r llwybr masnachol.

Ond wrth gwrs mae tywyswyr yn tueddu i ddweud be mae rhywun am ei glywed!

Yn yr eithafion
Tirwedd yr eithafion yw hwn.
Y gwres llethol a'r oerfel rhyfedda. Yr haul yn cynhesu fel tân trydan unwaith oedd o'n dangos ei hun yn y bore ac yn fferru rhywun unwaith oedd o'n troi ei gefn gyda'r nos.

Tirwedd Erbyn yr eilddydd roedd y awyr yn deneuach a'r llwybrau'n fwy serth a dwy wedi gorfod troi yn ôl oherwydd salwch a sawl un dan ofal y meddyg.

Roeddan ni'n disgyn fel dominos a'r ceffiwlans druan yn brysur.

Roedd llwybrau'r Inca yn ymestyn dros 50,000km rhannau helaeth o Dde America - yn rhwydwaith i negeswyr, masnachwyr a bonedd deithio'r deyrnas.

Y negeswyr yn rhedeg cymalau o 25km cyn trosglwyddo eu neges ar lafar i'r negesydd nesa ac yn caniatáu i neges gyrraedd o Cusco i Lima mewn pedair awr ar hugain.

Ond nid yr un llwybrau oedd y bobl yma yn eu defnyddio. Roedd llwybrau gwahanol i'r masnachwyr ac fe roedd llwybrau'r boneddigion wedi eu gorchuddio a thywod i arbed eu traed.

Ar redeg
Fyddwn i'n falch o fod wedi cael tywod i esmwytháu'r daith erbyn y trydydd dydd. Roedd fy nghoesau'n bynafyd ac un bothell fach front yn poeni bys bach fy nhroed dde; ond arna i a neb arall oedd y bai.

Ar ôl llusgo i 15,500 o droedfeddi ym mwlch Chillipahua fe benderfynodd JC (Julius Cesar) un o'n tywyswyr mai'r ffordd orau i ddisgyn y 1,000 o droedfeddi i ginio oedd rhedeg.

Ac fe roedd rhaid i rai ohona ni gael dilyn.

Nadreddu ar wib i lawr y mynydd, y galon yn curo a'r ysgyfaint yn sgrechian am awyr a phob rhyw chwinciad o eiliad roedd rhywun yn dychmygu disgyn, baglu, brifo - coesau wedi eu torri, bigyrnau wedi eu troi, 'sennau wedi chwalu.

Ond roedd hi'n rhy hwyr a'r ras yn llawer gormod o hwyl i stopio.

Y pris am gyrraedd cinio wrth sodlau JC oedd cyhyrau-lawr-allt poenus ac un bothell fach filain - pris bach am brofiad mawr.

Lle allweddol
Cyrraedd Paucarcancha y diwrnod canlynol.
Caer fechan yng ngafl tri dyffryn anferth. Man allweddol i'r Inca ar y llwybr i Machu Picchu o ran amddiffyn, masnach, negeseuon ac astroleg.

Llymaid i'w yfedAros yno i fusnesu am sbel cyn troi'r gornel am ginio.

Yno roedd caffi yn gwerthu Coke a Pilsner ac yn cynnig y newyddion ar y radio. Caffi wedi ei osod yng ngafl tri dyffryn man allweddol i'r teithwyr ar y llwybr i Machu Picchu ...

O yma ymlaen roeddan ni'n ymuno â'r llwybrau masnachol ac yn gweld twristiaid am y tro cyntaf. Creaduriaid oedd mor wahanol i ni oedd wedi troedio llwybr mor anodd!!

Roedd siopau i'w gweld yma ac acw a'r terasau cywrain oedd wedi eu datblygu mor gelfydd gan yr Inca at ddibenion amaethu fel petaen nhw wedi eu cynllunio'n arbennig ar gyfer rhesi hir o bebyll.

Arallgyfeirio ar gyfer anghenion canrif newydd.

Porth yr Haul
Roedd y llwybr i Machu Picchu yn dringo ac yn disgyn trwy goedwig laith ac aroglau bywyd yn drwm ymhobman o gymharu ag awyr denau a thir anial y tiroedd uchaf - dim ond ar saith mil o droedfeddi o uchder oeddan ni erbyn hyn.

Cyrraedd Porth yr Haul a chael ein golwg gyntaf ar y ddinas chwedlonol. Eiliad fawr oni bai fod gormod o bobl yno i brofi unrhyw wefr ryfeddol a gormod o haul i dynnu llun!

Dringo i lawr i'r ddinas a sylweddoli rhyfeddod y lle - rhyfeddod ei phensaernïaeth a'i lleoliad daearyddol ac astrolegol.

Y cyfan, yn dai a chytiau a themlau a therasau wedi eu creu heb yr olwyn nac unrhyw arfau modern.

GwareiddiadCreigiau anferth wedi eu hollti'n gyfewin fanwl drwy ddefnyddio disgyrchiant ac elfennau natur.

Creigiau wedi eu gosod mewn modd oedd yn gwrthsefyll daeargrynfeydd ac wedi eu gosod yn union i gyfateb a gwahanol nodweddion allweddol y byd a'r bydysawd.
Camp i'n gwareiddiad ni.

Cyrraedd y nod
Troi am Aguas Calientes a'r daith ar ben.
Y nod wedi ei gyflawni, cant a hanner o filoedd o bunnoedd wedi ei godi er budd Mind.

Troi am y dref fechan o anrhegion gwyliau a thai bwyta, caffis rhyngrwyd, bariau a disgos a rhesi ar resi ar resi o fysiau a chefnu ar wareiddiad.






cysylltiadau


de america

Periw
Rocet ym Mheriw - 1

Rocet ym Mheriw - 5

Rocet ym Mheriw - 4

Rocet ym Mheriw - 2

Rocet ym Mheriw - 3

I Machu Picchu dros gancr




About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy