主播大秀

Agor gyda phasiant meithrin

Cyw - un o'r gwesteion arbennig

Y digwyddiad cyntaf ym mhafiliwn yr Eisteddfod y bore 'ma fydd pasiant yr ysgolion meithrin am hanner awr wedi deg.

Bydd dros 130 o blant rhwng dwy a phedair oed o gylchoedd meithrin sir Caerffili yn cymryd rhan.

Dyma'r Pasiant Meithrin cyntaf erioed ar lwyfan Eisteddfod Genedlaethol Yr Urdd ac fe fydd yn para am oddeutu ugain munud cyn y seremoni agoriadol.

Martyn Geraint

Sgriptiwyd Cwm Ni gan Cerys Ash a Mari George.

"Mae llawer o'r caneuon yn y Pasiant yn gymysgedd o hen ffefrynnau yn y cylchoedd a chaneuon oddi ar CD'r 糯yl Feithrin Fy Ffrindiau a Fi gan Martyn Geraint," meddai Cerys sy'n un o'r gyfarwyddwyr.

Hefyd, bu Eleri Dafydd a Nia Parker, Swyddogion Datblygu Mudiad Ysgolion Meithrin yng Nghaerffili yn hyfforddi'r plant yn y cylchoedd.

"Dwi wedi mwynhau gweithio gyda'r plant o'r cylchoedd meithrin lleol - ac mae'r plantos wrth eu boddau yn cymryd rhan. Mae'r plant wedi bod yn wych ac er mai ifanc ydyn nhw, mae'n nhw'n canu'n wirioneddol dda," meddai Nia.

Ac meddai Mererid Lewis Davies, Cyfarwyddwr Talaith y De, y Mudiad Ysgolion Meithrin:

'Rydym yn ddiolchgar iawn i'r Urdd am eu cydweithrediad parod 芒 ni er mwyn inni gael perfformio'r Pasiant Meithrin cyntaf erioed ar lwyfan Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.

"Dydi nifer fawr o'r plant a'r rhieni sy'n ymwneud 芒'r pasiant erioed wedi mynychu Eisteddfod yr Urdd o'r blaen ac mae'n wych ein bod ni'n cael y cyfle i dynnu cynulleidfa newydd i'r Eisteddfod."

Y cylchoedd

Y Cylchoedd Meithrin sy'n cymryd rhan yw: Tonyfelin, Llanbradach, Yr Enfys, Nelson, Penpedairheol, Tedi Twt, Rhymni, Aberbargoed, Coed Duon, Pontllanffraith, Cwm Derwen, Cwm Gwyddon a Dewi Sant.

Ac yn westeion arbennig: Rebecca Parfitt fel 'Sali Mali', Daniel Parfitt fel 'Jac Do', Megan Horne a Carla Lewis fel 'Dau Gi Bach' a Martyn Geraint a Cyw o S4C.


主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.