主播大秀

'Ysgoloriaeth dros baned' - Bryn Terfel

Bryn Terfel

Canwr gorau Cymru 'yn methu cael llwyfan!'

Yn dilyn sgwrs dros baned o de y sefydlwyd ysgoloriaeth sydd wedi tyfu i fod yn un o wobrwyon pwysicaf Eisteddfod yr Urdd bob blwyddyn.

Eglurodd Bryn Terfel mai yn dilyn sgwrs "dros gwpanaid o de" rhyngddo ef a Jim O'Rourke, a oedd yn drefnydd yr Eisteddfod ar y pryd, y sefydlwyd yr ysgoliaeth sy'n dwyn enw canwr enwocaf Cymru y cyfnod hwn.

Yno i ddathlu

Yr oedd Bryn Terfel yn yr Eisteddfod ddoe i ddathlu deng mlwyddiant yr ysgoloriaeth gyda chyngerdd o'r holl enillwyr.

"Yr oedd angen rhyw fath o ysgoloriaeth i'r Eisteddfod a chan ein bod ninnau fel ardal yng Ngwynedd yn perfformio gydag artistiaid o fri digon hawdd odd gwneud y penderfyniad o gael ysgoloriaeth," meddai mewn cynhadledd i'r Wasg.

"Ond da ni wedi cael rhyw fformat bendigedig sydd yn rhoi cyfle i bob math o artistiaid - a dwi'n gobeithio rywbryd y bydd yna ddawnswraig neu rywun yn gwneud dawns y glocsen yn ennill - ond da ni wedi cael dipyn o offerynnau. Mae gynno ni heno ma glarinet, ffidil, llefarwyr a chantorion o fri ac i wedi cael y cyfle wrth gwrs i ddechrau perfformio ar lwyfan drwy'r Eisteddfod ac ar y cledrau cywir rwan ac yn disgleirio yn eu meysydd," meddai.

Heb ffitio i faneg yr Urdd

Ond cyfaddefodd nad oedd ef ei hun yn gystadleuydd Urdd nodweddiadol.

"Doeddwn i ddim yn ffitio i faneg yr Urdd ers talwm. Doeddwn i ddim yn [cael drwodd] i fynd ar y llwyfan tan Eisteddfod yn yr Wyddgrug lle, rhyw ffordd neu'i gilydd bondigrybwyll fe enillwyd unawd bariton a honno yw'r Eisteddfod sy'n hel atgofion mwyaf melys.

"Mae o'n rhyw fath o ddwy reng ar yr ysgol i wneud y penderfyniad i fynd ymlaen yn broffesiynol.

"Ond doeddwn i ddim yn hoff iawn o godi'n gynnar fore Sadwrn i fynd i wneud yr ymarferion [ar gyfer yr Urdd], " meddai.

'Cylch crwn yr Urdd'

Disgrifiodd yr ysgoloriaeth fel arwydd o "gylch crwn yr Urdd" yn cwmpasu llefaru, canu offeryn, canu, actio a dawnsio.

A phan ofynnwyd iddo beth fyddai ei ymateb pe byddai ef wedi ennill ysgoloriaeth o'r fath dywedodd:

"Mae'r ysgoloriaeth y flwyddyn yma yn 拢4,000 a'r nod pan ddechreuwyd hi oedd i ddal yr aderyn cyn iddo hedfan o'r nyth. A'u dal nhw, boed ar 么l ysgol neu cyn mynd i goleg ac wrth gwrs fe allai'r arian yna fod yn berffaith i unrhyw berwyl boed o'n brynu cerddoriaeth , cael gwersi ychwanegol , boed o'n brynu clogiau , sgidia, cerddoriaeth, siwtiau, mi fuaswn i wedi ei dderbyn o gyda dwy law agored."


主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.