主播大秀

Bryn a Marian yn derbyn yr ugeinfed tlws

Bryn a Marian yn y derbyniad i enillwyr Tlws John a Ceridwen Hughes

07 Mehefin 2012

Nos Iau ar lwyfan pafiliwn Eisteddfod yr Urdd mae Marian a Bryn Tomos o Fangor yn derbyn Tlws John a Ceridwen Hughes.

Mae'r tlws yn cael ei roi yn flynyddol i unigolion sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i fywyd ieuenctid Cymru, ac eleni mae'n 20 mlynedd ers i'r tlws gael ei chyflwyno am y tro cyntaf.

Ar y maes ddydd Iau roedd cyn enillwyr yr 20 mlynedd diwethaf yn bresennol i gofnodi'r 'pen-blwydd'.

Yn eu mysg roedd yr enillydd cyntaf, Medwyn Williams. Cyflwynwyd y tlws iddo yn Eisteddfod Bro Glynd诺r yn 1992 am ei waith gydag Aelwyd yr Urdd ym Mhorthmadog.

"Rydw i wedi dweud wrth Bryn a Marian am fwynhau'r profiad a'r cyfle i roi sylw iddyn nhw am y gwaith caled maen nhw wedi ei wneud," meddai Medwyn.

Medwyn Williams mewn derbyniad ar y maes
Medwyn Williams oedd enillydd cyntaf
Tlws John a Ceridwen Hughes

"Mae cymaint mwy na'r enillwyr sydd yma heddiw yn gwirfoddoli efo'r Urdd a mudiadau eraill - mae nifer fawr yn gysylltiedig efo'r Urdd a Mudiad y Ffermwyr Ifanc, a heb y degau a'r cannoedd o bobl sy'n arwain aelwydydd ac adrannau fyddai 'na ddim Urdd, a dim cyfleoedd i bobl ifanc drwy gyfrwng y Gymraeg," ychwanegodd.

Dewi a Gerallt Hughes sydd yn rhoi'r tlws, er cof am eu rhieni, John a Ceridwen, oedd yn weithgar iawn yn maes ieuenctid.

Eglurodd Dewi Hughes pam eu bod yn teimlo fod angen tlws o'r fath: "Yr oeddem yn teimlo fod cenedlaethau o ieuenctid wedi'u breintio o gyfraniad ac arweiniad sylweddol gwirfoddolwyr teyrngar ac roeddem yn gofidio mai prin, efallai, y talwyd gwrogaeth haeddiannol a dyladwy iddynt.

"Mae'r gwirfoddolwyr hyn yn gosod sylfaen ac esiampl arbennig i eraill eu dilyn ac yn cymell ein hieuenctid i werthfawrogi a mynegi eu hunain drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg a'i diwylliant cyfoethog.

"Bu i Efa Gruffudd Jones s么n yn gynharach eleni am bwysigrwydd gwirfoddolwyr ym myd ieuenctid. Ategwn hynny gan obeithio fod y tlws hwn yn enw ein rhieni yn atgyfnerthu'r alwad ac yn tanlinellu pwysigrwydd arweinwyr heddiw i gynorthwyo ieuenctid i osod seiliau cadarn a chyfrannu i'w cyd-ddyn a'u cymuned fel ei gilydd," ychwanegodd.

Cafodd Bryn a Marian, sef enillwyr y tlws eleni, eu henwebu gan aelodau'r Urdd a rhieni'r ardal am eu gwaith yn cynnal Uwch Adran ac Aelwyd Bangor yn wythnosol ers 2004. Bellach mae dros 80 o blant yn mynychu'r Uwch Adran, a dros 35 yn aelodau yn yr Aelwyd.

Yn 么l Marian: "Mae'n andros o anrhydedd a dydy rhywun ddim yn gwneud y gwaith bob wythnos er mwyn derbyn diolch na chlod - rydyn ni'n ei wneud am ein bod yn mwynhau ei wneud o. Mae meddwl bod yr holl bobl 'ma wedi meddwl ein bod ni yn haeddu gwobr am y gwaith yn anhygoel. Dwi'n ddiolchgar iawn iddyn nhw am ein henwebu ni ac am y pethau caredig maen nhw wedi ddweud. Mae'n cymryd amser i ddod i arfer ein bod wedi ennill!"

Ychwanegodd Gruff Pari sydd ym mlwyddyn 9 Ysgol Tryfan, ac yn un o selogion yr Uwch Adran: "Rwyf yn mynd i Uwch Adran Bangor bob nos Iau ac yn mwynhau cael cyfle i weld fy ffrindiau ar 么l ysgol mewn amgylchedd braf. Mae Bryn yn ddyn trefnus ac mae gwahanol weithgareddau difyr yn cael eu trefnu ar gyfer y nosweithiau gan gynnwys gemau, bandiau byw, siaradwyr gwadd a chwaraeon. Er bod nifer fawr o blant yn dod i'r uwch adran mae Bryn yn llwyddo i gadw trefn heb godi ei lais ormod! Dwi'n edrych ymlaen at nos Iau bob wythnos."


C2

C2 - Magi Dodd

Dilyn C2

Cynnwrf, gwefr a chyffro C2 ar y we

Dysgu

Merch yn adolygu

Bitesize TGAU

Nodiadau adolygu, gweithgareddau a phrofion i fyfyrwyr TGAU.

Mabinogi

Gemau Mabinogi

Rhowch gynnig ar chwarae gemau newydd sbon y pedair cainc y Mabinogi.

Plant

Dewch i fyd hudol Tree Fu Tom am gemau, anturiaethau a swynau!

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.