主播大秀

Yr Urdd: R锚l sioe Mickey Mouse - am ddiwrnod!

Mickey ac Efa Gruffudd Jones

Ar ei ymweliad cyntaf ag Eisteddfod yr Urdd heddiw cafodd Mickey Mouse groeso urddasol.

Ac er iddo wrthod cael tynnu ei lun gyda Mr Urdd fe gafodd Prif Weithredwr yr Urdd, Efa Gruffudd Jones, gwts a chusan ganddo.

Y ddau wrth eu boddau yn 么l y w锚n ar eu hwynebau.

Disgyblion Ysgol Llanfachraeth gyda Mickey

Yr oedd Mickey yn yr Eisteddfod i ddathlu cydweithio rhwng y mudiad a Disneyland Paris sy'n golygu "partneriaeth gyffrous" ynghlwm 芒 G诺yl Gymreig flynyddol yn Disneyland Paris.

Mae Disneyland Paris yn cynnig cyfle heb ei ail i bum enillydd yn yr Eisteddfod i gymryd rhan yn yr 糯yl Gymreig honno yn 2010.

"Dyma gyfle cyffrous iawn i gydweithio ac yn rhoi cyfleoedd newydd i'n aelodau i arddangos eu talentau i gynulleidfa newydd," meddai Cyfarwyddwr yr Eisteddfod Aled Si么n.

"Enghraifft arall o sicrhau fod ein ieuenctid yn cael profiadau newydd i'w cynorthwyo i dyfu fel unigolion," meddai.

"Mae'r cydweithio yma gydag enw cydnabyddedig byd-eang ym maes adloniant yn rhywbeth rwy'n edrych ymlaen i'w weld yn datblygu dros y blynyddoedd sydd i ddod."

Disgyblion Ysgol Abernant gyda Mickey

Eglurodd mai trwy gysylltiad 芒 Chymro o'r enw Peter Illtyd Welch y daeth y trefniant i fwcwl. Ef yw Is Lywydd Gwerthiant, Disney Destaniations UK.

Ac er nad oedd yn yr Eisteddfod anfonodd neges yn dweud:

"Yn Gymro balch fy hun, rwyf wrth fy modd yn gallu ffurfio perthynas gydag Urdd Gobaith Cymru, fydd yn dathlu talent anhygoel ieuenctid Cymru, gan wireddu rhai o'u breuddwydion, a galluogi iddynt gymryd rhan yn Disneyland Paris.

"Dathlu ydy thema'r flwyddyn hon, gyda Pharti Hudol Mickey's Magical Party yn digwydd yn y Park, felly rydan ni wrth ein bodd ein bod yn gallu dod 芒 pheth o'r dathliadau i Gymru, a hoffem ddymuno pob lwc i bawb sy'n cymryd rhan heddiw." Dros y pedair blynedd diwethaf mae mae Mickey a Minnie wedi ymddangos mewn gwisg Gymreig draddodiadol yn nystod yr wythnos Gymraeg ac yr oedd Draig Goch ar ei gefn ar gyfer ei ymweliad cyntaf erioed ag Eisteddfod yr Urdd.


主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.