主播大秀

Eryri 'Ar Gof a Chadw' yn y Sioe Cynradd

Y Cyfarwyddwr Ken Hughes gyda thri o'r plant sy'n ymddangos yn y sioe cynradd, Ela, Rhys a Gwion

03 Mehefin 2012

Chafodd dim un o blant Eryri oedd yn y dymuno cymryd rhan yn sioe cynradd Eisteddfod yr Urdd eleni eu gwrthod i'r sioe, yn 么l y cyfarwyddwr Ken Hughes.

Golyga hynny y bydd 'na 400 o blant yn ymddangos ar lwyfan y Pafiliwn nos Fawrth a nos Fercher!

Mae Ar Gof a Chadw yn adrodd hanes prif ddigwyddiadau pum cwmwd yn Eryri: Dyffryn Ogwen, Arfon, Dyffryn Nantlle, Eifionydd a Ll欧n.

"Mae'r syniad gwreiddiol am y sioe yn dod o ddarluniau sydd gen i o ardal Eryri sy'n croniclo digwyddiadau pwysig yn fy hanes," meddai Ken Hughes, Prifathro Ysgol Eifion Wyn, Porthmadog am dros 20 mlynedd.

Ychwanegodd iddo sylweddoli mor bwysig ydy lluniau wedi iddo golli ei fam rai blynyddoedd yn 么l, a chanfod nad oedd ganddo unrhyw luniau ohoni.

Rhys a Ken Hughes mewn cynhadledd i'r wasg
Y Cyfarwyddwr Ken Hughes gyda, Rhys,
sydd yn chwarae rhan Math yn y sioe

Penderfynodd ef a'r sgriptwyr - Nia a Medwen Plas a Rhian Parry - roi ar gof a chadw 'luniau' o Eryri a'i holl hanes.

"Mi gawn ni hanes a thraddodiad chwareli yn Nyffryn Ogwen; hwyl a miri'r Castell yn Arfon; hud y dyffryn a hanes Blodeuwedd yng ngolygfa Dyffryn Nantlle; darluniau o hen longau, yr hufenfa a Mart Bryncir yn Eifionydd a glan y moroedd yn Ll欧n," meddai.

"Ges i fraw o ddeall bod cymaint o ddisgyblion mor awyddus i fod yn rhan o'r sioe," eglura gan gyfaddef iddo bron ag ail-feddwl am ymgymryd 芒'r cyfarwyddo!

Ond, meddai, fel prifathro, roedd wedi blino gorfod dewis pwy oedd yn cael cymryd rhan mewn gweithgareddau a phwy oedd yn gorfod cael eu gwrthod, ac felly penderfynodd y byddai pawb oedd eisiau yn cael rhan.

"Mae gweld cymaint ohonyn nhw yn dod ynghyd ac yn mwynhau'r profiad a'r cyfle yn werth chweil i ni fel criw," meddai.

Fel rhywun sy'n awyddus i 'wneud ei ran' drwy gyflwyno profiadau theatrig yn y Gymraeg i blant, dywedodd mai un amod oedd ganddo, sef bod yn rhaid siarad Cymraeg yn yr ymarferion.

"Ac mi alla i ddweud," ychwanegodd, "yn y 44 ysgol, o Ben Ll欧n i Dregarth, mae'r Gymraeg yn fyw yn yr ysgolion ac yn byrlymu ar wefusau'r disgyblion."

Rhys Glyn sydd wedi cyfansoddi'r gerddoriaeth ar gyfer y sioe a Pat Jones sy'n arwain y plant yn yr ymarferion cerddorol. Ymysg y t卯m o athrawon sydd wedi bod yn tiwtora a bugeilio yn ystod yr ymarferion mae Huw Edward Jones o Ysgol Llanllechid a Ceri Wyn o Ysgol yr Hendre, y ddau wedi chwarae rhan flaenllaw yn cynorthwyo Ken gyda'r gwaith cynhyrchu. Edward Elias sydd yn gyfrifol am y llwyfannu.

Bydd y perfformiadau i'w gweld yn y Pafiliwn ar y Maes nos Fawrth 5 Mehefin a nos Fercher 6 Mehefin 2012 am 8pm.

.


Plant

Dewch i fyd hudol Tree Fu Tom am gemau, anturiaethau a swynau!

C2

Huw Stephens Yn ei Gr诺f!

G锚m: Yn y Gr诺f

Rhowch dro ar g锚m C2 - hwyl a sbri wrth ddewis Huw a mwy fel cyflwynydd!

Ffeil

Darllenwch y penawdau newyddion a'r chwaraeon diweddaraf a gwylio'r rhaglen.

Bitesize TGAU

Logo Bitesize

Cymorth adolygu

Gweithgareddau, testun adolygu, fideos, clipiau sain a phrofion!

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.