主播大秀

Ffawd - sioe sy'n gofyn cwestiynau mawr

Criw Ffawd

Sioe sy'n gofyn ai ni sydd yn gyfrifol am y penderfyniadau a wnawn ac am fapio ein bywydau allan yw un Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd a gyflwynir yng Nghanolfan y Mileniwm yn ystod wythnos yr Eisteddfod.

Yn y sioe gerdd, Ffawd gan Siwan Jones holir a oes yna rywbeth uwchlaw rheolaeth yr unigolyn yn ei arwain i lawr y llwybrau penodol ac yn gwneud penderfyniadau drosto.

"Beth yw ffawd? Ai ffawd yw'r lleisiau yn ein pennau: ein cydwybod, ein heuogrwydd, ein hamheuon, ein dyheadau. Ai ffawd felly sydd yn ein harwain i lawr y llwybrau sydd wedi eu gosod i ni mewn bywyd?" yw'r math o gwestiynau y ceisir eu hateb.

Hefyd; "Er ein bod yn gwneud camgymeriadau ac yn ymlwybro oddi ar y llwybr cywir o bryd i'w gilydd, a oes gan ffawd y grym i sicrhau ein bod, yn ddi eithriad, yn dod yn 么l at y llwybr cywir?"

Cwestiynau digon mawr i ddychryn ambell un sy'n chwilio am adloniant i amau a fydd hon yn sioe rhy drymlwythog iddo - ond heb amheuaeth bydd sylweddoli mai yr un yw yr awdur ag awdur Con Passionate a Tair Chwaer a aeth i lawr mor dda ar S4C dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae hynny'n sicrhau y bydd edrych ymlaen mawr at y sioe gyda cherddoriaeth gan Huw Chiswell, Caryl Parry Jones, Dyfan Jones ac Eric Jones a chyda Carys Edwards yn cyfarwyddo.

Mae'r sioe wedi ei lleoli mewn pentref glan m么r yng nghefn gwlad Cymru gyda theulu o gefn gwlad Sir Gaerfyrddin yn ganolbwynt y stori.

Mae Dai, y tad, yn ychydig o Jack of all trades, sydd 芒 chynllun i adeiladu melin wynt ar ei dir fydd yn galluogi'r pentref fod yn hunan gynhaliol ond ei wraig, Marion, wedi cael llond bol ar ei obsesiwn. Mae ganddynt dri o blant yn eu harddegau; Dylan, Cez a Seimon.

Wedi ei swyno gan fentrwr cyfoethog mae Marion yn symud allan o'r cartref teuluol yn y gobaith o gael bywyd gwell.

Mae pob cymeriad yn y sioe o 120 o gast i gyd yn cael ei dynnu ddwy ffordd ac yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd sydd yn effeithio'n sylweddol ar eu bywydau.

Prif Gymeriadau Ffawd

  • Ceri Wyn Griffith: Y Traethydd. O'r Felinheli ger Bangor. Cyn aelod o Ysgol Uwchradd Tryfan ac aelod o Ysgol Glanaethwy. Ar flwyddyn allan cyn mynd i'r brifysgol. Rhan o gast Les Miserables (2005).
  • Garmon Rhys: Dai, Y tad sydd a'i fryd ar achub y blaned ac adeiladu melin wynt. Mae'n byw yn Ninbych ac ar ei flwyddyn olaf yn Ysgol Glan Clwyd. Roedd yn aelod o Gwmni Theatr yr Urdd yn y Gogledd yn 2006-07 a 2007-08.
  • Elliw Mai: Marion, gwraig Dai. Yn wreiddiol o Riwlas ger Bangor ac ar ei thrydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae hi'n cystadlu'n gyson yn Eisteddfod yr Urdd ac wedi llwyddo i ymgeisio am Ysgoloriaeth Bryn Terfel ddwywaith yn olynol.
  • Steffan Harri Jones: : Dylan, mab hynaf Dai a Marion. Yn fab ffarm o Ddolanog ger y Trallwngac ar ei flwyddyn gyntaf yn chweched dosbarth Ysgol Uwchradd Caereinion. Roedd yn aelod o Gwmni Theatr yr Urdd yn y Gogledd y llynedd. Yn chwarae'r brif ran yng nghynhyrchiad Theatr Maldwyn o Pum Diwrnod o Ryddid.
  • Rhys Owain Ruggiero: Richard, g诺r busnes sy'n swyno Marion. Mae Rhys yn byw ym Mae Cinmel ger Y Rhyl ac ar ei flwyddyn olaf yn Ysgol Uwchradd Glan Clwyd. Mae'n aelod o'r cwmni Theatr ers 2005. Yn ddisgybl yn Ysgol Glanaethwy. Roedd yn y c么r yng nghystadleuaeth Last Choir Standing.
  • Elin Wyn Williams: Lleuwen, merch Richard sydd mewn perthynas 芒 Dylan. Mae Elin o San Cl锚r ar ei blwyddyn olaf yn Ysgol Bro Myrddin ac yn gobeithio mynd i Goleg drama ym mis Medi.
  • Dyfed Cynan: Rhodri, mab Richard. Yn byw yng Nghaerdydd mae Dyfed ac ar ei flwyddyn olaf yn Ysgol Bro Morgannwg. Roedd yn aelod o Les Miserables (2005). Yn bwriadu mynd i goleg drama y flwyddyn nesaf. Bu yntau yn perfformio yn Les Miserables
  • Ianto Llwyd Phillips: Terry, mewnfudwr o Birmingham sy'n cadw'r dafarn gyda'i wraig. Mae Ianto ym mlwyddyn 12 yn ysgol Plasmawr ac wedi bod yn aelod o Gwmni Theatr yr Urdd yn y De ers peth amser. Mae'n bwriadu dilyn cwrs theatr gan ganolbwyntio ar yr ochr dechnegol wedi iddo gwblhau ei astudiaethau lefel A.

Lluniau actorion y prif gymeriadau


主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.