主播大秀

Llywydd dydd Mawrth - Jason Mohammad,

Jason

Jason Mohammad, wyneb cyfarwydd ar deledu'r 主播大秀 yng Nghymru, ydi Llywydd y Dydd, heddiw.

Wrth dderbyn yr anrhydedd talodd deyrnged i weithgarwch yr Urdd ymhlith pobl ifainc.

"Rwy'n falch iawn fy mod wedi cael fy newis gan yr Urdd i fod yn Llywydd y Dydd eleni," meddai.

"Mae cyfraniad yr Urdd a'r Eisteddfod yn enfawr i fywyd Cymru ac mae'r Eisteddfod yn rhoi cyfle i blant o bob oed a chefndir i ddod i'r brig ac arddangos eu talentau.

"Fel tad, gallaf werthfawrogi pa mor bwysig yw hi i annog plant i fod yn rhan o rywbeth sy'n rhoi cymaint o fudd a hunanhyder iddynt."

Wedi ei eni a'i fagu yng Nghaerdydd, aeth Jason ymlaen i astudio Cymraeg a Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe. Wedi graddio, dychwelodd i'r brifddinas i astudio cwrs 么l raddedig mewn Newyddiaduraeth.

Ymunodd Jason 芒 主播大秀 Cymru ym 1997, ac mae wedi bod yn darlledu ac yn cyflwyno fyth oddi ar hynny. Gweithiodd fel gohebydd ar gyfer Wales Today yng ngogledd Cymru, mae wedi ffilmio cyfres o eitemau yn Ne Affrica, Efrog Newydd ac yn fwy diweddar o Awstralia yn ystod Gemau'r Gymanwlad yno.

Jason yw un o gyflwynwyr newyddion a chwaraeon mwyaf profiadol 主播大秀 Cymru. Mae wedi cyflwyno Wales Today, Sports Wales, chwaraeon byw yn ogystal 芒'r rhaglen rygbi boblogaidd, Scrum V.

Mae ganddo ddiddordeb mawr ym maes chwaraeon ac wedi gohebu o sawl cystadleuaeth amlwg fel Cwpan Ryder, Cwpan yr FA yn ogystal 芒'r frwydr rhwng Joe Calzaghe a Bernard Hopkins yn Las Vegas.

Bu hefyd yn cyflwyno rhaglen Plant Mewn Angen y 主播大秀 a rhaglen Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn 主播大秀. Mae hefyd i'w glywed yn cyflwyno Good Morning Wales ac ef yw capten y gystadleuaeth gwis chwaraeon ysgafn Extra Time ar 主播大秀 Radio Wales.

Fel actor mae wedi ymddangos yn Doctor Who ddwywaith, yn fwyaf diweddar ym mhennod Nadolig 2007, lle bu'n cadw cwmni i David Tennant a Kylie Minogue, tra'n chwarae rhan y gohebydd newyddion.

Yn ei amser rhydd, mae wrth ei fodd yn treulio amser gyda'i wraig, a'i blant, Lilly a Max, a chefnogi ei hoff d卯m p锚l-droed, Clwb Caerdydd.


主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.