主播大秀

Atgyfodi'r Fari Lwyd

Mari Lwyd ar y maes

06 Mehefin 2012

Roedd prosesiwn o geffylau Mari Lwyd yn cerdded drwy'r faes Eisteddfod yr Urdd yng Nghlynllifon ddydd Mercher er mwyn tynnu sylw at brosiect i helpu i adfywio y traddodiad drwy Gymru.

Ar un adeg, roedd y Fari Lwyd yn rhan o ddathliadau'r flwyddyn newydd drwy Gymru ond erbyn hyn mae'n draddodiad a gysylltir yn bennaf 芒 de ddwyrain y wlad, er ei bod yn ymddangos hefyd yn nathliadau Cadi Ha' Sir y Fflint.

Mae mudiad Trac - Traddodiadau Cerddorol Cymru - wedi cael cyllid o 拢6,700 i gynnal prosiect i helpu i adfywio'r traddodiad.

Bwriad y prosiect ydy darparu adnoddau a gwethdai ar arferion traddodiadol y Fari Lwyd, gan gynnwys gwersi cerddoriaeth a dawns a model 'pacio'n fflat' o benglog ceffyl, i ateb y broblem o ddod o hyd i benglog ceffyl go iawn ar gyfer creu y Fari.

Bu Trac yn Ysgol Gynradd Nefyn yn ddiweddar i gynnal gweithdai i hyrwyddo'r traddodiad a pharatoi'r ceffylau gyda'r plant ar gyfer cymryd rhan yn y perfformiad yn yr Urdd.

Meddai Gwawr Howel, athrawes yn Ysgol Gynradd Nefyn: "Rydym wedi bod yn ffodus iawn i fod yn un o'r ysgolion cyntaf i gymryd rhan ym mhrosiect Fari Lwyd.

"Yn ogystal 芒 chefnogi'r cwricwlwm, fe gipiodd y gweithdai ymarferol ddychymyg y plant a datblygu sgiliau newydd a gwell dealltwriaeth o'u treftadaeth a diwylliant."

Meddai Danny Killbride, Cyfarwyddwr Trac: "Trwy gydol y prosiect byddwn yn ymweld ag ysgolion a grwpiau cymunedol ... Gobeithio y bydd y sgiliau hyn yn cael eu pasio ymlaen rhwng grwpiau cymunedol wedyn, gan ehangu gwybodaeth ac arfer traddodiad y Fari Lwyd ledled Cymru."


Plant

Dewch i fyd hudol Tree Fu Tom am gemau, anturiaethau a swynau!

G锚m y Gof

G锚m y Gof

Chwarae

Gweithia dy ffordd trwy'r pedair lefel i ddod yn feistr yng ngefail y castell.

Bitesize TGAU

Logo Bitesize

Cymorth adolygu

Gweithgareddau, testun adolygu, fideos, clipiau sain a phrofion!

C2

Huw Stephens Yn ei Gr诺f!

G锚m: Yn y Gr诺f

Rhowch dro ar g锚m C2 - hwyl a sbri wrth ddewis Huw a mwy fel cyflwynydd!

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.