主播大秀

Parti pen-blwydd Eisteddfod yr Urdd yn 80 oed

Parti penblwydd Eisteddfod yr Urdd yn 80 oed

Bu parti arbennig yn fflat Mistar Urdd ar faes yr Eisteddfod heddiw, i ddathlu pen-blwydd yr Eisteddfod yn 80 oed.

Bedwar-ugain o flynyddoedd yn 么l, cynhaliwyd Eisteddfod gyntaf yr Urdd yng Nghorwen ym 1929 - g诺yl oedd yn dra gwahanol i'r digwyddiad mawreddog rydym yn gyfarwydd a hi bellach.

Dros ddeuddydd yn unig y bu'r Eisteddfod gyntaf honno a'r prif ddigwyddiadau oedd gorymdaith fawr a seremoni i urddo tair brenhines yr Eisteddfod ar orseddau unigryw.

Parti penblwydd Eisteddfod yr Urdd yn 80 oed

Dawnsio, hwyl a chacen!

I ddathlu'r pen-blwydd arbennig yma, daeth degau o blant a phobl ifanc i fflat Mistar Urdd, ble oedd Cadi a Dai (Catrin Evans ac Arwel Wyn Roberts) - arweinwyr y jambori newydd, Rimbojam yn arwain pethau. Rhoddwyd addewid ar ddechrau'r parti y gallwn ddisgwyl iddo fod fel pob parti da, gyda "digon o ddawnsio, digon o hwyl, a digon o gacen" - a dyna gafwyd!

Wedi'r canu a'r dawnsio, gwnaeth Mistar Urdd ei hun ymddangosiad, gan wahodd y dorf i mewn i'w fflat i barhau'r dathliadau - a chael teisen ben-blwydd a gwydraid o sudd oren.

Parti penblwydd Eisteddfod yr Urdd yn 80 oed

Blwyddyn arbennig i'r Eisteddfod

Ac wrth i'r parti barhau y tu mewn i'r Fflat, roedd balwnau a gemau syrcas y tu allan i'r plant eu mwynhau. Yn 么l Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru:

"Mae hon yn flwyddyn arbennig i Eisteddfod yr Urdd, ac mae'n addas mai yma yn y brifddinas yr ydym yn dathlu'r achlysur.

"Mae'r Eisteddfod yn ddigwyddiad cwbl wahanol i'r Eisteddfod gyntaf honno 80 mlynedd yn 么l. Mae'r 诺yl bellach yn esblygu, yn denu 15,000 o gystadleuwyr, a 100,000 o ymwelwyr yn flynyddol i ddathlu talent ieuenctid Cymru, ein diwylliant a'r iaith Gymraeg".

Penblwydd-hapus Eisteddfod yr Urdd!


主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.