主播大秀

Pasiant Meithrin fore Llun

Abertawe 2011

25 Mai 2011

Mae'r Pasiant Meithrin wedi dod yn rhywbeth y mae edrych ymlaen mawr ato yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.

A pheth cyntaf fore Llun yn Abertawe bydd 200 o blant rhwng dwy a phedair oed o gylchoedd meithrin Abertawe ar y prif lwyfan.

Dyma'n wir, am chwarter wedi deg, ddigwyddiad cyntaf yr wythnos ac yn para am ugain munud.

Sgriptiwyd y pasiant, 'Dathlu', gan Nia Jones, Dirprwy Bennaeth Ysgol Gynradd Gymraeg Llwynderw.

"Gan fod Mudiad Meithrin yn dathlu ei ben-blwydd yn ddeugain oed eleni, naturiol felly oedd dewis Dathlu yn thema ond yn ogystal 芒 dathlu pen-blwydd y Mudiad mi fyddwn ni'n dathlu llawer o bethau eraill sy'n berthnasol i Gymru ac i blant bach y cylchoedd meithrin," meddai.

Addaswyd a sgrifennwyd llawer o'r caneuon a fydd yn cael eu canu gan Dawn Bowen.

Mae'r Pasiant hefyd yn cynnwys tair c芒n wreiddiol sydd wedi cael eu cyfansoddi a'u sgwennu yn arbennig i'r Mudiad gan Paul Gregory.

Carolyn Stock, Swyddog Datblygu'r Mudiad yn Abertawe yw un o drefnwyr y Pasiant.

"Mae'r plant wrth eu boddau yn cymryd rhan, ac mi fydd yn brofiad bythgofiadwy i'r plant a'u teuluoedd. Rydyn ni'n ddiolchgar iawn i Ysgol Gynradd Gymraeg Llwynderw am helpu i sgriptio'r Pasiant ac i'r disgyblion o flwyddyn chwech a fydd yn cyflwyno'r golygfeydd rhwng y caneuon," meddai.

Ond fydd popeth ddim drosodd wedi i'r perfformwyr gilio o'r llwyfan gan y bydd sawl parti i ddathlu'r Pasiant yn uned Mudiad Meithrin ar y maes am weddill y bore a thystysgrifau yn cael eu rhoi i bob plentyn a gymerodd ran.


主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.